Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cyneiniog

CYNEINIOG

CYFEIRNOD GRID: SN 719881
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 70.1

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon, ac felly nid yw’n hysbys. Yr unig anheddiad yn yr ardal yw Fferm Cyneiniog a’i system gaeau gysylltiedig. Roedd y fferm hon yn bodoli erbyn dechrau’r 19eg ganrif, ac mae’n debyg ei bod yn hen iawn. Erbyn hyn mae coedwigoedd a blannwyd yn y 1960au yn gwahanu’r fferm hon a rhan isaf dyffryn Cyneiniog. Cynhwysir rhan o’r blanhigfa yn yr ardal hon. Mae rheilffordd/tramffordd fyrhoedlog a adeiladwyd ym 1897 i wasanaethu’r mwyngloddiau ar dir uchel i’r dwyrain yn mynd trwy’r ardal hon.

Cyneiniog

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae rhan uchaf dyffryn Cyneiniog yn serth ac yn gul. Mae llawr y dyffryn yn 180m o uchder, ac mae llethrau’r dyffryn yn codi i dros 400m. Dim ond llawr y dyffryn a’r llethrau isaf sy’n disgyn yn raddol a gynhwysir yn yr ardal hon. Yn torri ar draws yr ardal hon, ond wedi’i chynnwys ynddi, ac yn gwahanu’r dyffryn i’r dwyrain a’r un i’r gorllewin, mae planhigfa o goed coniffer a blannwyd yn y 1960au. I’r gorllewin o’r coedwigoedd mae llawr y dyffryn wedi’i rannu’n gaeau bach gan gloddiau a waliau ffin. Mae rhai o’r caeau hyn wedi tyfu’n wyllt ac maent yn dechrau troi’n dir pori garw ac yn rhostir unwaith eto, er bod eraill yn dal i gael eu defnyddio fel gweirgloddiau. Mae coetir collddail agored iawn, a ymsefydlodd ar y llethrau isaf, yn rhoi cymeriad nodedig i’r ardal hon. Nid archwiliwyd yr ardal i’r dwyrain o’r blanhigfa, gan gynnwys Fferm Cyneiniog, ar y ddaear. Mae arglawdd a nodweddion eraill rheilffordd/tramffordd yn elfennau yn y dirwedd hanesyddol.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys mwyngloddiau metel dinod ac anheddiad ôl-Ganoloesol anghyfannedd. Maent i gyd wedi’u lleoli ar ffin ddeheuol yr ardal hon.

Nid yw’r ffin rhwng yr ardal hon a dyffryn Cyneiniog i’r gorllewin yn glir iawn a dylid ystyried ei bod yn barth newid yn hytrach na llinell galed. Mae llethr serth o rostir agored yn darparu ffin bendant i’r de. Wedi’i chynnwys yn yr ardal hon mae coedwigoedd modern, y neilltuwyd eu hardal eu hunain ar gyfer y mwyafrif ohonynt.

Map ardal Cyneiniog

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221