Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cnwch

 

CNWCH

CYFEIRNOD GRID: SN 718714
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 35.1

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex. Ar ôl hynny, ym 1630, fe’u gwerthwyd i ystad Trawscoed. Mae’n debyg i gymeriad agored, ucheldirol yr ardal hon sicrhau yr ystyrid mai tir y Goron ydoedd. Mae wedi aros yn agored yn y bôn hyd heddiw.

Cnwch

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn llain fach o dir agored – bryn yn y bôn – sy’n amrywio o 220m yn y dwyrain i fyny at 320m i’r gorllewin. Arferai fod yn rhan o lain fawr o rostir, ond mae bron y cyfan o’r rhostir hwn bellach wedi’i blannu â choed coniffer. Mae’n agored ac yn ôl yr unig fap llawysgrif ar raddfa fawr o’r ardal, y map degwm (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847), bu’n agored ers 1847. Mae’n cynnwys tir pori wedi’i wella yn ogystal â thir mwy garw a thir wedi’i orchuddio â rhedyn ar lethrau serth, creigiog sy’n wynebu’r dwyrain. Ceir rhai cloddiau ffin diangen ar gyrion dwyreiniol yr ardal hon lle y mae’n cwrdd â thir âr. Mae’r cloddiau hyn yn cynrychioli’r ffin symudol rhwng tir agored a thir amgaeëdig. Mae ffensys gwifrau ar y cloddiau bellach yn nodi’r ffin. Mae nifer o domenni ysbwriel o lefelydd mwynau a cherrig. Mae’r map degwm yn nodi’r rhain fel chwareli llechi.

Mae’n amlwg bod creu planhigfa o goed coniffer ar dir a arferai fod yn agored wedi amddifadu’r ardal hon o lawer o’i chydlyniant a’i chyfanrwydd, ond mae digon o dir wedi goroesi i gyfiawnhau ei gosod ar wahân fel ardal gymeriad tirwedd unigol.

Map Cnwch

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]