Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Fullbrook

FULLBROOK

CYFEIRNOD GRID: SN 668636
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 725.7

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol, gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd Abaty Ystrad-fflur. Cofnodir bod pandy yma (Williams 1990, 59). Yn ystod y Diddymiad, rhoddwyd holl ddaliadau Ystrad-fflur i Iarll Essex. Yn fuan ar ôl hynny, ymddengys fod y tir yn yr ardal hon, ac o’i hamgylch, wedi’i brynu gan y teulu Lloyd o Ffosybleiddiaid ac fe’i caffaelwyd yn ddiweddarach gan y teulu Vaughan o Drawsgoed. Ar adeg yr arolwg degwm (Map Degwm a Dosraniad Lledrod, 1844; Map Degwm a Dosraniad Caron, 1845) roedd y patrwm anheddu a’r systemau caeau presennol wedi’u sefydlu. Dim ond ychydig o dystiolaeth ynghylch y modd y datblygodd y dirwedd a ddarperir gan fapiau cynharach yr ystad. Yn 1819 amgylchynwyd fferm Fullbrook (LlGC Cyf 45, 58) gan gaeau bach, gyda chaeau ychydig yn fwy, ond bach o hyd, ymhellach i ffwrdd – patrwm y gellir ei weld ar fapiau modern. Mae map o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Trawsgoed Cyf 2, 10) sy’n cwmpasu ffermydd Ty-y-swydd, Ty-hen a Thynbwlch yn dangos tirwedd sy’n debyg i’r dirwedd a gofnodwyd gan y syrfewyr degwm ac eithrio lleiniau a isrannwyd sydd o dan berchenogaeth luosog mewn un cae. Gallai hyn fod yn arwydd bod o leiaf rhan o’r patrwm caeau modern wedi datblygu o’r system caeau a isrannwyd, ond ar hyn o bryd, enwau lleoedd, fel Maes-glas, yw’r unig dystiolaeth arall i ategu hyn. Yn Ynys-y-bont mae’r map degwm yn dangos y fferm wedi’i hamgylchynu gan gaeau, gyda’r ardaloedd is, corsiog wedi’u hisrannu (gan ffosydd draenio yn ôl pob tebyg) yn gaeau mwy sy’n fwy rheolaidd. Fodd bynnag, mae map o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Trawsgoed Cyf 2, 19) yn dangos yr ardal gorsiog fel tir comin nas rhannwyd. Dengys y dystiolaeth o fapiau bod yr ardal gorsiog hon, heblaw am fferm Ynys-y-Bont, yn dir comin yn wreiddiol, sef estyniad o Gors Caron yn ôl pob tebyg. Ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif, daeth y tir hwn o dan berchenogaeth breifat ac ymdrechwyd i’w ddraenio. O gofio golwg fodern y tir, mae’n debygol nad oedd y broses ddraenio hon erioed yn arbennig o lwyddiannus a throdd y tir yn ôl i fod yn fignen yn ddigon buan. Fel yr awgryma’r enw, roedd ac mae Ynys-y-bont yn anheddiad ar ynys o fewn môr o fignen. Yn yr 19eg ganrif, datblygodd anheddiad bach ar ffurf clwstwr ger capel Berth (a adeiladwyd yn 1840) yn Nhy’n yr eithen.

