Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cwm Berwyn

CWM BERWYN

CYFEIRNOD GRID: SN 696539
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 3177

Cefndir Hanesyddol

Arferai’r ardal gymeriad hon orwedd o fewn Cwmwd Penardd. Gorweddai rhan fawr ohoni o fewn ystad Esgob Tyddewi yn Llanddewibrefi, ac mae’n debyg yr ystyrid mai tir y Goron oedd y gweddill. Mae tystiolaeth enw lle - sef Llethr Hafodydd - yn awgrymu bod trawstrefa yn cael ei arfer yn y gorffennol. Fe’i lleolir ar y naill ochr a’r llall i lwybr tros fynydd a gysylltai Dregaron â thiroedd i’r gorllewin, rhan uchaf dyffryn Afon Tywi a’r dwyrain. Llinell gyfathrebu bwysig iawn ydoedd yn y gorffennol, ond erbyn hyn fe’i defnyddir yn bennaf gan dwristiaid. Ar wahân i’r blaen deheuol pellaf, a oedd wedi’i rannol amgáu cyn i’r ardal gael ei phlannu â choedwigoedd, cynhwysai’r cyfan o’r ardal dirwedd hanesyddol hon rostir a ffridd agored. Yn y 1960au plannodd y Comisiwn Coedwigaeth yr ardal gyfan â choedwigoedd.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn llain eang o goedwigoedd ag ymyl caled sy’n ymestyn dros dir a arferai fod yn agored. Mae’n codi i dros 480m lle y mae ar ei huchaf, ar gyfartaledd mae rhwng 400-450m o uchder, ac mae’n disgyn i tua 300m yn ei phen deheuol. Ar wahân i gaeau yn y pen deheuol, roedd yr ardal hon i gyd yn rhostir agored cyn iddi gael ei phlannu â choedwigoedd yn y 1960au. Erbyn hyn y planhigfeydd, y lonydd a nodweddion coedwigo eraill yw prif elfennau tirwedd yr ardal hon.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn gyfoethog ac yn amrywiol. At ei gilydd mae’n cynnwys bythynnod a ffermydd anghyfannedd yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol, a nodweddion amaethyddol eraill megis arwyddion terfyn a fodolai cyn i’r ardal gael ei phlannu â choedwigoedd. Fodd bynnag, mae tri chrug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd a dau safle tebyg tybiedig, maen hir yn dyddio o’r Oes Efydd, dau faen hir posibl yn dyddio o’r un cyfnod, a gwersyll cyrch Rhufeinig, yn darparu elfen o ddyfnder amser ar gyfer y dirwedd.

Mae terfynau’r ardal wedi’u diffinio’n glir gan y tir agored oddi amgylch.

Map o ardal Cwm Berwyn

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221