Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Hafod

HAFOD

CYFEIRNOD GRID: SN 784743
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 401.6

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol, gorweddai’r rhan hon o ddyffryn Afon Ystwyth ym Maenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Ystrad Fflur (Williams 1990, 57). Erbyn 1513 roedd Hafod Uchdryd yn cael ei phrydlesu fel fferm, ac mae rhôl renti dyddiedig 1545-50 yn nodi bod pob un o ffermydd y gyn-faenor yn cael eu prydlesu a’u ffermio fel unedau unigol (Morgan 1991, 5-7). Mae hyn yn awgrymu erbyn diwedd yr Oesoedd Canol na châi’r tir ei ffermio gan fynachod, ond y câi ei redeg o bosibl mewn ffordd debyg i ystadau lleyg diweddarach. Yn yr ardal hon ceir safle Melin Peiran (Macve 1998). Prynnwyd rhan o faenor Cwmystwyth, gan gynnwys Hafod Uchdryd – y cyfeirid ato yn ddiweddarach fel yr Hafod yn unig – gan y teulu Herbert yng nghanol yr 16eg ganrif (Morgan, 1997, 28). Fel hyn ffurfiwyd cnewyllyn ystad fach. Ni ddaeth enw Hafod yn gyfystyr â’r mudiad pictiwrésg naturiolaidd tan 1783 pan ddaeth Thomas Johnes i fyw yno. Aeth Johnes ati i drawsnewid yr ystad. Prynwyd neu cyfnewidiwyd rhagor o dir, adeiladwyd plasty, cynlluniwyd gerddi ac adeiladwyd rhodfeydd yn cysylltu atyniadau naturiol ac adeiledig, sef y prif reswm dros enwogrwydd Hafod yn ddiweddarach. Plannwyd lleiniau helaeth o ucheldir â choed a sefydlwyd ffermydd arbrofol. Nid oedd yr un daith dwristiaeth i Gymru ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif yn gyflawn heb ymweliad â rhyfeddodau Hafod. Denwyd arlunwyr ac ysgrifenwyr hefyd gan enwogrwydd Hafod. Paentiwyd y plasty ac atyniadau eraill neu tynnwyd lluniau ohonynt gan lawer o arlunwyr. Mae’r set o ddarluniau gan John ‘Warwick’ Smith a’r olygfa o’r plasty gan J M W Turner yn arbennig o bwysig, er ei bod yn amheus a ymwelodd yr olaf â Hafod erioed (Macve 1993, 3-7). Mae disgrifiad enwog George Cumberland o Hafod dyddiedig 1796 yn dra hysbys. Mae Hafod wedi parhau i ddenu arlunwyr ac ysgrifenwyr: ymwelodd John Piper â Hafod a phaentio nifer o olygfeydd cyn yr Ail Ryfel Byd, ac mae digonedd o lenyddiaeth gyfoes. Mae Peacocks in Paradise a ysgrifennwyd gan Elisabeth Inglis-Jones, a llawer o nodiadau ac erthyglau yng Nghylchlythyr Cyfeillion Hafod yn arbennig o bwysig. Prynodd Dug Newcastle yr ystad ym 1835 (Evans 1995). Yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif daeth i feddiant teulu Waddingham. Rhedai’r perchenogion diweddarach hyn yr ystad yn fwy confensiynol, a rhoddwyd y gorau i ddefnyddio llawer o’r gerddi, y rhodfeydd a’r tai haf a gerid cymaint gan Johnes. Yn y 1950au prynodd y Comisiwn Coedwigaeth yr ystad a dechrau ar raglen goedwigo. Hefyd yn yr ardal hon ceir gardd hanesyddol Cae’r Meirch (Cronfa Ddata Gerddi Hanesyddol Cymru).

