Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cynnull

CYNNULL

CYFEIRNOD GRID: SN 655877
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 178.2

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Fodd bynnag, ymddengys fod dwy fferm Cynnull Mawr ac Argoed Fach yn aneddiadau pwysig a hen iawn; yn seiliedig efallai ar system dirddaliadaeth lwythol a fodolai cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd. Ym 1764 cofnodwyd demenau Cynnull Mawr ac Argoed Fach ar fap ystad (LlGC Gogerddan 35). Mae’n debyg i’r ystad hon gael ei ffurfio o system ddaliadaeth gynharach ar ddiwedd y Cyfnod Canoloesol neu ar ddechrau’r cyfnod modern pan oedd cysyniad o berchenogaeth breifat yn dechrau cael ei dderbyn. Dengys y map o’r ystad dyddiedig 1764 y ddwy fferm (a fferm anghyfannedd), wedi’u cysylltu ag ychydig o gaeau bach, afreolaidd eu siâp, a thir agored neu gaeau mawr o dir âr a thir pori ymhellach allan. Ar ffin orllewinol yr ardal, ar lethrau is, dangosir system o gaeau afreolaidd eu siâp. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd yr ardal hon i gyd wedi’i hamgáu, er bod ffynonellau cartograffig yn dangos caeau mwy o faint ar dir uwch. Nid yw’r ardal wedi newid fawr ddim ers canol y 19eg ganrif.

Cynnull

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Yn ei hanfod clustogfa yw’r ardal hon rhwng y tir is mwy poblog ac amgaeëdig i’r gorllewin, ac ucheldir agored i’r dwyrain. Mae’n cynnwys llethrau gorllewinol bryn, y mae ei lethrau isaf yn disgyn o dan 100m, ac y mae ei gopa dros 250 o uchder. Tirwedd o ffermydd gwasgaredig ydyw wedi’u gosod mewn system o gaeau afreolaidd eu siâp. Mae ffiniau’r caeau yn amrywio. At ei gilydd rhennir y caeau gan gloddiau, neu gloddiau pridd a cherrig ac arnynt wrychoedd, er y ceir cloddiau mwy sylweddol a adeiladwyd o gerrig ac sy’n cynnwys ambell orthostat gerllaw Cynnull Mawr. Ceir ambell wal sych sy’n dymchwel hefyd. At ei gilydd mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da ar hyd ffyrdd cyhoeddus, maent mewn cyflwr gweddol dda ar y llethrau isaf, ond maent wedi tyfu’n wyllt a/neu wedi’u hesgeuluso mewn mannau eraill. Mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at y mwyafrif o’r ffiniau. Tir pori wedi’i wella a geir gan mwyaf, a thir mwy garw ar rai llethrau serth. Ceir rhai clystyrau bach o goetir collddail a phlanhigfa o goed coniffer.

Dim ond ychydig o adeiladau a archwiliwyd yn yr ardal hon. Mae Cynnull Mawr yn fferm nodweddiadol yn arddull ranbarthol y 19eg ganrif. Mae yn y traddodiad brodorol Sioraidd, a chanddi nodweddion Sioraidd sy’n gryfach na’r rhai brodorol. Lleolir nifer o adeiladau allan modern mawr nepell o’r fferm.

Bryngaer sylweddol yn dyddio o’r Oes Haearn – sef Caer Llety Llwyd – a’i nodweddion cysylltiedig yw prif elfen yr archeoleg a gofnodwyd. Cofnodwyd gweithgarwch cloddio a chwarelu yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol hefyd.

I’r dwyrain, mae’r ardal wedi’i diffinio gan hen rostir agored. Ar yr ochrau eraill, nid yw’r diffiniad mor glir, ac mae’r ardal hon yn tueddu i uno â’r tir amgaeëdig, is.

Map Cynnull

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221