Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

LLUEST

LLUEST

CYFEIRNOD GRID: SN 787750
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 95.4

Cefndir Hanesyddol

Gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty, sicrhaodd ei chymeriad agored iddi gael ei hawlio gan y Goron. Ar ddiwedd y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19eg ganrif dechreuodd sgwatwyr feddiannu rhannau o’r tir agored hwn a oedd yn eiddo i’r Goron. Bu rhan o’r tir yn destun Deddf Amgáu ddyddiedig 1860 (Chapman 1992, 53). Mae’r map a luniwyd ar gyfer y dyfarniad (LlGC Cerdyn CC Adnau 6) yn darlunio’r tresmasu a fu ar dir y Goron gan y sgwatwyr. Rhoddwyd y rhydd-ddeiliadaeth i’r rhai a oedd wedi bod byw ar y daliad am fwy nag 20 mlynedd; rhoddwyd yr opsiwn i brynu eu daliadau i’r rhai a oedd wedi bod yn byw yno am lai nag 20 mlynedd. Mae’n amlwg bod sgwatwyr yn rhannol ddibynnol am eu bywoliaeth ar gyflogaeth yn y diwydiant cloddio metel. Cafodd y dirywiad yn y diwydiant effaith gysylltiedig ar yr aneddiadau hyn, ac yn ystod yr 20fed ganrif cawsant eu gadael ar raddfa fawr. Fodd bynnag, yn ystod y degawdau diwethaf newidiodd ffawd llawer o’r tai er gwell, a chawsant eu hadnewyddu neu eu hailadeiladu.

LLUEST

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys dyffryn ucheldirol agored Nant Gorlan a leolir rhwng 280m a 400m. Mae adeiladau’r patrwm anheddu gwasgaredig yn cynnwys tyddynnod, bythynnod a thai. Cerrig lleol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol, sydd wedi’u rendro â sment ar dai, ac mae llechi (llechi o ogledd Cymru) wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau. Mae’r anheddau i gyd bron yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, maent yn gymharol fach, mae ganddynt un llawr neu ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben – ond fel arfer ceir nodweddion brodorol, megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall. Moderneiddiwyd llawer o dai ar raddfa fawr neu fe’u hailadeiladwyd. Ceir nifer o dai adfeiliedig. Lle y maent i’w cael mae’r adeiladau allan wedi’u hadeiladu o garreg at ei gilydd wedi’u cyfyngu i un neu ddwy res fach, gyda rhai ohonynt ynghlwm wrth y ty ac yn yr un llinell ag ef. Prin iawn yw’r adeiladau fferm modern, a lle y maent i’w cael maent yn eithaf bach.

Ynghlwm wrth yr anheddau mae padogau neu gaeau bach, fel arfer o dir pori wedi’i wella. Rhennir y caeau gan waliau sych, ond ceir cloddiau a chloddiau caregog hefyd. Mae llawer o’r ffiniau hyn hyn yn ddiangen bellach ac mae ffensys gwifrau wedi cymryd eu lle. Ceir nifer o fythynnod anghyfannedd yn yr ardal hon, ac mae safleoedd nifer o rai eraill i’w gweld. Rhwng aneddiadau mae’r dirwedd yn un o dir pori garw iawn, agored, a thir brwynog a mawnaidd mewn pantiau. Sefydlwyd planhigfeydd bach o goed coniffer ar draws canol yr ardal, ond ar wahân i’r rhain ac ambell goeden gerllaw anheddau, tirwedd ddi-goed ydyw i bob pwrpas. Mae mân olion yn perthyn i’r diwydiant cloddio metel – tomenni a lefelydd – ar ochr ddwyreiniol yr ardal hon.

Ar wahân i anheddau sydd wedi goroesi ac anheddau anghyfannedd, ac olion y diwydiant cloddio metel, yr unig safle archeoleg arall o bwys yn yr ardal hon yw crug cylchog posibl yn dyddio o’r Oes Efydd.

Mae hon yn ardal nodedig, er nad oes iddi ffiniau pendant. I’r gogledd ac i’r dwyrain ceir rhostir uchel agored, ac i’r de ac i’r gorllewin ceir tir ffermio amgaeëdig is.

MAP LLUEST

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221