Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Dolbeudiau-Dolyrychain

DOLBEUDIAU – DOLYRYCHAIN

CYFEIRNOD GRID: SN 712659
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 124.7

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Yn debyg i faenorau eraill yr abaty mae’n debyg, erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt, fod Penard wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu yn fasnachol. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd ei diroedd i Iarll Essex, a’u gwerthodd ar ôl hynny i ystad Trawscoed ym 1630. Mapiau o ystad Trawscoed yw’r darluniad cartograffig ar raddfa fawr cynharaf o’r ardal. Dengys y mapiau hyn dyddiedig 1781 (LlGC Trawscoed Cyf 1, 6 a 8) dirwedd sy’n newid. Roedd ffermydd Dolbeudiau, Brynhope a Dolyrychain i gyd yn bodoli, ac ar bob tu i bob fferm roedd ychydig o gaeau bach wedi’u gwahanu gan dir anamgaeëdig, agored. Erbyn yr arolwg degwm (plwyf Caron 1845) roedd system gaeau heddiw wedi’i sefydlu ac roedd yr ardal gyfan wedi’i gorchuddio â chaeau o faint bach i ganolig. Er y byddai angen gwneud rhagor o ymchwil i gadarnhau hynny, mae’n bosibl i ffermydd yr ardal hon gael eu sefydlu ar dir agored ar gyrion Cors Caron ar ddiwedd y Cyfnod Canoloesol neu ddechrau’r cyfnod modern, er mwyn defnyddio’r gors at ddibenion pori anifeiliaid a chywain gwair.

Dolbeudiau-Dolyrychain

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys esgair donnog isel rhwng 160m a 210m yn ffinio ag ochr orllewinol Cors Caron. I’r gorllewin ac i’r gogledd mae’r tir yn disgyn yn gyflym at y gors, i’r de ac i’r dwyrain mae llethrau’n disgyn yn fwy graddol i dir ffermio is. Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau bach, afreolaidd eu siâp gerllaw’r ffermydd a chaeau mwy rheolaidd o faint canolig ymhellach allan, a chaeau mawr ar y llethr yn edrych dros Gors Caron. Rhennir y caeau gan gloddiau neu gloddiau â wyneb o gerrig ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr gweddol ar y llethrau dwyreiniol isaf, ond mewn mannau eraill maent wedi tyfu’n wyllt, wedi’u hesgeuluso neu maent wedi dirywio. Erbyn hyn mae ffensys gwifrau yn darparu’r prif atalfeydd cadw stoc. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf, a cheir darnau o dir mwy garw, brwynog mewn pantiau. Ar wahân i blanhigfa fach o gonifferau, ychydig o goed sydd yno.

Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig. Mae’r ffermydd ychydig yn fwy o faint na’r cyffredin ar gyfer y rhanbarth. Carreg leol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi (llechi gogledd Cymru) wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau. Fel arfer mae’r waliau wedi’u rendro â sment ar dai ac wedi’u gadael yn foel ar adeiladau fferm traddodiadol. Mae bron yr holl ffermdai/tai yn dyddio o’r 19eg ganrif, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol - sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan y mwyafrif o’r tai nodweddion Sioraidd cryfach - sef ffenestri mawr, ystafelloedd uchel a chynllun/drychiad cymesur - yn hytrach nag elfennau brodorol. Mae adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig yn cynnwys nifer o resi wedi’u gosod yn lled-ffurfiol o amgylch iardiau, er y ceir adeiladau llai o faint wedi’u lleoli’n anffurfiol ar ffermydd llai o faint. Mae gan ffermydd gweithredol resi sylweddol o adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern.

Mae’r unig archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal yn cynnwys bwthyn ôl-Ganoloesol.

Mae’r ardal hon wedi’i diffinio’n glir gan Gors Caron i’r gorllewin ac i’r gogledd, ond mewn mannau eraill, mae’r ardal hon yn tueddu i ymdoddi i’w chymdogion.

Map Dolbeudiau-Dolyrychain

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221