Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

MYNYDD Y FFYNNON

MYNYDD Y FFYNNON

CYFEIRNOD GRID: SN 779776
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1641

Cefndir Hanesyddol

Yn ystod y Cyfnod Canoloesol, gorweddai’r ardal hon o fewn maenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty mae’n debyg iddi ddod i feddiant y teulu Herbert o Gastell Powys ynghyd â llawer o ddaliadau eraill y cyn-abaty, er y byddai’r darnau agored o dir wedi aros yn eiddo i’r Goron. Ffurfiai tir y teulu Herbert yng Nghwmystwyth y sail i ystad ddiweddarach yr Hafod. Meddiannodd Thomas Jones, perchennog enwocaf ystad yr Hafod, dir y Goron yn rheibus, naill ai er mwyn sefydlu coedwigoedd neu er mwyn ei amgáu i’w ddefnyddio at ddibenion amaethyddol. Plannodd leiniau mawr o dir yn yr ardal hon, y dangosir eu lleoliadau ar fap o’r ystad dyddiedig 1834 (LlGC R.M. A64) ac ar fap degwm 1847. Torrwyd y coedwigoedd hynny a blannwyd gan Johnes ac a oedd wedi goroesi tan yr 20fed ganrif i lawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd (Edlin 1959, 13). Ym 1800, sefydlodd Johnes fferm arbrofol hefyd, a elwid yn New Farm yn wreiddiol, ac a elwir bellach yn Gelmast (Suggett, 1998-99). Roedd hon yn fferm magu defaid ac yn fferm laeth, a braenarwyd llawer o dir heb ei amaethu efallai am y tro cyntaf. Cychwynnwyd cynlluniau draenio ac adeiladwyd ffermdy ac adeiladau fferm. Mae’r adeiladau yn dal i fodoli. Ym 1866, bu rhannau o’r ardal hon yn destun Deddf Amgáu (Chapman, 1992, 53; LlGC Cerdyn CC Adnau 6), na chafodd fawr ddim effaith ffisegol ar y dirwedd, er iddi gael ei dyfarnu. Lleolir nifer o fwynglodddiau metel bach yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif ar gyrion yr ardal hon yn nyffryn Mynach. Prif gyfnodau gweithio’r mwyngloddiau hyn oedd yn y 1850au hyd y 1870au (Bick 1983, 30). Ym mhen gogleddol pellaf yr ardal lleolid mwynglawdd Nantycria, a oedd yn enwog am ei flend. Buwyd yn ei weithio o’r 18fed ganrif, a chaeodd tua diwedd y 19eg ganrif (Bick 1983, 29). Yn y 1950au, prynodd y Comisiwn Coedwigaeth y mwyafrif o diroedd ystad yr Hafod a dechrau ar raglen helaeth o goedwigo ucheldirol. Plannwyd bron y cyfan o’r ardal hon, a thir gerllaw Gelmast oedd yr unig eithriad amlwg.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys llain fawr iawn o ucheldir tonnog, weithiau creigiog. Mae’n codi i dros 530m lle y mae ar ei uchaf, ond fel arfer mae’n gorwedd rhwng 300 a 450m. Ar wahân i ambell boced, mae’r ardal gyfan wedi’i gorchuddio gan blanhigfeydd o goed coniffer. Cyn cael ei phlannu â choed roedd y rhan fwyaf o’r ardal yn rhostir agored, er y ceid rhai ffiniau ar ffurf cloddiau, cloddiau o bridd a cherrig a waliau sych, yn arbennig ar lefelau is. Mae fferm a rhai caeau cysylltiedig a sefydlwyd ym 1803 wedi goroesi yn Gelmast. Mae’r fferm enghreifftiol hon yn rhestredig ac mae’n cynnwys ty Sioraidd, a addaswyd ar ddiwedd y 19eg ganrif, a rhesi o adeiladau allan cerrig o amgylch iard. Mae ffosydd/ffiniau draenio yn nodwedd ar y dirwedd. Yn Nantycria mae olion gweithgarwch cloddio yn cynnwys tomenni, cronfeydd dwr a ffrydiau. At ei gilydd dilëwyd olion y diwydiant cloddio yn nyffryn Mynach gan weithrediadau coedwigaeth. Yn wir, planhigfeydd, llwybrau, ffyrdd a nodweddion coedwigaeth yw elfennau mwyaf cyffredin ac amlycaf y dirwedd hanesyddol yn yr ardal hon.

Yn ogystal â’r toreth o olion yn gysylltiedig â gweithgarwch cloddio am fetel yn y cofnod archeolegol, mae nifer o fythynnod, ffermydd ac anheddau eraill sydd bellach yn anghyfannedd yn tystio i’r ffaith bod pobl yn byw yr ardal hon cyn y 19eg ganrif, er bod y boblogaeth honno yn un denau. Mae’r Arch, ffug-gastell yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif, yn cyflwyno ychydig o ddrama i’r dirwedd goediog hon, ac mae darganfyddiadau yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig yn darparu rhywfaint o ddyfnder amser.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant a cheir tir agored ar bob ochr ac eithrio ar ran fach o’r ffin orllewinol, ac i’r de lle y ceir tir amgaeëdig isel.

MAP MYNYDD Y FFYNNON

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]