Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cnwch Coch

CNWCH COCH

CYFEIRNOD GRID: SN 677751
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 79.4

Cefndir Hanesyddol

Roedd o leiaf ran o’r ardal hon, os nad y cyfan, yn dir comin yn wreiddiol, y rhoddwyd yr hawl i’w bori i eiddo yn perthyn i Ystadau Trawscoed, Cwmnewidion, Abertrinant a Nanteos (Morgan 1997, 209-13). Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd y rhan fwyaf o’r tir wedi’i rannu’n ddau hanner gan eiddo’r ystadau cyffiniol – hanner i Drawscoed a hanner i Abertrinant a Nanteos. Dengys map ystad dyddiedig 1781 (LlGC Gweithredoedd Trawscoed Rhif 5, Cyf IV Cyf 1, 16) dirwedd gymysg: mae’n cynnwys tir agored, tir amgaeëdig a choetir a phrysgwydd. Ym mis Mai 1797 codwyd bwthyn yn anghyfreithlon yng Nghnwch Coch, ond nid amgaewyd unrhyw dir. Erbyn 1814 roedd aneddiadau sgwatwyr wedi ymddangos, ac roedd y deiliaid wedi rhannu’r hyn a oedd ar ôl o’r tir comin rhyngddynt. Gorchmynnodd y Cyrnol Vaughan i’r bythynnod gael eu dymchwel, ac un o’i brif wrthwynebiadau oedd y gellid gweld y ‘Cytiau truenus yr olwg’ o ffenestri Plasty Trawscoed (Morgan 1997, 211). Gofynnodd y sgwatwyr am gael talu rhent. Yn y pen draw llwyddodd y sgwatwyr i gymryd meddiant o’r tir yr oeddynt wedi’i hawlio, am fod arolwg degwm 1847 (Llanfihangel-y-Creuddyn) yn cofnodi eu bod yn rhydd-ddeiliaid. Dengys y map degwm batrwm o gaeau sy’n debyg i’r un a welir heddiw. Adeiladwyd dau gapel yma yn y 19eg ganrif, un ym 1842 ac un ym 1865, ac ysgol yn ddiweddarach. Mae’n dal i fod yn gymuned fyw.

Cnwch Coch

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Lleolir yr ardal gymeriad fach hon ar lethr dyffryn serth yn wynebu’r de sy’n codi i dir uwch tonnog i’r gogledd. Mae’n amrywio o ran uchder o 90m i 260m. Erbyn hyn nodweddir y dirwedd gan gaeau bach afreolaidd eu siâp o dir pori wedi’i wella, a chlystyrau o goetir collddail a phlanhigfeydd modern o goedwigoedd. Ymddengys i’r patrwm hwn ddatblygu pan sefydlwyd anheddiad sgwatwyr Cnwch Coch ar ddiwedd y 18fed ganrif. Cyn y dyddiad hwn ymddengys i’r llethrau serth a/neu’r tir cymharol uchel atal unrhyw ddefnydd amaethyddol dwys yn y cyfnod hanesyddol; sy’n esbonio’r cyfeiriad at dir comin yn y ffynonellau hanesyddol. Ffurfiwyd y caeau a grëwyd yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif gan ddefnyddio cloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae’r ffiniau hyn yn dal i fod mewn cyflwr da, ac mae llawer o’r gwrychoedd yn cadw stoc, er bod rhai yn arbennig ar dir uwch yn dechrau dirywio, ac mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu atynt neu maent wedi’u disodli.

Mae cymeriad cnewyllol llac Cnwch Coch yn annodweddiadol o anheddiad sgwatwyr yng Ngheredigion – patrwm o fythynnod gwasgaredig a geir fel arfer. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau wedi’u hadeiladu o gerrig wedi’u rendro neu wedi’u paentio a cheir llechi ar y toeau. Fodd bynnag, mae’n debyg bod y rendrad sment ar rai adeiladau dros glom (pridd) yn hytrach na cherrig. Mae’n debyg bod y mwyafrif o’r tai hþn yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd ac maent yn cynnwys nifer o enghreifftiau o fythynnod brodorol unllawr bach (mae dau yn rhestredig, gweler hefyd Smith 1998, Ffig. 94) yn ogystal â bythynnod/tai deulawr yn y traddodiad brodorol Sioraidd rhanbarthol nodweddiadol, ond sydd ag elfennau brodorol cryfach nag a geir fel arfer. Lleolir bwthyn brics aml-liwiog anarferol (rhestredig) yn y pentref. Mae nifer o’r tai/bythynnod yn dyddio o’r 19eg ganrif wedi’u moderneiddio. Ceir tai a byngalos yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif wedi’u gwasgaru ymhlith yr anheddau hþn. Lleolir ysgol, rhai adeiladau fferm yn dyddio o’r 19eg ganrif a strwythurau amaethyddol modern mawr yn y pentref hefyd. Saif capel a thþ yn dyddio o’r 19eg ganrif nepell o’r pentref.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys adeiladau sydd wedi goroesi.

Nid yw ffiniau’r ardal dirwedd hon yn bendant iawn. I’r de, i’r gorllewin ac i’r dwyrain ceir tir amgaeëdig a ffermir yn fwy dwys. I’r gogledd ceir tir a arferai fod yn agored, sydd bellach yn debyg i’r ardal hon.

Map ardal Cnwch Coch

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221