Fullbrook

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal o dir tonnog i’r gorllewin o Gors Caron. Mae’n amrywio mewn uchder o 160m yn ei ffin â Chors Caron, i tua 230m ar sawl copa crwn. Mae’n dirwedd o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach, afreolaidd. Gwrthgloddiau â gwrychoedd yw ffiniau’r caeau. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da ar y cyfan ac yn gallu gwrthsefyll stoc, er eu bod wedi tyfu’n wyllt yn rhan ddeheuol yr ardal. Dim ond ar y tir uwch y mae’r gwrychoedd wedi syrthio ac mae angen eu cryfhau â gwifren. Yn yr ardal hon, ceir ardal gorsiog sydd tua 160m ar ochr orllewinol Cors Canon, ond sy’n amgylchynu ynys o dir uwch ar 170m lle y saif Fferm Ynys-y-bont. Nodweddir yr ardal hon gan ddaear a orchuddir gan frwyn a dyddodion mawn ac fe’i rhennir gan ffosydd draenio a ffensys gwifren. Mae’r rhan fwyaf o’r caeau yn borfa sydd wedi gwella. Ceir ardaloedd o ddaear nad yw ei ansawdd gystal – porfa arw a brwyn – ger Cors Caron, a cheir dyddodion mawnog mewn rhai pantiau. Ceir sawl ardal o goed llydanddail, ac mae’r rhain, ar y cyd â’r gwrychoedd sydd wedi tyfu’n wyllt yn rhoi agwedd gymharol goediog i’r dirwedd yn rhan ddeheuol yr ardal.

Heblaw am y clwstwr o dai o ddiwedd yr 19eg ganrif yn Nhy’n yr eithen, a oedd yn dai i weithwyr fwy na thebyg, mae gan, neu roedd gan, y rhan fwyaf o’r adeiladau yn yr ardal hon swyddogaeth amaethyddol. Mae’r ffermydd yn fach. Cerrig lleol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol, gyda llechi (llechi gogledd Cymru) yn cael eu defnyddio ar gyfer toeon, er y defnyddir brics glas ar gapel o ddiwedd yr 19eg ganrif a brics coch ar gwpl o dai o ddyddiad tebyg. Mae’r muriau cerrig naill ai wedi’u rendro â sment, eu gadael yn foel neu wedi’u paentio (yr olaf o’r rhain fel arfer) ac maent bob amser yn foel ar adeiladau fferm traddodiadol. Mae ffermdai/tai hyn yn dyddio bron i gyd i gyfnod rhwng canol a diwedd yr 19eg ganrif, maent yn gymharol fach, gyda dau lawr ac yn efelychu’r arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol, gyda simneiau pen talcen, drws blaen yn y canol a dwy ffenestr i’r naill ochr o’r drws ac un uwchben. Mae nodweddion brodorol cryf fel bondo isel, ffenestri bach ac un simne yn fwy na’r llall, yn bresennol yn y rhan fwyaf o’r tai, yn hytrach na nodweddion Sioraidd. Ailadeiladwyd rhai ffermdai yn ddiweddar a cheir ychydig o dai/byngalos o ddiwedd yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif ym mhen deheuol yr ardal hon. Yn gyffredinol, cyfyngir yr adeiladau allan i un neu ddwy rhes fechan, gyda rhai ohonynt wedi’u cysylltu â’i gilydd ac wedi’u lleoli yn yr un llinell â’r ty. Mae sawl fferm nad yw’n gweithio bellach ac ni ddefnyddir yr adeiladau allan. Mae gan ffermydd sy’n gweithio resi canolig eu maint i resi mawr o adeiladau amaethyddol modern a wnaethpwyd o ddur a choncrit.

Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn gyfoethog ac yn amrywiol, ond caiff ei dominyddu gan safleoedd ôl-Ganoloesol fel melin, pontydd, anheddau, capel a gefail. Mae safleoedd o gyfnodau cynharach yn rhoi dyfnder amser i’r dirwedd hon ac maent yn cynnwys mwnt Canoloesol, Castell Llwyn-gwinau, a safle melin Canoloesol, a chanfyddiadau o’r cyfnod Neolithig, yr Oes Efydd a’r cyfnod Rhufeinig. Yn arbennig o nodedig mae grwp o domenni neu aelwydydd wedi llosgi o’r Oes Efydd – safleoedd anheddu posibl.

Mae’r ardal hon wedi’i diffinio’n arbennig o dda i’r dwyrain lle y mae’n arwain hyd at Gors Caron, ond mewn mannau eraill mae’n uno â’i hardaloedd cyfagos.

Map Fullbrook

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221