Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Coed Bwlchgwallter

COED BWLCHGWALLTER

CYFEIRNOD GRID: SN 771718
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 337.6

Cefndir Hanesyddol

Gorweddai’r ardal hon, yn y Cyfnod Canoloesol, o fewn Maenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty mae’n debyg iddi ddod i feddiant y teulu Herbert o Gastell Powys, ynghyd â llawer o ddaliadau eraill y gyn-fynachlog, er y byddai’r rhannau agored wedi aros yn dir y Goron. Erbyn ei ddiddymu, ac am lawer o ddegawdau cyn hynny yn ôl pob tebyg, roedd maenorau’r abaty wedi’u rhannu’n ffermydd ac yn cael eu prydlesu yn fasnachol. Cofnodwyd un fferm yn yr ardal, sef Bwlchgwallter, felly ym 1545-50 (Morgan 1991). Ffurfiai daliadau Herbert yng Nghwmystwyth graidd ystad Hafod Thomas Johnes ar ddiwedd y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19eg ganrif. Erbyn 1834 mae’n amlwg bod tir agored y Goron a ffurfiai’r rhan fwyaf o’r ardal hon wedi dod i feddiant yr ystad neu fod yr ystad wedi cymryd meddiant ohoni, fel y dangosir ar fap o’r ystad. Ym 1866, bu’r tir agored yn destun Deddf Amgáu (Chapman 1992, 53; LlGC Cerdyn CC Adnau 6), yr ymddengys na chafodd fawr ddim effaith ar y dirwedd ffisegol, er iddi gael ei dyfarnu. Ar ddechrau’r 1950au, prynwyd ystad Hafod gan y Comisiwn Coedwigaeth a chychwynnwyd rhaglen goedwigo ar raddfa fawr. Mae ffiniau’r coedwigoedd hyn a’r ardal dirwedd hon i’r dwyrain, i’r de ac i’r gorllewin yn dilyn ffiniau ystad yr Hafod fel y’i dangosir ar y map o’r ystad dyddiedig 1834. Mae ffermdy Bwlchgwallter wedi goroesi mewn poced o dir sydd heb ei blannu â choed.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn llain fawr o dir tonnog uchel, yn amrywio o 300m i 470m, y gorchuddir y cyfan ohoni â phlanhigfeydd o goed coniffer. Cyn ei phlannu â choedwigoedd roedd y rhan fwyaf o’r ardal hon yn rhostir ac yn ffridd agored, er bod rhai ffiniau i’w cael, yn arbennig gerllaw tþ Bwlchgwallter, lle’r oedd y tir wedi’i rannu’n gaeau gan gloddiau, cloddiau pridd a cherrig ac ambell wal sych. Mae’n debyg mai gwaith Thomas Johnes ar ddiwedd y 18fed ganrif oedd y waliau sych; mae’r rhain i gyd yn ddiangen erbyn hyn ac wedi’u gorchuddio â choedwigoedd. Mae tþ Bwlchgwallter, tþ bychan sydd wedi’i foderneiddio gryn dipyn yn dyddio o’r 19eg ganrif, wedi goroesi. Planhigfeydd, lonydd, ffyrdd a nodweddion coedwigol eraill yw elfennau mwyaf cyffredin ac amlycaf y dirwedd hanesyddol.

Ar wahân i groto, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys elfennau amaethyddol ôl-Ganoloesol dibwys.

Mae i’r ardal dirwedd hon ffiniau pendant iawn a cheir rhostir agored i’r dwyrain ac i’r de, tir agored yn cynnwys caeau mawr i’r gorllewin a chraidd ystad yr Hafod yng Nghwm Ystwyth i’r gogledd.

Coed Bwlchgwallter

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221