Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

LLETY SYNOD A FRONGOCH

LLETY SYNOD A FRONGOCH

CYFEIRNOD GRID: SN 722745
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 761.3

Cefndir Hanesyddol

Yn ystod yr Oesoedd Tywyll bu Eglwys Llantrisant â’i thair heneb Gristnogol gynnar yn ganolbwynt addoli i Gristnogion. Fodd bynnag, ni ddatblygodd yn eglwys blwyf, ac erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd wedi’i hesgeuluso. Mae’r adeilad presennol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Erbyn hynny roedd canolbwynt yr anheddiad wedi symud i Drisant lle yr adeiladwyd capeli ac ysgol.

Arferai rhan o gornel dde-ddwyreiniol yr ardal hon orwedd o fewn maenor ucheldirol Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur, am fod dogfen a luniwyd ym 1545-50 pan ddiddymwyd yr abaty yn cofnodi fferm Dol-y-gors (Morgan 1991). Ymddengys erbyn y dyddiad hwn fod y faenor wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn unigol ac yn fasnachol. Daeth y teulu Herbert i feddiant Dol-y-gors, ac yn y pen draw daeth yn rhan o ystad yr Hafod. Yn yr 16eg ganrif roedd Morris ap Richard yn brysur yn caffael ffermydd a thir i’w hychwanegu at ei ystad gychwynnol yn Nhrawscoed. Ymhlith yr eiddo a brynwyd ganddo yn yr ardal hon roedd ffermydd Llety Synod a Llwynwnwch, a gyffiniai â Frongoch (Morgan 1997, 35). Mae’n rhaid bod Morris neu ei ddisgynyddion wedi prynu rhagor o eiddo am fod rhan helaeth o’r ardal hon wedi’i hymgorffori yn ystad Trawscoed erbyn diwedd y 18fed ganrif. Mae mapiau o ystad Trawscoed dyddiedig 1781 (LlGC Gweithredoedd Trawscoed Rhif 5, Cyfres IV, Cyf 1; 22 a 24), sy’n dangos Frongoch, Llety Synod, Blaen-pentre, Cerrig-yr-wyn, Ty’n bwlch a Llwynwnwch, yn darlunio tirwedd o ffermydd anghysbell, gwasgaredig a gerllaw’r ffermydd hyn dangosir un neu ddau gae bach yng nghanol ychydig o gaeau gwair mawr, rhostir agored a mawnog. Nid oedd y sefyllfa wedi newid rhyw lawer iawn pan ymgymerwyd â’r arolwg degwm ym 1847 (plwyf Llanfihangel-y-Creuddyn).

Mae gweithgarwch cloddio am blwm a sinc, wedi’i ganoli ar Frongoch, yn elfen bwysig yn y dirwedd hanesyddol. Hyd at y 1790au bu cloddio yma ar raddfa fach, ond ehangodd y gweithrediad yn gyflym wedi’i hybu gan John Probert (Bick 1986, 7), ond ni wireddodd ei holl botensial tan 1834 pan ffurfiwyd cwmni Mwyngloddio Lisburne (Bick, 1974, 13). Adeiladwyd ty injan a gwnaed gwelliannau eraill. Ym 1899 aeth cwmni o wlad Belg yn gyfrifol am redeg y mwynglawdd a gwnaeth ragor o welliannau, ond erbyn 1910 roedd y gwaith cloddio bron wedi dod i ben. Mae Bick (1974, 16) yn nodi bod Frongoch yn cynnwys ‘yn ôl pob tebyg y casgliad gorau o adeiladau mwynglawdd yn dyddio o’r 19eg ganrif yng Nghymru.’

