Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

MYNYDD BACH – CWM YSTWYTH

MYNYDD BACH – CWM YSTWYTH

CYFEIRNOD GRID: SN 696712
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 656.9

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r rhan fwyaf o’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur (Williams 1990, 57). Ym 1630 prynodd ystad Trawscoed y mwyafrif o gyn-faenorau Ystrad Fflur (Morgan 1987, 41), gan gynnwys, ymddengys, ran o’r ardal hon, gan Robert Devereux, Iarll Essex. O ddiwedd y 18fed ganrif o leiaf mae llethrau serth yr ardal hon yn dra choediog (gweler mapiau o’r ystad LlGC Trawscoed Cyf 1, 49, 55, 60 a’r map degwm o blwyf Gwnnws dyddiedig 1847), er bod yr ardal a elwir yn Fynydd Bach yn ffridd agored neu’n rhostir hyd at yr arolwg degwm, ac mae’n debyg, felly, fod y tir yn perthyn i’r Goron yn hanesyddol. Rhannwyd Mynydd Bach yn gyfres o gaeau mawr yn ail hanner y 19eg ganrif. Erbyn hyn mae’r ardal gyfan wedi’i phlannu â choedwigoedd. Dechreuodd y gwaith plannu ar y llethrau serth ar dir a brynwyd gan ystad Trawscoed yn y 1930au (Edlin 1959, 13), ac yn ddiweddarach ar dir uwch Mynydd Bach. Âi rheilffordd Milford Manceinion, a agorodd ym 1866 ac a gaeodd yn y 1960au, trwy’r ardal hon.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal dirwedd hon yn cwmpasu bryniau creigiog Mynydd Bach, sy’n codi i uchder o 370m, a llethrau serth dyffryn Afon Ystwyth sy’n disgyn at yr afon ar uchder o 80m. Mae’r ardal gyfan wedi’i gorchuddio gan goed. Ym mhen dwyreiniol pellaf yr ardal ger Pontrhydygroes, ac yn y de-orllewin ger Tynygraig, mae clystyrau bach o goed collddail wedi goroesi, ond mewn mannau eraill mae coedwigoedd o goed coniffer naill wedi disodli’r pren caled neu maent wedi’u plannu ar dir a arferai fod yn agored. Cyn cael eu plannu â choed, roedd y llethrau serth wedi’u gorchuddio gan goedwigoedd o goed collddail, ac roedd y tir uchel yn dir pori garw. Lleolir ffiniau caeau yn deillio o weithgarwch amgáu a gyflawnwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif o fewn y coedwigoedd ar Fynydd Bach, ond nis astudiwyd ar gyfer yr arolwg hwn. Lleolir olion y diwydiant cloddio plwm ar gyrion gogleddol yr ardal hon, ond lleolir prif elfennau’r diwydiant y tu allan, ac felly fe’u disgrifir rywle arall. Mae hen argloddiau a hafnau rheilffordd hefyd yn elfennau diwydiannol yn y dirwedd. Planhigfeydd, llwybrau, ffyrdd a nodweddion coedwigaeth eraill yw elfennau mwyaf cyffredin ac amlycaf y dirwedd hanesyddol.

Yn ogystal ag elfennau diwydiannol y dirwedd y cyfeiriwyd atynt uchod, mae’r archeoleg a gofnodwyd ar ffurf dau grug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd.

Mae i’r ardal dirwedd hon ffiniau pendant iawn ac yn cyffinio â’r coedwigoedd ceir rhostir neu dir pori wedi’i wella lled-agored, neu lawr dyffryn, neu dir ffermio cyfannedd ac amgaeëdig.

MAP MYNYDD BACH – CWM YSTWYTH

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221