Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Gwar Castell

GWAR CASTELL

CYFEIRNOD GRID: SN 724606
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 175.0

Cefndir Hanesyddol

Yn hanesyddol ymddengys fod yr ardal hon yn dir comin o fewn Cwmwd Penardd, ac mai tir agored, anghyfannedd ydoedd tan ddiwedd y 18fed ganrif. Mae arolwg dyddiedig 1822 (Muckle a Williams 1992, 35) yn cofnodi aneddiadau sgwatwyr ym Mryn Lloi, Gwar Castell, Tan Bylchau, Waun Groes, Bryn Coch, Garnwen a Lluast Abercaeau. Mae Rees (1936) yn cofnodi 11 o dai unnos cyn 1839 a phump ar ôl 1839 yn ardal Blaencaron. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd rhagor o gaeau, yn bennaf ar dir uwch i’r dwyrain o’r ardal, wedi’u hychwanegu at y rhai a amgaewyd yn wreiddiol gan y sgwatwyr. Sefydlwyd ysgol ym 1883 a diwallai capel a adeiladwyd i’r dwyrain anghenion ysbrydol y trigolion. Dim ond yng Ngwar Castell y mae pobl yn dal i fyw. Gadawyd bythynnod a ffermydd eraill rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Erbyn hyn mae’r ardal wedi troi’n ffridd unwaith eto. Mae rhai o’r anheddau anghyfannedd yn yr ardal hon o ddiddordeb: gan gynnwys nifer o dai o fath is-Ganoloesol, a ddosbarthwyd gan Smith (1966, 1988) fel tai rhanbarthol math ‘B’ (y brif simnai â’i chefn at y fynedfa), a barhaodd i gael eu hadeiladu gan ffermwyr tlotach i mewn i’r 19eg ganrif.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys blaen dyffryn Groes Fechan a’r llethrau oddi amgylch a leolir rhwng 220m a 420m o uchder. Mae gan y dyffryn lethrau serth ac mae llawr y dyffryn yn gul ac yn wastad. Ardal o dir amgaeëdig ydoedd gynt a nodweddid gan system o gaeau afreolaidd eu siâp o faint bach i ganolig a phatrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig. Mae’r caeau a’r aneddiadau hyn yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Dim ond yn fferm Gwar Castell y mae pobl yn byw heddiw, mae’r ffermydd eraill yn wag bellach ac maent wedi dadfeilio i wahanol raddau. Carreg leol yw’r deunydd adeiladu. Waliau sych a chloddiau â wyneb o gerrig sy’n ffurfio hen ffiniau’r caeau - ni cheir unrhyw wrychoedd. Defnyddir waliau sych i ffurfio padogau bach o amgylch y ffermydd. Mae pob un o’r hen ffiniau hyn bellach wedi’u hesgeuluso ac mae’r mwyafrif wedi hen ddadfeilio. Erbyn hyn mae ffensys gwifrau yn rhannu’r ardal yn gaeau mawr. Mae’r rhan fwyaf o’r tir wedi troi’n dir pori garw unwaith eto y gorchuddir llawer iawn ohono gan frwyn, ac mae’r ffermydd anghyfannedd yn dechrau cael eu boddi o dan frwyn a llwyni. Ceir dyddodion mawnaidd mewn pantiau ac ar lawr y dyffryn. Crëwyd tir pori wedi’i wella o fewn caeau mawr wedi’u rhannu gan ffensys ar dir sychach ar lethrau’r dyffryn. Ceir rhai clystyrau bach o goetir a choed crebachlyd yn iardiau’r ffermydd anghyfannedd.

Ar wahân i’r hyn a all fod yn faen hir yn dyddio o’r Oes Efydd a mân elfennau ôl-Ganoloesol y dirwedd, mae’r archeolegol a gofnodwyd yn cynnwys yr aneddiadau anghyfannedd a ddisgrifiwyd uchod a dim byd arall.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant. I’r gogledd, i’r de ac i’r dwyrain ceir tir agored, anghyfannedd, ac i’r gorllewin ceir tir cyfannedd is sy’n cael ei ffermio.

Map Gwar Castell

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221