Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cwm Mynach

CWM MYNACH

CYFEIRNOD GRID: SN 753768
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 68.33

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol roedd y rhan o’r ardal hon i’r de o Afon Mynach, os nad yr ardal gyfan, yn rhan o Faenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty mae’n debyg i’r teulu Herbert brynu’r rhan hon o’r faenor. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd wedi’i hymgorffori yn ystad yr Hafod a oedd yn eiddo i Thomas Johnes. Dangosir y rhan ddeheuol ohoni ar fap o ystad yr Hafod dyddiedig 1834. Erbyn yr 16eg ganrif roedd maenorau’r abaty wedi’u rhannu’n ffermydd, a gâi eu prydlesu a’u ffermio fel unedau unigol. Mae dogfen yn dyddio o 1545-50 (Morgan 1991) yn rhestru’r ffermydd ym maenor Cwmystwyth; ni chyfeirir at yr un o’r ffermydd yn yr ardal hon, er y cofnodir daliadau dienw. Mae’n debyg bod yr ardal hon ynghyd â gweddill y faenor wedi’i rhannu’n ffermydd, ac wedi’i hamgáu o bosibl i ffurfio’r system gaeau bresennol erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol o leiaf. Mae’r map degwm yn darparu’r cofnod da a chyflawn cyntaf o’r ardal. Dengys y map hwn dirwedd sy’n debyg iawn i’r un a welir heddiw.

Cwm Mynach

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae rhan uchaf Cwm Mynach, sy’n cynnwys llawr y dyffryn a llethrau isaf y dyffryn, yn amrywio o ran uchder o 220m i 280m. Yn y fan hon mae’r dyffryn yn gul ac mae ei lethrau’n serth. Erbyn hyn mae llethrau uwch y dyffryn wedi’u gorchuddio â choedwigoedd. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf yn yr ardal hon; anaml y ceir tir pori mwy garw ar lethrau serth a phantiau brwynog. Nodweddir yr ardal gan system o gaeau bach, afreolaidd eu siâp a rennir gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae rhai gwrychoedd mewn cyflwr da, ond ni all y mwyafrif ohonynt gadw stoc bellach ac maent yn dechrau tyfu’n wyllt ac yn cael eu hesgeuluso. Serch hynny, elfen amlwg iawn ydynt o’r dirwedd hanesyddol. Erbyn hyn mae ffensys gwifrau yn darparu ffiniau cadw stoc ar hyd y mwyafrif o’r gwrychoedd. Mae clystyrau bach, gwasgaredig o goetir llydanddail ynghyd â’r gwrychoedd yn rhoi golwg weddol goediog i’r dirwedd. Mae’r patrwm anheddu yn cynnwys dwy fferm. Ymddengys i dþ un o’r ffermydd hyn gael ei ailadeiladu yn ddiweddar. Mae’r llall yn enghraifft ardderchog o fferm ucheldirol. Mae gan y ffermdy deulawr o gerrig wedi’u paentio nodweddion brodorol cryf (ond mae yn y traddodiad brodorol Sioraidd rhanbarthol) ac mae’n dyddio yn ôl pob tebyg o ddechrau’r 19eg ganrif. Mae ganddo nifer o adeiladau allan o gerrig wedi’u gosod yn lled ffurfiol o amgylch buarth, ac adeiladau amaethyddol modern.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn bennaf yn cynnwys yn bennaf olion y diwydiant cloddio metel. Mae sawl enw lle sydd o ddiddordeb am eu bod yn darparu rhywfaint o ddyfnder amser i’r dirwedd, ac efallai eu bod yn nodi lleoliad mynwentydd neu sefydliadau mynachaidd yn dyddio o’r Oesoedd Tywyll.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant iawn. I’r gogledd-ddwyrain, i’r dwyrain ac i’r de-ddwyrain, ar lethrau uwch llethr y dyffryn ceir planhigfa o goedwigoedd yn dyddio o’r 20fed ganrif. Ceir tir agored i’r de ac ardal o gaeau mawr i’r gogledd.

Cwm Mynach

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]