Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Frongoch

FRONGOCH

CYFEIRNOD GRID: SN 764664
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 52.1

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Yn debyg i diroedd eraill o eiddo’r abaty mae’n debyg erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt, fod Penardd wedi’i rhannu’n ffermydd, a gâi eu prydlesu yn fasnachol. Mae’n debyg mai fel hyn y sefydlwyd Frongoch. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex. Ar ôl hynny, ym 1630, fe’u gwerthwyd i ystad Trawscoed. Fodd bynnag, erbyn y 18fed ganrif roedd yr ardal hon wedi’i hymgorffori o fewn ystad Nanteos. Mae’n debyg felly fod Frongoch yn rhan o ddemên yr abaty – tir a ddaeth i feddiant John Stedman ym 1567 (Cadw 1992) ac nid ystad Trawscoed – ac iddo gael ei drosglwyddo i ystad Nanteos yn dilyn marwolaeth Richard Stedman ym 1746. Dengys map o’r ystad, dyddiedig 1819 (LlGC Cyf; 62), Frongoch fel daliad a gynhwysai gaeau bach yn gymysg â rhai ffermydd eraill. Mae rhai o’r caeau hyn yn debyg i leiniau. Mae’n debyg felly i’r dirwedd hon ddatblygu o system o gaeau isranedig, efallai tir pori wedi’i rannu ar dir uchel yn hytrach na thir âr. Erbyn yr arolwg degwm roedd pob tystiolaeth o hyn wedi diflannu (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847).

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Ardal dirwedd anghysbell, fach ar lethrau uchel sy’n wynebu’r gorllewin a’r de-orllewin ac sy’n disgyn yn raddol. Fe’i lleolir uwchlaw rhannau uchaf Afon Teifi rhwng 220m a 350m. Mae wedi’i chanoli ar fferm Frongoch ac mae’n cynnwys llain o dir pori wedi’i wella sydd wedi’i rhannu’n gaeau o faint bach i ganolig. Cloddiau sy’n ffurfio hen ffiniau’r caeau. Ni cheir unrhyw wrychoedd bellach ac mae ffensys gwifrau yn rhedeg ar hyd y mwyafrif o’r cloddiau. Mae Frongoch yn ffermdy brodorol Sioraidd nodweddiadol yn dyddio o’r 19eg ganrif a chanddo ddwy res o adeiladau allan o gerrig ac adeiladau allan modern helaeth iawn.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys anheddiad yn dyddio o’r Cyfnod Canoloesol neu’r cyfnod ôl-Ganoloesol.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant. I’r gogledd-ddwyrain, i’r dwyrain ac i’r de o’r ardal hon ceir llain fawr o rostir agored, uchel. Ceir tir pori garw mewn caeau mawr a rhostir agored i’r gogledd-orllewin, ac i’r de-orllewin mae’r tir yn disgyn yn gyflym at dir amgaeëdig llawr y dyffryn.

Map Frongoch

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221