Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

NANTYRARIAN

NANTYRARIAN

CYFEIRNOD GRID: SN 693813
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 320.0

Cefndir Hanesyddol

Gorweddai rhan ddwyreiniol yr ardal hon, i’r dwyrain o bentref Goginan, o fewn Maenor Nantyrarian a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir. Daliad bugeiliol pwysig ydoedd: cofnodir 300 o ddefaid, 128 o wartheg a 26 o gesig yma ym 1291 (Williams 1990, 40). Mesurodd Lewis Morris faint ‘Arglwyddiaeth Nantyrarian’, a rannai’r un ffiniau â’r faenor yn ôl pob tebyg. Cloddio am fetel a lleoliad mwynau arian oedd diddordeb pennaf Morris, ond dengys ei fap dyddiedig 1744 dirwedd o ffermydd gwasgaredig. Erbyn y 18fed ganrif, roedd y rhan fwyaf o’r eiddo yn yr ardal yn nwylo ystadau Gogerddan a Chastell Powys. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Castell Powys 164; LlGC Cyf 37, 57-60) ffermydd Ty’n-y-pwll, Nantyrarian, Cwmbrwyno, Abernant-yr-arian a Blaendyffryn mewn tirwedd o gaeau bach ar loriau dyffrynnoedd - tirwedd debyg iawn i’r un a welir heddiw. Mae’n debyg erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, neu ynghynt efallai, fod Maenor Nantyrarian wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn unigol. Felly gall y ffermydd a gofnodwyd gan Morris ac a ddangosir ar y mapiau ystad fod yn hen iawn, a hefyd eu systemau caeau cysylltiedig. Bu cloddio am fetel yn elfen bwysig yn adeiledd economaidd yr ardal ers cryn amser. Mae’n bosibl bod arteffactau Rhufeinig y tybir eu bod yn dod o lefelydd dystio i hynafiaeth mwynglawdd Goginan (Bick 1983, 35-38; Hughes 1988). Yn ddiau buwyd yn gweithio Goginan o’r 1560au hyd yr 20fed ganrif. Mae mwyngloddiau eraill yn yr ardal yn cynnwys mwynglawdd Gorllewin Goginan a mwynglawdd Ty’n-y-Pwll. Oherwydd eu cyflenwadau helaeth o fwyn a’r ffaith eu bod wedi para mor hir mae mwyngloddiau Goginan wedi cael cryn effaith ar y dirwedd hanesyddol. Yn ogystal â lefelydd mae’r mwyngloddiau, tai gweithwyr, capeli ac adeiladau eraill yn Hen Goginan, Goginan a Chwmbrwyno yn tystio i’r cyfoeth a grëwyd gan y diwydiant. Cynyddodd y penderfyniad i adeiladu ffordd dyrpeg trwy’r ardal - ffordd yr A44 bellach - botensial masnachol yr ardal ymhellach, ac arweiniodd at newid canolbwynt y patrwm anheddu o fewn yr ardal o Hen Goginan ar lawr y dyffryn i Goginan ar y ffordd newydd, a phenderfynodd leoliad cymuned fwyngloddio Cwmbrwyno.

NANTYRARIAN

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal gymhleth hon wedi’i chanoli ar ddyffrynnoedd gwastad, bras Afonydd Arian, Melindwr a Brwyno. Mae llethrau a orchuddir gan goed trwchus yn codi’n serth, mor uchel â 300m, o loriau dyffrynnoedd ar uchder o ryw 100m. Ni chynhwysir y llethrau coediog yn yr ardal hon, ond cynhwysir y llethrau is lle y maent yn foel, i fyny at uchder o ryw 200m. Tir pori wedi’i wella yw’r tir amaeth i gyd bron, ac ychydig iawn o dir pori garw sydd. Mae caeau bach, afreolaidd eu siâp yn gorwedd ar draws llawr y dyffryn ac i fyny’r llethrau is. Cloddiau ac arnynt wrychoedd sy’n ffurfio ffiniau’r system gaeau hon. Mae’r gwrychoedd gerllaw ffyrdd mewn cyflwr da ac maent yn cael eu cadw a’u cynnal yn dda, ond mewn mannau eraill maent mewn cyflwr gwael, ac weithiau maent wedi tyfu’n wyllt neu wedi’u hesgeuluso, ac mae gwifrau wedi’u hychwanegu atynt. Ym mhen dwyreiniol ac ym mhen gorllewinol yr ardal ceir coed gwrychoedd nodedig, ac mae’r rhain ynghyd ag ambell glwstwr o goed llydanddail, a’r llethrau sydd wedi’u plannu â choed trwchus yn rhoi golwg goediog i rai lleoliadau.

