Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

NANT COU A NANT OCHRGARREG

NANT COU A NANT OCHRGARREG

CYFEIRNOD GRID: SN 697581
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 233.3

Cefndir hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Mae’n debyg ar ddechrau’r Cyfnod ôl-Ganoloesol fod llawer o’r ardal hon yn dir agored a’i fod yn cael ei hawlio gan y Goron felly. Dim ond yn ystod yr ychydig ganrifoedd diwethaf y cafodd yr ardal hon ei gwladychu a’i hamgáu. Dengys map degwm 1845 (Map Degwm a Dyraniad Caron) dirwedd wahanol iawn i’r un a welir heddiw. Bodolai ffermydd Ochrgarreg, Caebwd, Troed-y-Rhiw a Chefn-y-Esgair Fawr a Fach bryd hynny, pob un yng nghanol rhai caeau bach wedi’u gosod o fewn tir agored. Ymddengys fod Glangors yn anheddiad sgwatwyr. Nid oedd ffermydd eraill - sef Pant-Glas, Bryn-wernen, Tyncae – wedi’u sefydlu. Erbyn 1887 pan wnaeth yr Arolwg Ordnans (Arolwg Ordnans, 1891, 6” i 1 filltir, Cardiganshire XXVII.NW) ei arolwg ar raddfa fawr, roedd y patrwm anheddu a’r system gaeau bresennol, ar wahân i waith a wnaed i isrannu caeau mawr ymhellach, wedi’u sefydlu. Felly, fel mewn llawer o ardaloedd tebyg yn ucheldir Ceredigion, adlewyrchir effeithiau ffisegol y twf yn y boblogaeth ar ddechrau’r 19eg ganrif yn y dirwedd. Ers hynny mae nifer yr aneddiadau cyfannedd wedi gostwng.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Ardal sydd wedi’i chanoli ar rannau uchaf dyffrynnoedd Nant Cou a Nant Ochrgarreg rhwng 290m a 400m. Nodweddir y topograffi gan ucheldiroedd tonnog a llethrau serth. Mae’r aneddiadau wedi’u gwasgaru ac maent wedi’u gosod mewn system o gaeau bach, afreolaidd eu siâp. Ar gyrion uwch yr ardal hon mae’r caeau bach hyn yn cael eu disodli gan gaeau mwy o faint, mwy rheolaidd eu siâp. Ceir coetir collddail ar y llethrau mwy serth. Rhennir y caeau gan gloddiau ag wyneb o gerrig ac arnynt wrychoedd, ac ambell wal sych. Ar lefelau is mae’r gwrychoedd mewn cyflwr gweddol dda; ar lefelau uwch maent wedi’u hesgeuluso. Erbyn hyn mae’r mwyafrif o’r ffiniau wedi’u hatgyfnerthu gan ddefnyddio ffensys gwifren. Mae’r ffiniau ar lefelau is yn cynnwys coed gwrychoedd nodedig. Tir pori wedi’i wella yw’r tir amaethyddol, a cheir tir pori garw a rhedyn ar lethrau serth a thir brwynog a dyddodion mawnaidd mewn pantiau. Ceir clystyrau sylweddol o goetir collddail ar y llethrau, ac mae’r rhain, ynghyd â’r coed gwrychoedd, yn rhoi golwg weddol goediog i’r dirwedd.

Nodweddir y math o anheddu gan ffermydd bach. Cerrig lleol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi (llechi gogledd Cymru) wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau. Mae’r waliau naill ai wedi’u rendro â sment neu wedi’u gadael yn foel ar dai, ac maent yn foel ar adeiladau fferm traddodiadol. Mae’r tai i gyd bron yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Ar ben hynny mae ganddynt nodweddion brodorol cryf megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall. Mae llawer o’r tai wedi’u moderneiddio, a cheir o leiaf dri thy modern neu dri thy a ailadeiladwyd. At ei gilydd mae adeiladau allan y ffermydd sydd wedi’u hadeiladu o gerrig wedi’u cyfyngu i un neu ddwy res fach, a cheir sawl enghraifft sydd ynghlwm wrth y ty ac yn yr un llinell ag ef. Nid yw nifer o ffermydd yn gweithio bellach ac nis defnyddir eu hadeiladau allan. Mae gan ffermydd gweithredol resi bach o adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern – nid yw’r rhain yn nodweddion amlwg yn y dirwedd.

Mae’r unig safle archeolegol a gofnodwyd yn yr ardal hon - darganfyddiadau yn dyddio o’r Oes Efydd - yn darparu elfen o ddyfnder amser i’r dirwedd.

I’r gogledd mae’r ardal hon yn ymdoddi i’r ardal sy’n cyffinio â hi ac nid oes unrhyw ffin bendant. I’r gorllewin ni ddiffiniwyd yr ardal dirwedd eto, er ei bod yn dir agored. Mae coedwigoedd a blannwyd yn ffurfio ffin bendant i’r de, a nodir yr ymyl ddwyreiniol yn glir lle y mae’n cwrdd â thir agored.

MAP NANT COU A NANT OCHRGARREG

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221