Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Dyffryn Castell

DYFFRYN CASTELL

CYFEIRNOD GRID: SN 780818
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 198.9

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon. Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd rhan o’r ardal hon wedi dod i feddiant ystad Nanteos. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif dengys mapiau o’r ystad (LlGC Cyf 45, 24, 26) dirwedd o ffermydd gwasgaredig, tir amgaeëdig ar lawr y dyffryn, a chaeau mwy o faint ar lethrau isaf y dyffryn sy’n cael eu disodli gan dir agored ar lefelau uwch. Fodd bynnag, gwnaed rhywfaint o waith i isrannu caeau ers hynny. Er enghraifft, ym 1819, cynhwysai Fferm Troed rhiw-goch un annedd mewn cae mawr iawn, erbyn hyn mae wedi’i isrannu. Mae’n debyg bod patrwm anheddu a system gaeau’r ardal yn gyffredinol yn dyddio o ddiwedd y Cyfnod Canoloesol o leiaf. Ym 1770, agorwyd ffordd dyrpeg, a âi trwy’r ardal hon o’r Amwythig drosodd i Bontarfynach ac ymlaen i Aberystwyth. Agorodd ffordd dyrpeg newydd ym 1812 a dilynai lwybr yr hen un o’r dwyrain i Westy Dyffryn Castell lle y fforchiai gan ddilyn llwybr mwy uniongyrchol i Aberystwyth trwy Bonterwyd. Mae ffordd bresennol yr A44 yn dilyn yr un llwybr. Mae’n amlwg i ffyrdd tyrpeg symbylu masnach, gan arwain at adeiladu Gwesty Dyffryn Castell, ond nid yw’n glir i ba raddau y symbylwyd y diwydiant cloddio ganddynt. Dechreuodd y mwynglawdd ar raddfa fawr cyntaf yn yr ardal, sef Castell, weithredu ym 1785, ond caeodd ym 1803. Fe’i hailagorwyd sawl gwaith yn ystod y 19eg ganrif, a chaeodd o’r diwedd ym 1908 (Bick 1983, 10). Gall lefelydd ym mwynglawdd Esgairlle fod yn hen iawn am i arteffactau trin mwyn wedi’u gwneud o garreg gael eu darganfod yma. Dechreuwyd gweithio lefelydd masnachol yn y mwynglawdd hwn ym 1846, a chaeodd ym 1892 (Bick 1983, 10-11). Cofnodir yr ardd yng Ngwesty Dyffryn Castell ar Gronfa Ddata Gerddi Hanesyddol Cymru.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Yn ei hanfod mae’r ardal hon yn cynnwys llawr a llethrau isaf dyffryn Afon Castell, a leolir rhwng 160m a 260m. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf, ond ceir tir pori mwy garw yn gorwedd ar y llethrau serth, a cheir tir mawnaidd a brwynog mewn pantiau ar lawr y dyffryn. Mae’r tir pori wedi’i wella yn cael ei ddisodli gan rostir agored neu blanhigfeydd mawr o goedwigoedd ar lefelau uwch. Ceir planhigfeydd bach o gonifferau yn yr ardal hon, ond ar wahân i’r rhain, tirwedd heb goed ydyw. Mae’r tir wedi’i rannu’n gaeau o faint canolig i fawr ar lawr y dyffryn ac yn gaeau mawr ar lethrau’r dyffryn. Rhennir y caeau hyn gan gloddiau. Erbyn hyn nid oes unrhyw wrychoedd wedi goroesi yn unman. Mae ffensys gwifrau yn ffurfio ffiniau cadw stoc. Yng Ngwesty Dyffryn Castell mae waliau sych yn diffinio padogau bach; mae’r waliau hyn mewn cyflwr gwael. Mae’r ddau fwynglawdd metel, sef Castell ac Esgairlle, yn elfennau tirwedd amlwg. Tomenni ysbwriel a hen lefelydd yw nodwedd dirwedd amlycaf y mwyngloddiau hyn, ond yng Nghastell mae hen adeiladau’r mwynglawdd yn nodweddion tra gweladwy sy’n dwyn i gof y diwydiant hwn a arferai fod yn bwysig. Mae llwybr troellog y ffordd dyrpeg, sef ffordd bresennol yr A44, ar lethr ogleddol y dyffryn yn elfen dirwedd nodedig a phwysig arall yn yr ardal hon.

Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig a leolir ar waelod llethrau’r dyffryn neu ar derasau ar lefelau uwch. Mae nifer fechan o ffermydd a bythynnod anghyfannedd ar draws yr ardal. Carreg leol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi (llechi gogledd Cymru yn ôl pob tebyg) wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau. Mae’r waliau naill wedi’u rendro â sment neu wedi’u gadael yn foel ar dai. Mae’r mwyafrif o’r ffermdai/tai hyn yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol. Mae un tþ, yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif yn ôl pob tebyg, sydd ag un llawr a hanner ac sydd yn y traddodiad brodorol, ac mae gan Westy Dyffryn Castell nodweddion Sioraidd cryf. Ceir o leiaf un ffermdy modern. Fel arfer cyfyngir adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig i un neu ddwy res fach, ac mae rhai ynghlwm wrth y tþ ac yn yr un llinell ag ef. Ceir nifer o ffermydd nad ydynt yn gweithio bellach ac ni ddefnyddir eu hadeiladau allan. Mae gan yr unig fferm y mae’n amlwg ei bod yn gweithio resi helaeth iawn o adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern. Ceir grðp o adeiladau amaethyddol modern ar wahân hefyd.

Ar wahân i’r archeoleg sy’n gysylltiedig â’r diwydiant cloddio metel ac aneddiadau anghyfannedd, lleolir anheddiad Canoloesol â ffos o’i amgylch – sef Llys Arthur – o fewn yr ardal hon, yn ogystal â safle cylch cerrig Neolithig posibl. Mae hon yn ardal dirwedd wedi’i diffinio’n dda. Ar bob ochr, ceir rhosdi’r uchel, agored neu goewig yn dyddio o’r 20fed ganrif.

Map Dyffryn Castell

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]