Hafod

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Dyma ardal graidd ystad yr Hafod. Mae rhaeadrau a cheunant gul yn nodweddu dyffryn Afon Ystwyth ym mhen dwyreiniol yr ardal, ac yn y pen gorllewinol ceir gorlifdir cul mewn dyffryn â llethrau serth. Mae’r afon yn disgyn o tua 60m o fewn yr ardal hon at isafbwynt o 140m. Mae llethrau’r dyffryn yn codi i dros 300m. Mae nentydd sy’n llifo’n gyflym yn disgyn llethrau’r dyffryn mewn cyfres o raeadrau cyn cwrdd ag Afon Ystwyth. Mae llethrau’r dyffryn yn drwch o goed llydanddail a choed coniffer a blannwyd yn ystod yr 20fed ganrif a dim ond ychydig o glystyrau o’r coed a blannwyd gan Johnes - ffawydd yn bennaf - sydd wedi goroesi. Prin yw’r mannau agored ac maent yn cynnwys dolydd o amgylch safle’r cyn-blasty a thir pori wedi’i wella (tir pori arbrofol ADAS) ar gerlan gerllaw fferm Dologau, ac ambell gae o dir pori wedi’i wella ar gyrion yr ardal.

Cyn plannu’r coedwigoedd, roedd tir amgaeëdig wedi’i gyfyngu i’r llethrau a’r terasau uwch, llai serth gerllaw Afon Ystwyth a rhagnentydd. Nis ceir fel arfer ar y llethrau mwy serth. Mae waliau sych â chapfeini wedi’u gosod ar ongl o 45 gradd yn fath nodedig o ffin. Mae coed llydanddail, sydd bellach yn aeddfed, wedi’u plannu â blwch o 12 -15m rhyngddynt gerllaw rhai o’r waliau hyn. Thomas Johnes oedd yn gyfrifol am adeiladu’r waliau a phlannu’r coed. Mae ffiniau caeau eraill yn cynnwys cloddiau neu gloddiau o bridd a cherrig, ac arnynt wrychoedd. Mae cyflwr y gwrychoedd yn amrywio; mae rhai yn cael eu cynnal a’u cadw a gallant gadw stoc, mae eraill bron wedi diflannu. Mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at bob un ohonynt. Ceir waliau min ffordd o gerrig wedi’u plastro â morter, a godwyd o bosibl gan y rhai a fu’n berchen ar yr ystad ar ôl Johnes, mewn ychydig o leoliadau.

Dymchwelwyd plasty’r Hafod ym 1957, ond mae ei safle (sydd bellach yn rhwbel), ei adeiladau allan a’i derasau sy’n nodi hen erddi, yn nodweddion amlwg yn y dirwedd. Ceir nifer o adeiladau rhestredig yn yr Hafod, anheddau a strwythurau eraill a adeiladwyd gan yr ystad yn bennaf megis porthordy a gatiau, sgubor wair yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, stablau yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, dau fwthyn, gardd lysiau â wal o’i hamgylch, rhewdy, cofeb a phâr o anheddau trawiadol o gerrig nadd yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif gerllaw pont Pont-rhyd-y-Groes. Mae adeiladau eraill yn cynnwys dwy fferm yn dyddio o’r 19eg ganrif (nad ydynt yn ffermydd gweithredol bellach) a thai yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif – sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws. Mae gan un o’r uchod nodweddion brodorol gan gynnwys bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall. Mae adeiladau allan y ffermydd hyn sydd wedi’u hadeiladu o gerrig yn cynnwys un neu ddwy res fach. Ceir hefyd ychydig o dai gweithwyr deulawr ar wahân yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif.

Mae elfennau eraill a adeiladwyd gan Johnes yn llai amlwg, ond serch hynny maent yn cynnwys elfennau tirwedd pwysig, gan gynnwys rhodfeydd a osodwyd fel terasau o gloddwaith ar lethrau a silffoedd wedi’u torri o greigiau a brigiadau creigiog. Gorchuddiwyd system lonydd yr ystad a’i hymgorffori mewn lonydd coedwigaeth, ac eithrio mewn un eithriad. Dynodwyd pedair elfen o’r dirwedd bictiwrésg fel Henebion Cofrestredig.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys elfennau o’r dirwedd bictiwrésg ac amaethyddol yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a bron dim byd arall. Ar wahân i safle melin Ganoloesol, nid yw’r archeoleg yn darparu unrhyw ddyfnder amser i’r dirwedd.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant. I’r de ac i’r gogledd ceir tir agored, coedwigoedd neu dir uchel yn cynnwys caeau mawr. I’r gorllewin ac i’r dwyrain ceir tir amgaeëdig di-goed.

Hafod map

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221