Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cwm Gwyddyl

CWM GWYDDYL

CYFEIRNOD GRID: SN 740693
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 596.9

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Fel maenorau eraill, mae’n debyg erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol fod Mefenydd wedi’i rhannu’n ffermydd unigol a gâi eu prydlesu yn fasnachol. Fel hyn efallai y sefydlwyd y ffermydd yn yr ardal hon. Pan ddiddymwyd Ystrad Fflur rhoddwyd tiroedd yr abaty i Iarll Essex. Ym 1630, prynodd ystad Trawscoed y rhan fwyaf ohonynt. Ymddengys fod yr ardal hon yn un ymylol a deinamig ac mae mapiau hanesyddol yn cadarnhau natur ddeinamig y dirwedd (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847; LlGC Trawscoed Cyf 1, 66, 68; LlGC Trawscoed 340; LlGC Morgan Richardson Adnau Rhif 4 a 5). Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif sawl math o dirwedd. Yn y de dangosir ardal Bryn Capel fel un agored, a dangosir yr ardal o amgylch Fferm Llethr fel nifer o gaeau bach mewn ffridd agored; yr un yw’r disgrifiad o Ysguboriau a Thynpontpren. At ei gilydd yn ystod y cyfnod hwn roedd hon yn ardal o ffermydd gwasgaredig â chaeau neu badogau bach wedi’u lleoli mewn tir agored. Erbyn yr arolwg degwm (Gwnnws 1847) roedd rhai o’r ffriddoedd wedi’u hamgáu ac roedd caeau mwy o faint wedi’u hisrannu. Ymddengys i’r broses hon barhau drwy gydol y 19eg ganrif. Yn yr 20fed ganrif dirywiodd y system amaethyddol, a gadawyd ffermydd a bythynnod. Gadawyd i lawer o gaeau droi’n dir pori garw unwaith eto.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys dyffryn agored, eang, helaeth sydd bellach yn cynnwys nant afrwydd. Mae’n amrywio o ran uchder o 200m yn y pennau deheuol a gogleddol i 340m ar y llethrau dwyreiniol. Mae golwg ardal gydryw o dir pori garw a rhostir agored, yn gymysg â thir pori wedi’i wella, yn cuddio hanes tirwedd cymhleth. Roedd yr ardal hon i gyd wedi’i amgáu gynt. Mae maint y caeau yn amrywio’n fawr o rai bach i rai mawr, mae’r caeau llai o faint fel arfer yn agosach at ffermydd. Mae’r mathau o ffiniau yn amrywio, ond y clawdd yw’r math mwyaf cyffredin. Ceir cloddiau â wyneb o gerrig ac ambell wal sych hefyd. Mae’r gwrychoedd wedi diflannu neu maent wedi’u hesgeuluso’n fawr ac mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu atynt. Yn achlysurol iawn rhennir caeau gan ffosydd. Mae llawer o gaeau wedi’u cyfuno i ffurfio unedau mwy o faint, neu nid ydynt yn cael eu defnyddio bellach. Yr argraff gyffredinol a rydd yr ardal hon yw un o dir pori garw iawn, yn tueddu tuag at rostir â dyddodion mawnaidd mewn pantiau. Fodd bynnag, ceir lleiniau sylweddol o dir pori wedi’i wella. Mae’r rhain yn dueddol o fod wedi’u lleoli lle y mae’r system gaeau wedi cael ei chynnal a’i chadw. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd a bythynnod gwasgaredig, gan gynnwys sawl safle anghyfannedd. Mae sawl planhigfa fach o goed coniffer wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd, ond ar wahân i’r rhain, ardal ddi-goed ydyw yn ei hanfod. Mae olion y diwydiant cloddio metel wedi’u gwasgaru ar draws rhan ddwyreiniol yr ardal, ond mae’r rhain yn ddinod o’u cymharu â’r olion yn yr ardal gyfagos i’r dwyrain.

Mae’n debyg bod yr adeiladau hþn yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd ac maent wedi’u hadeiladu o gerrig sydd fel arfer wedi’u rendro â sment ar dai ac wedi’u gadael yn foel ar adeiladau allan. Mae gan y tai ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd ranbarthol – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Ceir nodweddion brodorol cryf megis bondo isel, cynllun llawr anghymesur, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy na’r llall ar rai tai. Mae rhai ffermdai wedi’u hailadeiladu/adnewyddu neu maent wedi’u disodli gan dai neu fyngalos modern. Mae adeiladau allan ffermydd yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg fel arfer yn fach ac maent yn ffurfio un neu ddwy res, ond mae cwpl o enghreifftiau mwy o faint ar rai ffermydd. Nid yw’r ffermydd fel y dangosir gan eu hadeiladau yn amrywio’n fawr, ond ceir ffermydd o wahanol faint fel y dangosir gan y ffaith bod gan ffermydd llai o faint un rhes o adeiladau allan ynghlwm wrth y tþ ac yn yr un llinell ag ef, drwodd i ffermydd mwy o faint y mae eu hadeiladau wedi’u gosod yn fwy ffurfiol o amgylch iard. Mae gan y mwyafrif o ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern bach, ond ceir cwpl o enghreifftiau o adeiladau modern mawr iawn. Mae nifer o fythynnod, tai a bythynnod anghyfannedd yn y dirwedd hon.

Yn ogystal â bythynnod anghyfannedd ac olion y diwydiant cloddio metel, mae dau faen hir yn dyddio o’r Oes Efydd yn cynrychioli archeoleg gofnodedig yr ardal hon. Mae’r rhain yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd.

Nid yw ffiniau’r ardal hon yn arbennig o bendant i’r dwyrain ac i’r gorllewin, a cheir yr un patrwm o gaeau mawr a thir o ansawdd gwael yn yr ardaloedd cyfagos hyn. I’r gogledd ac i’r de ac i’r de-orllewin mae’r ffiniau yn fwy pendant lle y ceir lleiniau o dir wedi’i wella a chaeau llai o faint.

Cwm Gwyddyl

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221