Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

MOELGOLOMEN

MOELGOLOMEN

CYFEIRNOD GRID: SN 694875
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 76.2

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal dirwedd hanesyddol fach hon. Mae’n debyg bod pobl yn cyfanheddu’r ardal hon ers amser maith. Dengys y map ar raddfa fawr cynharaf o’r ardal, sef map degwm 1845 (plwyf Llanbadarnfawr), dirwedd o ffermydd a bythynnod bach wedi’u gosod mewn system gaeau o gaeau bach, afreolaidd eu siâp. Dengys y map hwn pa mor boblog oedd yr ardal yn ystod y cyfnod hwn, poblogaeth sydd wedi gostwng ers hynny. Buwyd yn gweithio mwynglawdd metel bach yma o 1850 am nifer o ddegawdau, ond nid ymddengys ei fod yn arbennig o lwyddiannus (Bick 1988, 34).

MOELGOLOMEN

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Er ei bod yn fach mae hon yn ardal dirwedd hanesyddol ar wahân ac amrywiol. Mae wedi’i chanoli ar fferm Moelgolomen – ty Sioraidd brodorol yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif a chanddo adeiladau allan cerrig ac adeiladau amaethyddol modern sylweddol. Mae gan ail fferm dy wedi’i foderneiddio a llai o adeiladau allan. Mae nifer o ffermydd a bythynnod anghyfannedd ac adfeiliedig yn tystio i’r ffaith bod yr ardal hon yn arfer bod yn fwy poblog. Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau bach, afreolaidd eu siâp a rennir gan gloddiau neu gloddiau o bridd a cherrig ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr gweddol dda gerllaw’r fferm, ond maent wedi tyfu’n wyllt ac wedi’u hesgeuluso mewn mannau eraill. Mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at bob ffin. Mae rhai gwrychoedd yn cynnwys coed nodedig, ac mae’r coed hyn, ynghyd â chlystyrau bach o goed collddail a phlanhigfeydd o goed coniffer, yn rhoi golwg goediog i’r dirwedd. Tir pori wedi’i wella yw’r tir ffermio a cheir pantiau brwynog a mawnaidd, a thir mwy garw a rhedyn ar rai lethrau serth. Mae tomenni ysbwriel ac olion eraill ym mhen dwyreiniol yr ardal yn nodi lleoliad mwynglawdd metel bach. Mae ffrydiau, a wasanaethai fwyngloddiau ar lefelau is mewn ardaloedd cyfagos yn ôl pob tebyg, yn croesi’r dirwedd hon.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys olion mwyngloddiau mwyn ac elfennau ôl-Ganoloesol eraill yn y dirwedd. Darperir elfen o ddyfnder amser gan ddau faen hir yn dyddio o’r Oes Efydd a darganfyddiadau yn dyddio o’r Oes Efydd.

Mae’n anodd nodi’r ffin rhwng yr ardal hon a’r rhai i’r de ac i’r gorllewin yn fanwl, am eu bod yn rhannu llawer o nodweddion tebyg, er eu bod yn wahanol ar y cyfan. Ni cheir y fath broblem i’r gogledd ac i’r dwyrain, lle y mae tir agored yn cyffinio â’r ardal hon.

MAP MOELGOLOMEN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]