Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cyrtau a Bryn Hownant

CYRTAU A BRYN-HOWNANT

CYFEIRNOD GRID: SN 705601
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 117.8

Cefndir Hanesyddol

Mae hanes cynnar yr ardal yn aneglur. Efallai ei bod yn rhan o un o faenorau Abaty Ystrad Fflur, neu’n rhan o ddemên yr abaty. Rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex pan ddiddymwyd yr abaty, ac fe’u gwerthodd i ystad Trawscoed ym 1630. Ar ddiwedd y 18fed ganrif roedd rhywfaint o dir yn yr ardal hon ym meddiant Trawscoed, ac efallai mai fel hyn y daeth yn rhan o’r ystad. Trosglwyddwyd demên yr abaty i John Stedman ym 1567. Fodd bynnag, bu farw Richard Stedman heb wneud ewyllys ym 1746 a throsglwyddwyd yr ystad i’r teulu Powell o Nanteos. Roedd gan Nanteos ddaliadau sylweddol yma yn y 19eg ganrif. Mae’n debyg, erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt, fod maenorau a demenau abatai wedi’u rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu yn fasnachol. Mae tystiolaeth hefyd bod rhai daliadau yn yr ardal hon, erbyn y 18fed ganrif, ym meddiant ystad arall, sef ystad Llanfair Clydogau a oedd yn eiddo i Thomas Johnes, a allai fod wedi dod i’w feddiant o ganlyniad i brynu rhan o ystad Esgob Tyddewi yn Llanddewi-Brefi. Pa system dirddaliadaeth bynnag a fodolai, mae’r dirwedd hon wedi newid gryn dipyn yn ystod y 200 mlynedd diwethaf. Dengys map o’r ystad dyddiedig 1819 (LlGC Cyf 45, 70) yr ardal o amgylch fferm Waun-Gota a sefydlwyd yn ddiweddarach (ni sefydlwyd fferm Waun-Gota tan ar ôl 1845) fel tir agored yn gymysg â lleiniau, ond i’r dwyrain o Gyrtau fel caeau o faint canolig. Dengys map cynharach dyddiedig 1791 (LlGC Cyf 36, 151) y llechwedd i’r dwyrain o Fryn-Hownant fel llain-gaeau gwasgaredig. Erbyn arolwg degwm 1845 (Map Degwm a Rhaniad Caron) dim ond ychydig o leiniau gerllaw Waun-gota a gofnodwyd; roedd y gweddill wedi’u hamgáu. O’r ffynonellau map hanesyddol hyn ymddengys i’r rhandir hwn o gaeau rheolaidd, o faint canolig, ddatblygu o system o gaeau isranedig (y mae bron yn sicr ei fod yn dir pori wedi’i rannu ac nid tir âr), a oedd yn dal i fod yn rhannol weithredol drwodd i’r cyfnod rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif. Ar fapiau modern dangosir yr ardal o gyn-lain-gaeau yng nghyffiniau fferm Waun Gota fel cyfres o gaeau hirsgwar wedi’u halinio o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain. Crëwyd y daliad a elwir yn Waun-Gota allan o’r system gynharach o leiniau. Yn debyg i ardaloedd eraill mae pwysau a newidiadau demograffig wrth wraidd y patrwm hwn yn perthyn i’r 19eg ganrif: pwysau mawr ar dir ymylol yn hanner cyntaf y ganrif, allfudo, diboblogi a chyfuno daliadau yn yr ail hanner.

Cyrtau a Bryn Hownant

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Ardal o gaeau rheolaidd o faint canolig ar lethrau Afon Groes sy’n wynebu’r gogledd-orllewin a’r de-orllewin ac sy’n disgyn yn raddol rhwng 200m a 320m. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Ar y llethrau isaf mae’r gwrychoedd mewn cyflwr eithaf da, yn uwch i fyny’r llethrau maent wedi’u hesgeuluso ac ar y lefelau uchaf mae ffensys gwifrau wedi’u rhoi yn eu lle, hyd yn oed lle y maent mewn cyflwr eithaf da ategir y gwrychoedd gan ffensys gwifrau. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf yn yr ardal, er bod llain sylweddol o dir pori o ansawdd gwael a thir brwynog yn y pen gogledd-ddwyreiniol gerllaw Waun-Gota. Nid oes unrhyw aneddiadau yn yr ardal.

Mae’r unig archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys bwthyn ôl-Ganoloesol.

Nid yw’r ffiniau rhwng yr ardal hon a thir is yn glir iawn, ond tua’r tir uwch, agored mae’r ffiniau’n fwy pendant.

Cyrtau a Bryn Hownant

 

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221