Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cefn Meurig

CEFN-MEURIG

CYFEIRNOD GRID: SN 725680
ARWYNEBEDD MEWN GRID: 166.4

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai rhan o’r ardal gymeriad hon o fewn maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty, rhoddwyd llawer o’i diroedd i Iarll Essex, y prynwyd y mwyafrif ohonynt gan ystad Trawscoed ym 1630, gan gynnwys tir yn yr ardal hon. Yn debyg i faenorau eraill a oedd yn eiddo i Ystad Fflur, mae’n debyg bod Mefenydd wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu yn fasnachol erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt. Mae’n bosibl felly i’r patrwm anheddu yn yr ardal hon gael ei sefydlu yn y 15fed ganrif neu’r 16eg ganrif. Ar fapiau hanesyddol mae’r ardal hon yn cynnwys nifer o wahanol fathau o dirwedd. Dengys y mapiau degwm (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847; Map Degwm a Rhaniad Ysbyty Ystwyth, 1848) yr ardal hon fel un rhannol agored, a rhannol amgaeëdig yn cynnwys caeau bach a mawr. Yn gynharach, dengys mapiau ystad o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Gweithredoedd Trawscoed Cyf 1, 68; Morgan Richardson Adn. 4) o fferm Cefn Meurig, fferm cloddiau a fferm nad yw’n bodoli bellach, batrwm tebyg lle mae’r ffermydd wedi’u lleoli mewn clwstwr o dri neu bedwar cae bach â system o gaeau mwy o faint neu dir agored o bob tu iddynt. Mae’n amlwg o ddiwedd y 18fed ganrif o leiaf roedd proses o greu caeau llai o faint o rai mwy o faint. Roedd y broses hon yn dal i fod ar waith adeg yr arolwg degwm, ond ymddengys ei bod wedi’i chwblhau erbyn y cyfnod o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd. Ers diwedd yr 20fed ganrif bu’r systemau caeau yn dirywio.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Ardal o dir sy’n raddol godi o 180m gerllaw pentref Pontrhydfendigaid yn ei phen de-ddwyreiniol, i bron 300m tua’r gogledd-orllewin. Mae elfennau’r dirwedd hanesyddol yn cynnwys caeau bach afreolaidd eu siâp a ffermydd a thai gwasgaredig. Ar y llethrau isaf yn ne-ddwyrain yr ardal rhennir y caeau gan gloddiau a gwrychoedd. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr eithaf da, er bod ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at rai ohonynt. Ar y llethrau uwch mae cyflwr y gwrychoedd yn gwaethygu a gwelir rhywfaint o newid yn y math o ffiniau a ddefnyddir a cheir cloddiau o bridd a cherrig a waliau sych wedi’u hesgeuluso wedi’u cymysgu â chloddiau. Ar y lefelau uchaf, yn y pen gogledd-orllewinol, mae’r dirwedd yn dechrau mynd yn anialwch. Ceir rhai clystyrau bach o goetir collddail. Ar y lefelau isaf tir pori wedi’i wella a geir gan fwyaf, sy’n mynd yn llai cyffredin ar y llethrau uwch. Ar y lefelau uchaf hyn ceir mwy o dir pori garw wedi’i orchuddio â rhedyn, er bod tir wedi’i wella i’w gael o hyd.

Carreg, sydd fel arfer wedi’i rendro ar anheddau ac wedi’i gadael yn foel ar adeiladau allan amaethyddol, yw’r deunydd adeiladu traddodiadol, a cheir llechi ar y toeau. Mae tai hþn sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd yn ôl pob tebyg yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae rhai o’r ffermdai wedi’u moderneiddio ac mae rhai eraill wedi’u hailadeiladu’n ddiweddar. Mae rhai adeiladau allan o gerrig yn gymharol fach ac maent yn ffurfio dwy neu dair rhes. Nid yw adeiladau amaethyddol concrid a dur modern yn sylweddol. Ceir hefyd nifer fach o dai a byngalos modern ar draws yr ardal.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys mwynglawdd metel bach, ac amlosgiad posibl yn dyddio o’r Oes Efydd.

Mae ffiniau’r ardal hon yn weddol bendant. I’r gogledd ac i’r gogledd-ddwyrain mae’r ardal hon yn ymdoddi i’r ardal gyfagos – tirwedd o gaeau mawr a thir pori mwy garw. I’r gogledd ac i’r gogledd-orllewin ceir tir mwy agored, ac i’r de ceir system gaeau reolaidd.

Map ardal Cefn Meurig

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221