Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Llanfihangel -y- Creuddyn

LLANFIHANGEL-Y-CREUDDYN

CYFEIRNOD GRID: SN 668759
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 588.2

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Mae’n debyg bod Llanfihangel-y-Creuddyn yn ganolfan weinyddol ar gyfer Cwmwd Creuddyn yn y Cyfnod Canoloesol. Mae Rees (1932) yn ei chofnodi fel canolfan fasnachu, ond nid fel bwrdeistref. Mae’n ansicr pryd y sefydlwyd eglwys yma, ond mae’r cysegriad yn awgrymu iddi gael ei sefydlu cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd. Mae’r eglwys drawiadol bresennol sydd ar ffurf croes yn dyddio yn bennaf o’r Oesoedd Canol – y 14eg ganrif hyd y 15fed ganrif (Ludlow 1998). Mae Morgan (1997, 192) o’r farn bod Llanfihangel-y-Creuddyn yn daeogdreflan yn perthyn i arglwyddi Cymreig Creuddyn. Os yw hynny’n gywir, yna y goblygiad yw y buasai anheddiad cnewyllol, bach â system o lein-gaeau neu gaeau agored o bobtu iddo. Nid oes unrhyw ffynonellau map i ategu hyn, er bod tystiolaeth gymhellol yn dod o ddogfen ddyddiedig 1743 a ddyfynnir gan Morgan (1997, 191) sy’n cyfeirio at lain o dir yn mesur 131 wrth 11 llath yng nghaeau Pen-dre, ac o elfennau ffisegol y dirwedd a ddisgrifir isod. Yn y 18fed ganrif cyfeirir at Lanfihangel o bryd i’w gilydd fel pentrefan o hanner dwsin o fythynnod. A bwrw bod awgrym Morgan yn gywir, nid oes fawr ddim tystiolaeth i nodi pryd y crëwyd y cylch llac o ffermydd a leolid o bobtu i’r pentref, a phryd y sefydlwyd y system gaeau fodern. Fodd bynnag, mae’n debyg, erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, ar ôl i’r cysyniad o berchenogaeth breifat gael ei derbyn mewn egwyddor, fod ffermydd a ddelid mewn deiliadaeth unigol neu mewn ystadau bach yn cael eu cerfio allan o gyn-lein-gaeau. Dyma efallai a ddigwyddodd yn Llanfihangel lle y cofnodwyd ystad fach Abertrinant (sydd bellach yn fferm) ar ddechrau’r cyfnod modern. Mae’n rhaid i ni ddibynnu ar y 15fed ganrif a’r 16eg ganrif i ganfod tarddiad y system gaeau fodern a’r patrwm anheddu gwasgaredig. Dengys mapiau ystad yn dyddio o’r 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif a map degwm 1847 dirwedd tebyg i’r un a welir heddiw, yn cynnwys anheddiad cnewyllol a ffermydd gwasgaredig wedi’u gosod mewn system o gaeau bach.

Llanfihangel -y- Creuddyn

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Wedi’i chanoli ar bentref Llanfihangel-y-Creuddyn, mae’r ardal hon yn cynnwys llawr a llethrau pen pellaf dyffryn ag ochrau agored. Mae llawr y dyffryn ar 80m o uchder ac mae ei lethrau yn codi i dros 180m. Mae’n ardal hynod o gydryw, ac mae’n cynnwys caeau bach o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Ceir clystyrau bach o goetir collddail a phlanhigfeydd o goed coniffer. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf, heb fawr ddim tir garw neu dir âr. At ei gilydd mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da ac maent yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, er bod rhai wedi tyfu’n wyllt ac yn dechrau cael eu hesgeuluso. Mae ffensys gwifren wedi’u hychwanegu at y mwyafrif o’r gwrychoedd terfyn. Mae’r patrwm caeau o gaeau cul, hir, yn arbennig gerllaw’r pentref, yn awgrymu y gallai’r patrwm amgaeëdig presennol fod wedi datblygu o system o gaeau agored neu lein-gaeau. Mae’r patrwm anheddu yn cynnwys anheddiad cnewyllol bach Llanfihangel-y-Creuddyn a chylch llac o ffermydd gwasgaredig a leolir o bobtu iddo. Mae’r pentref wedi cadw llawer o’i gymeriad hanesyddol. Cerrig lleol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol, sydd naill ai wedi’u gadael yn foel neu wedi’u rendro â sment, er bod brics yn dechrau cael eu defnyddio ar aneddau ac adeiladau allan ffermydd tua diwedd y 19eg ganrif. Lleolir eglwys drawiadol restredig Sant Mihangel, sydd ar ffurf croes, yng nghanol y pentref ac o bobtu iddi ceir adeiladau domestig, gan gynnwys sawl un sy’n rhestredig. Mae’r adeiladau hyn yn cynnwys adeilad ffrâm nenfforch ar ffurf neuadd yn dyddio yn ôl pob tebyg o’r 16eg ganrif, terasau o dai/bythynnod yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, ty Sioraidd diweddar a ‘fila’ gothig a adeiladwyd yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif â cherbyty a stablau. Mae adeiladau eraill yn cynnwys ysgol fach o ddiwedd y 19eg ganrif a nifer gynyddol o anheddau modern. Lleolir cwpl o ffermydd gweithredol bach yn y pentref, ond mae’r mwyafrif wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal. Fel arfer mae’r rhain yn cynnwys un neu ddwy res fach o adeiladau allan cerrig. Mae gan ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol modern o faint bach i ganolig – nid yw’r rhain yn elfennau amlwg yn y dirwedd.

Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys yn bennaf adeiladau sy’n sefyll gan gynnwys eglwys, capel, anheddau, dwy felin a gefail gof. Fodd bynnag, mae cae ôl gnwd yn nodi bod mwy o ddyfnder amser i’r dirwedd, am y gall gynrychioli olion bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn sydd wedi’u haredig allan. Ar ben hynny mae’n bosibl bod enwau dau le, sef Castell Cynon a Chastell Banc-y-môr, hefyd yn nodi safleoedd bryngeyrydd yn dyddio o’r Oes Haearn neu safleoedd amddiffynnol eraill.

Er bod hon yn ardal gymeriad ar wahân, nid yw ei ffiniau yn arbennig o bendant. I’r de mae’r ardal hon yn cyffinio â thirwedd ystad Trawscoed, i’r gorllewin ni ddisgrifiwyd unrhyw ardaloedd tirwedd eto, ac mewn mannau eraill mae’n codi at dir uwch a arferai fod yn agored ac yn llai cyfannedd.

Map Llanfihangel -y- Creuddyn

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]