Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Hen Gaer

HEN GAER

CYFEIRNOD GRID: SN 640846
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 282.7

Cefndir Hanesyddol

Gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor y Dywarchen a oedd yn eiddo i Ystrad Fflur yn y Cyfnod Canoloesol, a chynhwysai o bosibl safle crocbren (Williams 1990, 57). Yn y Cyfnod ôl-Ganoloesol daeth yr ardal i feddiant ystad annibynnol Fferm Gwrt ac ystad Gogerddan. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif fod yr ardal yn cynnwys naill ai dir agored, tir amgaeëdig wedi’i rannu’n gaeau o faint canolig neu blanhigfa. Perthynai’r blanhigfa i ystad Gogerddan, ac fe’i hailblannwyd â choed coniffer gan y Comisiwn Coedwigaeth. Erbyn y 1840au roedd yr ardal gyfan wedi’i hamgáu. Yr argraff gyffredinol a geir o fapiau ystad yw un o dirwedd a oedd yn agored tan ganol y 18fed ganrif, hyd yn oed ar lefelau is o 50m. Mae’n debyg bod un fferm/bwthyn - Ty’n y cwm - yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn ymestyn ar draws pen gorllewinol esgair gron sy’n ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin. Mae copa’r esgair yn codi i uchder o 160m, mae’r llethrau yn disgyn i tua 50m. Gorchuddir yr ardal gyfan â system gaeau reolaidd o gaeau o faint canolig. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. At ei gilydd mae’r gwrychoedd hyn mewn cyflwr da, er bod ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu atynt fel arfer. Tir pori wedi’i wella yw elfen amlycaf y dirwedd a cheir planhigfa o goed coniffer wedi’i hisblannu ar blanhigfa hyn o goed collddail yn y pen gorllewinol, a phlanhigfeydd o goed coniffer a choed collddail yn y pen dwyreiniol.

Prin yw’r safleoedd yn y cofnod archeolegol ar gyfer yr ardal hon, ond mae’r rhai sy’n hysbys yn darparu llawer o ddyfnder amser i’r dirwedd. Bryngaer sylweddol yn dyddio o’r Oes Haearn, sef Hen Gaer, a leolir ar gopa’r esgair, yw’r safle amlycaf. Mae safleoedd eraill yn cynnwys: darganfyddiadau Rhufeinig, crug crwn a chryg llosg yn dyddio o’r Oes Efydd; mae’n debyg bod yr olaf yn nodi anheddiad, ac enw lle sy’n awgrymu twmpath clustog neu wningar yn dyddio o’r Cyfnod Canoloesol neu o gyfnod diweddarach.

I’r gorllewin, i’r de ac i’r gogledd mae tir amgaeëdig a chyfannedd mwy hynafol, is yn darparu ffin bendant â’r ardal hon. I’r dwyrain mae’r ardal yn debyg yn hanesyddol i’r ardal hon, ond mae ffiniau’r caeau wedi cael eu hesgeuluso’n fwy ac mae golwg y tir i’r dwyrain bellach yn eithaf gwahanol.

Map Hen Gaer

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221