Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Llanafan

LLANAFAN

CYFEIRNOD GRID: SN 691729
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 35.7

Cefndir Hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys Eglwys Sant Afan. Mae’r cysegriad yn awgrymu i’r eglwys gael ei sefydlu cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd, er nad oedd yn eglwys blwyf yn ystod y Cyfnod Canoloesol, ond yn gapeliaeth yn perthyn i blwyf Llanfihangel-y-Creuddyn. Fe’i gwnaed yn blwyf ym 1833. Ailadeiladwyd yr eglwys yn gyfan gwbl ym 1833 (Ludlow 1998). Gorweddai o leiaf ran o’r ardal hon o fewn demên Trawscoed, ac mae’n debyg bod cysylltiad agos rhwng hanes pentref Llanafan a hanes ystad Trawscoed, a’i fod yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol felly. Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes y pentref, ond ar fapiau o’r ystad yn dyddio o ganol a diwedd y 18fed ganrif (LlGC 7188 LlGC Trawscoed Cyf 1,43) mae’n cynnwys nifer o anheddau wedi’u gwasgaru ar hyd ffordd wedi’u gosod mewn tirwedd o gaeau bach, rheolaidd eu siâp. Dangosir darlun tebyg ar fap degwm 1845. Nodweddir patrwm cyffredinol y pentref yn y cyfnod hwn gan anheddiad sgwatwyr a oedd wedi datblygu ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, ond heb ragor o ymchwil ni ellir cadarnhau hyn ac mae’n bosibl iddo gael ei sefydlu gan yr ystad. Mae ail hanner y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif wedi gweld rhagor o waith datblygu, a llenwyd y mwyafrif o’r bylchau rhwng yr anheddau hyn a oedd yn bell oddi wrth ei gilydd gan anheddau unigol neu ddatblygiadau ar raddfa fach.

Llanafan

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Lleolir pentref Llanafan yn nyffryn cul, llethrog Nant Pant-y-Haidd ar uchder o tua 100m. Pentref llinellol o dai ydyw ac mae’n cynnwys eglwys ystad restredig yn dyddio o’r 19eg ganrif, ysgol a thy athro, a neuadd bentref heb fod ymhell i ffwrdd. Saif anheddau hyn y pentref llinellol wedi’u gwasgaru ar y naill ochr i ffordd. Tai gweithwyr ydynt yn bennaf – prin iawn yw’r dystiolaeth o adeiladau allan amaethyddol. Maent wedi’u hadeiladu o gerrig, sydd fel arfer wedi’u rendro â sment, ac mae ganddynt doeau llechi. Maent yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac maent yn arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol y rhanbarth, ond fel arfer mae ganddynt nodweddion brodorol cryf. Ceir enghreifftiau o derasau byr, tai pâr a thai ar wahân, ac enghreifftiau o dai/bythynnod un llawr a hanner a dau lawr. Moderneiddiwyd ac ymestynnwyd llawer. Erbyn hyn mae tai yn dyddio o ganol a diwedd yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif yn llenwi’r bylchau rhwng y tai hyn, gan greu pentref llinellol go iawn a chanddo nodweddion cryf yn perthyn i ddiwedd yr 20fed ganrif.

Tua phen dwyreiniol yr ardal yn rhan uchaf y dyffryn mae’r pentref yn ymdoddi i dirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig mewn system gaeau o gaeau bach, gweddol reolaidd eu siâp. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd, er bod y gwrychoedd wedi diflannu erbyn hyn neu maent wedi’u hesgeuluso. Mae ffensys gwifren yn darparu ffiniau cadw stoc. Tir pori wedi’i wella neu dir pori garw yw’r tir ffermio.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys Eglwys Sant Afan, annedd ôl-Ganoloesol a chwarel ôl-Ganoloesol.

I’r de-ddwyrain ac i’r gogledd-orllewin nodir ffiniau’r ardal hon yn glir gan goedwigoedd neu dir agored, ond i’r de mae ffin yr ardal hon yn llai pendant ac mae’n tueddu i ymdoddi i dir ffermio amgaeëdig cyfagos.

Llanafan map

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221