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal fawr a chymhleth hon yn cynnwys llwyfandir tonnog yn amrywio o ran uchder o 220m i 340m, a phantiau gwlyb ac ambell frigiad a chopa creigiog. Mae bron y cyfan o’r tir yn cynnwys tir pori wedi’i wella, er y ceir darnau o dir mawnaidd a brwynog ar loriau dyffrynnoedd a thir pori mwy garw ar rai llethrau serth. Ar wahân i blanhigfeydd o goed coniffer a chlystyrau bach o goetir llydanddail, tirwedd ddi-goed ydyw i bob pwrpas. Mae aneddiadau yn cynnwys ffermydd gwasgaredig, a chlwstwr bach o adeiladau yn Nhrisant sy’n cynnwys capel rhestredig yn dyddio o ganol y 19eg ganrif. Cerrig lleol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi (llechi o ogledd Cymru) wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau. Fel arfer mae’r waliau wedi’u rendro â sment ar dai, ond ceir rhai enghreifftiau lle y mae’r waliau wedi’u gadael yn foel, ac maent bob amser yn foel ar adeiladau fferm traddodiadol. Mae’r ffermdai/tai hyn i gyd bron yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, maent yn gymharol fach ac mae ganddynt ddau lawr neu un llawr a hanner. Maent wedi’u hadeiladu yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol, a chanddynt simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Fodd bynnag, ceir nodweddion brodorol amlycach, megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall, ond cofnodir o leiaf un ty ag elfennau Sioraidd cryf. Mae adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig fel arfer wedi’u cyfyngu i ddwy neu dair rhes, sydd weithiau wedi’u gosod yn lled-ffurfiol o amgylch iard. Nid yw nifer o ffermydd yn gweithio bellach, a cheir nifer o ffermydd anghyfannedd. Mae gan ffermydd gweithredol resi mawr o adeiladau amaethyddol dur a choncrid, sydd yn aml yn elfennau amlwg yn y dirwedd.

Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau mawr, afreolaidd eu siâp. Ar un adeg roeddynt wedi’u rhannu gan gloddiau, sydd bellach yn ddiangen neu â ffensys gwifren wedi’u hychwanegu atynt. Yn agosach at ffermydd mae’r caeau yn llai o faint, ond maent yn dal i fod yn afreolaidd eu siâp, a cheir ambell wrych ar y cloddiau. Nid yw’r cloddiau mewn cyflwr da ac anaml y gallant gadw stoc – mae gwifren wedi’u hychwanegu at bob un ohonynt. Mae olion ffisegol gweithgarwch cloddio yn amlwg iawn ac maent yn elfen bwysig yn y dirwedd hanesyddol. Mae adeiladau mwynglawdd Frongoch o bwys cenedlaethol, er eu bod mewn cyflwr gwael. Erbyn hyn defnyddir y safle fel iard goed.

Yn gysylltiedig â’r mwynglawdd y mae elfennau tirwedd pellach megis tomenni ysbwriel, cronfeydd dwr a dyfrffosydd. Mae’r cronfeydd dwr yn arbennig yn elfennau dramatig o’r dirwedd.

Dominyddir archaeoleg gofnodedig yr ardal hon gan y diwydiant cloddio metel, a ffermydd a bythynnod anghyfannedd. Mae crug crwn o’r Oes Efydd ac aelwyd neu domen losg - safle anheddiad posibl - sy’n dyddio o gyfnod tebyg yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd. Pwysleisir hyn gan dair cofeb Gristnogol gynnar yn Llantrisant, a’r enw Llety Synod, a allai ddynodi clafdy Canoloesol.

Elfen mwyngloddio’r Ardal Tirwedd Hanesyddol hon sy’n ei diffinio rhag ardaloedd eraill cyfagos. Dim ond i’r de orllewin y ceir nodweddion mwyngloddio i’r fath raddau. I’r gogledd ceir ardal fwy anheddol, i’r gorllewin ceir tir uwch a arferai fod yn agored, i’r de a’r dwyrain ceir aneddiadau sgwatwyr, ac i’r de-ddwyrain ceir tir amgaeedig is.

LLETY SYNOD A FRONGOCH

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221