Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cefn Bangor a Chefn Fuches

CEFN BANGOR A CHEFN FUCHES

CYFEIRNOD GRID: SN 714797
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 404.3

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon ac mae’n gwbl anhysbys. Yn ystod y cyfnod Canoloesol nid ymddengys ei bod yn rhan o un o faenorau helaeth Ystrad Fflur na Chwm-hir. Mewn cyfnodau mwy diweddar, yn wahanol i ddaliadau mewn ardaloedd cyfagos, nid ymddengys i’r ardal hon gael ei hymgorffori mewn un o’r ystadau mawr megis Gogerddan, Trawscoed neu Nanteos, ac nid yw’r mapiau o’u hystadau yn cyfeirio ati. Y cofnod cartograffeg cyntaf felly yw map degwm 1845 o blwyf Llanbadarn Fawr. Dengys y map hwn dirwedd o ffermydd gwasgaredig a chaeau o faint bach i ganolig a chaeau mwy o faint yn ffinio â thir uwch yn y pen dwyreiniol. Gall y ffermydd a’r caeau fod yn eithaf hen, er y gall yr enwau llefydd Hafodau a Banc Hafodau gyfeirio at aneddiadau trawstrefa yn dyddio o’r Cyfnod Canoloesol neu o gyfnod diweddarach, a drowyd yn ffermydd sefydlog ar ôl hynny. Ni fu fawr ddim newidiadau mawr yn y patrwm anheddu na’r system gaeau yn ystod y cant a hanner o flynyddoedd diwethaf. Bu mwynglawdd plwm, Bwadrain, a yrrid gan olwyn ddðr wedi’i lleoli yn nyffryn Afon Rheidol 240m yn is i lawr, ar waith o 1838, ond roedd wedi cau erbyn diwedd y 19eg ganrif (Bick 1983, 21).

Cefn Bangor a Chefn Fuches

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Yn ei hanfod teras uchel yn ymdoddi i esgair is yn ei phen gorllewinol yw’r ardal hon ac fe’i lleolir rhwng 150m a 320m. I’r de ceir Cwm Rheidol ac, i’r gogledd yn y pen dwyreiniol, dir agored uwch. O gofio’r ffaith ei bod yn dra phoblog, mae’r ardal hon yn un gymharol anghysbell, a dim dim o’r dyffryn i’r gogledd neu drwy Ystumtuen i’r dwyrain y gellir ei chyrraedd. Mae’r rhan fwyaf o’r tir yn dir pori wedi’i wella, ond ceir pantiau brwynog a mawnaidd, a thir pori mwy garw ar rai llethrau serth a mannau uchel. Mae’r ardal wedi’i rhannu’n gaeau gan gloddiau. Dim ond ar gloddiau gerllaw rhai o’r ffermydd y ceir gwrychoedd ac mae’r gwrychoedd hyn, ar wahân i’r rhai gerllaw Cefn Bangor lle y caiff rhai gwrychoedd eu cynnal a’u cadw’n dda, wedi tyfu’n wyllt ac yn dechrau dirywio. Ceir rhai coed nodedig (ffawydd) yn y gwrychoedd ar dir is gerllaw ffermydd, coetir collddail ar gopa’r esgair a choetir prysglog gerllaw Hafodau. Mae ffensys gwifrau ar hen gloddiau yn darparu atalfeydd cadw stoc. Mae’r ffaith nad oes unrhyw wrychoedd na choed ym mhen dwyreiniol yr ardal yn rhoi golwg agored, anamgaeëdig i’r dirwedd, argraff sy’n llai cyffredin mewn mannau eraill.

Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig. Mae llawer o’r ffermydd naill ai wedi’u moderneiddio gryn dipyn neu wedi’u hailadeiladu, ac ni cheir fawr ddim anheddau modern eraill. Ceir o leiaf un ffermdy yn dyddio o’r 19eg ganrif; adeilad deulawr ydyw yn yr arddull frodorol Sioraidd ranbarthol nodweddiadol, er mai nodweddion Sioraidd yw’r rhai amlycaf yn yr achos hwn. Mae gan ffermydd un neu ddwy res o adeiladau allan o gerrig lleol yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae gan ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol modern, ond nid hwy yw elfennau amlycaf y dirwedd. Ceir ffermydd a bythynnod anghyfannedd.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn cynnwys mwyngloddiau mwyn ac aneddiadau ôl-Ganoloesol sydd wedi goroesi. Mae canfyddiadau Neolithig o ddau leoliad ar wahân a dau grug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant. I’r de ceir llethr goediog iawn, serth dyffryn Afon Rheidol, ac i’r gogledd a’r gogledd-orllewin ceir llethr goediog iawn, serth dyffryn Afon Melindwr. I’r gogledd-ddwyrain ceir rhostir agored, uchel.

Map Cefn Bangor a Chefn Fuches

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennolw