Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cwmystwyth

CWMYSTWYTH

CYFEIRNOD GRID: SN 806748
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 137.6

Cefndir Hanesyddol

Diffiniwyd yr ardal dirwedd hanesyddol hon gan y diwydiant cloddio. Dangosodd cloddiadau archeolegol fod pobl yn cloddio am gopr brig yma yn yr Oes Efydd (Timberlake 1995), ac mae pobl wedi bod yn cloddio am blwm yma ers y cyfnod Rhufeinig o leiaf (Bick 1974, 19-23; Hughes 1981). Mae’n debyg y câi metel ei gloddio o dan reolaeth Abaty Ystrad Fflur yn yr Oesoedd Canol am fod yr ardal hon wedi’i lleoli o fewn Maenor Cwmystwyth. Yn y 18fed ganrif bu pobl yn chwilio am wythiennau trwy ddefnyddio llif sydyn o ddðr i sgwrio wyneb y ddaear - dull a elwir yn ‘hushing’ yn Saesneg, ac mae sianeli a chronfeydd dwr y broses hon i’w gweld o hyd. Mae gweithgarwch cloddio am fetel yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif wedi gadael casgliad dryslyd o olion, paradwys i’r archeolegydd diwydiannol, gan gynnwys: tomenni, siafftiau, tramffyrdd, incleins, mwyngloddiau brig, tai mathru ac adeiladau eraill. Ar ddiwedd y 19eg ganrif arweiniodd y chwilio am flend at adeiladu tþ mathru mawr - dim ond yn ddiweddar yr ysgubwyd ei olion rhydlyd ymaith - a safleoedd eraill. Daeth y gwaith i ben yng Nghwmystwyth ym 1921.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon, a ddiffinnir yn gyfan gwbl gan archeoleg ddiwydiannol, yn gorwedd ar draws llethrau a llawr dyffryn Afon Ystwyth. Mae gan y dyffryn yn y fan hon broffil dwfn ar ffurf U, ac mae’r llawr sy’n 300m o uchder a’r llethrau yn codi i dros 500m. Mae’r llethrau’n greigiog, yn debyg i glogwyni hyd yn oed ar yr ochr ogleddol. Mae’n fwy tebygol bod y nifer fawr o lethrau sgri yn deillio o weithgarwch cloddio nag o broses naturiol. Ceir olion gweithgarwch cloddio ym mhobman. Mae’r rhain yn amrywiol ac mae’r mwyafrif ohonynt yn gadarn. Mae olion strwythurau wedi’u hadeiladu o gerrig yn yr ardal – yn ddomestig ac yn ddiwydiannol - wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd. Mae llawer mewn cyflwr peryglus.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys olion sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r diwydiant cloddio metel, gan gynnwys canfyddiadau yn dyddio o’r Cyfnod Rhufeinig, neu olion sy’n gysylltiedig yn anuniongyrchol â’r diwydiant megis bythynnod gweithwyr anghyfannedd.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant ac mae’n cynnwys archeoleg ddiwydiannol y diwydiant cloddio metel. I’r gogledd ac i’r de ceir rhostir uchel, agored, ac i’r dwyrain ac i’r gorllewin ceir llawr amgaeëdig a chyfannedd dyffryn Afon Ystwyth.

Map ardal Cwmystwyth

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]