Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cwm Magor

CWM-MAGOR

CYFEIRNOD GRID: SN 689757
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 76.7

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes anheddu’r dyffryn cul, pengaead ac anghysbell hwn sydd â llethrau serth iawn cyn canol y 18fed ganrif. Fferm ar ystad Nanteos a gâi ei gosod i denant oedd Cwm-magor, ac fe’i dangosir ar fap o’r ystad dyddiedig 1764-5 (LlGC Nanteos 349) fel daliad sy’n debyg iawn o ran ei gymeriad i’r un a welir heddiw – sef fferm anghysbell â chaeau bach ar lawr y dyffryn, a thir agored yn dechrau ar y llethrau isaf ac yn parhau i fyny llethrau’r dyffryn at dir uwch. Erbyn 1819 roedd Blaen cwm-magor a Chwm-magor wedi dod i feddiant ystad Trawscoed. Dengys mapiau o’r ystad yn dyddio o’r cyfnod hwn (LlGC Trawscoed Cyf 1, 16 a 41) fferm Blaen cwm-magor fel y mae heddiw a chanddi gaeau bach ar lawr y dyffryn. Mae’n ddiddorol nodi bod y map o Gwm-magor yn dangos lleiniau o dir âr agored ar rai o’r llethrau isaf. Oherwydd y topograffi mae’n debyg bod llawr ffrwythlon y dyffryn wedi’i ffermio a’i amgáu ar raddfa fwy dwys ers y Cyfnod Canoloesol o leiaf, na thir garw llethrau serth y dyffryn na wneid fawr ddim defnydd ohono.

Cwm Magor

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Yn draddodiadol yr unig ffordd i mewn i’r dyffryn pengaead, cul hwn oedd o’r pen de-orllewinol agored, ond mewn cyfnodau mwy diweddar torrwyd llwybrau i mewn i’r llethr gogleddol a’r pen gogledd-ddwyreiniol. Fodd bynnag, mae’n dal i fod yn ddyffryn cymharol anghysbell. Mae llawr y dyffryn tua 120m o uchder; mae’r llethrau’n codi i dros 300m. Mae tair fferm wedi’u gwasgaru ar hyd y dyffryn. Ar lawr y dyffryn a’r llethrau isaf, gerllaw pob fferm, ceir caeau bach, afreolaidd eu siâp. Eto i gyd ar lawr y dyffryn a’r llethrau isaf ond ymhellach i ffwrdd o’r anheddau, mae caeau sydd ychydig yn fwy o faint ac ychydig yn fwy rheolaidd yn nodi episod neu episodau diweddarach o amgáu. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr eithaf da, ond mae rhai wedi’u hesgeuluso ac, mewn rhai achosion, maent yn dechrau tyfu’n wyllt. Mae ffensys gwifrau wedi’u rhoi yn lle rhai gwrychoedd. Tua’r pen de-orllewinol, ar lannau Nant Magor ceir clystyrau bach o goetir collddail. Mae bron pob cae yn cynnwys tir pori wedi’i wella.

Ymddengys fod y tai yn yr arddull frodorol Sioraidd ranbarthol nodweddiadol yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Maent wedi’u hadeiladu o gerrig wedi’u rendro a cheir llechi ar y toeau. Mae rhesi bach o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig ac adeiladau amaethyddol modern bach yn gysylltiedig â’r ffermydd.

Mae i’r ardal gymeriad tirwedd hon ffiniau eithaf pendant. Ceir tir agored ar lethrau serth i’r gogledd, i’r dwyrain ac i’r gorllewin, ond i’r de-orllewin mae’r ardal hon yn ymdoddi i dir amgaeëdig ardaloedd cymeriad sy’n debyg o ran eu golwg.

Map o ardal Cwm Magor

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]