Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cwmnewidion

CWMNEWIDION

CYFEIRNOD GRID: SN 710745
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 128.0

Cefndir Hanesyddol

Erbyn dechrau’r 17eg ganrif roedd Cwmnewidion yn ystad annibynnol fach a oedd yn eiddo i Hugh Vaughan (nad oedd yn perthyn i’r teulu Vaughan o Drawscoed gerllaw), a chynhwysai o fewn yr ardal gymeriad tirwedd hon fferm a melin Cwmnewidion Isaf, Gilwern, a dwy fferm yn Rhos-rhudd (Morgan 1997). Fel y noda Morgan (tud23), nid yw’n hysbys o ble y deilliodd cyfoeth a statws teuluoedd yr ystadau bach hyn. Fodd bynnag, roedd y teulu Vaughan yng Nghwmnewidion yn ddigon cyfoethog i brynu tiroedd yng Nghwmystwyth a arferai berthyn i faenorau Ystrad Fflur. Yn y 1780au prynodd ystad Trawscoed ystad Cwmnewidion (Moran 1997, 196). Dengys mapiau o’r ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif batrwm caeau sy’n debyg i’r un a welir (LlGC Gweithredoedd Trawscoed 5, Cyf IV, Cyf 1; 18 a 42). Dengys y map o Gwmnewidion dir amgaeëdig ar lawr y dyffryn, a llethrau coediog iawn a thir agored uwchlaw. Dangosir patrwm tebyg ar y map o Lanerchpentir. O ganol y 19eg ganrif daeth cloddio am blwm yn elfen bwysig yn economi’r ardal. Bu nifer o fwyngloddiau, sef Red Rock, West Frongoch, Wemyss a Graiggoch yn gweithio terfynau gorllewinol gwythïen Frongoch (Bick 1974, 16-17). Buwyd yn gweithio Wemyss ym mhen dwyreiniol Cwmnewidion o 1861 hyd 1899, a Chraiggoch o 1841 hyd 1889, er i dystiolaeth o lefelydd cynharach gael ei nodi yma ym 1840. Adeiladwyd capel yma yn y 19eg ganrif.

Cwmnewidion

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Cwmnewidion yn ddyffryn cul â llethrau serth. Mae llawr y dyffryn yn codi o 100m yn y pen gorllewinol i dros 200m yn y dwyrain. Mae llethrau’r dyffryn yn codi i dros 300m. Mae’r ardal dirwedd yn cynnwys llawr y dyffryn a llethrau isaf y dyffryn, ond nid y llethrau uchaf. Mae isffordd, sy’n llwybr lleol pwysig serch hynny, yn rhedeg ar hyd ochr ogleddol llawr y dyffryn gan gysylltu tiroedd ffrwythlon rhan isaf dyffryn Afon Ystwyth â Phontrhydygroes a Chwmystwyth. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig wedi’u lleoli wrth waelod llethrau serth a thir amgaeëdig yn ymestyn ar draws llawr y dyffryn. Mae’r caeau yn fach ac yn afreolaidd eu siâp ac fe’u rhennir gan gloddiau isel. Arferai fod gwrychoedd ar y cloddiau, ond ar wahân i ran orllewinol bellaf yr ardal mae’r gwrychoedd hyn wedi diflannu ac erbyn hyn mae gwifrau wedi’u rhoi yn eu lle. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf ar lawr y dyffryn, sy’n cael ei ddisodli gan dir o ansawdd gwaeth ar y llethrau isaf. Mae’r tir yma wedi’i amgáu yn rhaniadau mwy o faint, ond mae’r cloddiau ffin yn ddiangen a rhoddwyd gwifrau yn eu lle. Ceir clystyrau o goetir collddail a choedwigoedd yn dyddio o’r 20fed ganrif ym mhen gorllewinol yr ardal.

O fewn yr ardal hon mae ffermdy Sioraidd deulawr cerrig Cwmnewidion Isaf, a adeiladwyd gan Ystad Trawscoed, a’i res o adeiladau allan o gerrig sydd wedi’u trefnu’n ffurfiol o amgylch iard heb fod ymhell o’r tþ, fel sy’n arferol yn achos preswylfa “bonheddwr”. Mae’r ffermydd eraill yn symlach, a cheir tai deulawr o gerrig wedi’u rendro yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd. Mae’r ffermdai yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan un tþ o leiaf nodweddion brodorol cryf. Mae rhai ffermdai wedi’u disodli gan anheddau modern a cheir nifer o anheddau modern eraill a/neu dai hþn sydd wedi’u moderneiddio gryn dipyn yn yr ardal hon. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau fferm hþn yn gymharol fach, maent wedi’u hadeiladu o gerrig ac yn dyddio o’r 19eg ganrif, er y ceir strwythurau brics hefyd. Ar wahân i un fferm, nid yw’r adeiladau amaethyddol modern yn fawr, ac yn wir, nid yw nifer o’r ffermydd yn gweithio bellach, nid oes ganddynt unrhyw adeiladau modern, ac ni ddefnyddir eu hen adeiladau allan.

Mae olion y diwydiant cloddio metel yn elfen bwysig a nodedig yn y dirwedd hon. Mae’r olion hyn wedi’u crynhoi tua phen dwyreiniol y dyffryn ac maent yn cynnwys tomenni ysbwriel ac adeiladau mwyngloddiau tra amlwg. Mae adeiladau’r mwyngloddiau sydd wedi’u hadeiladu o gerrig lleol yn ddi-do, ond maent yn sefyll mewn rhai achosion i’w huchder gwreiddiol. Mae’r adeiladau yn cynnwys gorsaf gynhyrchu ym mwynglawdd Frongoch a gyflenwid gan biblinell o gronfa ddðr i’r gogledd.

Ar wahân i olion mwyngloddiau metel; mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys safle melin a chapel.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant a cheir llethrau serth i’r gogledd, i’r gorllewin ac i’r dwyrain. Fodd bynnag, ym mhen gorllewinol agored y dyffryn nid yw’r ardal dirwedd hon yn ffurfio unrhyw ffin bendant â thir amgaeëdig ardaloedd cyfagos.

Map o ardal Cwmnewidion

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221