Uwchben y patrwm anheddu hynafol o ffermydd gwasgaredig mae cymunedau mwyngloddio yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a datblygiadau modern. Mae’r adeiladau, yn amaethyddol ac yn ddiwydiannol, wedi’u hadeiladau yn draddodiadol o gerrig (cerrig moel, cerrig wedi’u rendro â sment neu gerrig wedi’u paentio) a chanddynt doeau o lechi gogledd Cymru. Goginan yw’r mwyaf o’r aneddiadau diwydiannol, er nad yw’n fwy na phentref o hyd, ac mae’n cynnwys terasau o dai gweithwyr (terasau a adeiladwyd mewn un cyfnod i’r pwrpas yn ogystal â therasau a adeiladwyd mewn mwy nag un cyfnod) yn arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol y rhanbarth yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Ceir tai gweithwyr ar wahân a thai gweithwyr pâr mewn arddull debyg, tai Sioraidd mwy o faint neu dai mwy o faint yn yr arddull Sioraidd - tai rheolwyr neu berchenogion mwyngloddiau yn ôl pob tebyg-, tafarn yn yr arddull Sioraidd a nifer o gapeli yn dyddio o’r 19eg ganrif ac eglwys, nas defnyddir bellach. Mae’r pentref cyfan wedi’i wasgaru ar hyd y ffordd dyrpeg ac i lawr y llethr ohoni (y briffordd bresennol). Ar y llethrau islaw craidd y pentref hyn ceir tai a byngalos yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif a’r 21eg ganrif. Ar y llethr gyferbyn, ceir tai ar wahân a thai pâr sy’n fwy o faint na’r tai a geir yn Goginan, er eu bod mewn arddull debyg ac yn dyddio o’r un cyfnod, fwy neu lai. Ceir rhai tai gweithwyr llai o faint yma hefyd. Ceir tai gweithwyr hefyd yng Nghwmbrwyno yn ogystal â fila gothig yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae’r ffermydd o faint cymysg, ond maent yn tueddu i fod o faint bach i ganolig. Mae’r ffermdai yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Fel arfer mae ganddynt ddau lawr, ac maent wedi’u hadeiladu o gerrig wedi’u rendro â sment. Mae adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig yn dyddio o’r un cyfnod fwy neu lai ac fel arfer maent yn cynnwys dwy neu dair rhes fach. Ar rai ffermydd mae’r adeiladau allan ynghlwm wrth y ty ac yn yr un llinell ag ef. Ceir adeiladau amaethyddol modern ar ffermydd gweithredol, ac fel arfer nid ydynt yn fawr. Wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd ceir tai a byngalos modern, sy’n ffurfio clystyrau ger Hen Goginan a Goginan.

Tomenni ysbwriel yw olion amlycaf y diwydiant cloddio plwm. Bu tomenni ysbwriel mwynglawdd Goginan yn destun rhaglen o welliannau amgylcheddol ac nid oes fawr ddim diddordeb wedi goroesi o’r tomenni ysbwriel hyn ac unrhyw elfennau eraill o’r safle ar wahân i blân ar oleddf.

Mae’r rhan fwyaf o archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys olion y diwydiant cloddio metel ac adeiladau ôl-Ganoloesol sydd wedi goroesi megis capeli, anheddau ac ysgol. Fodd bynnag, mae darganfyddiadau Neolithig, dau grug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd, maen hir posibl yn dyddio o’r Oes Efydd a bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn yn darparu dyfnder amser ar gyfer y dirwedd.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant ar bob ochr ac eithrio tua’r pen dwyreiniol lle y mae tir amgaeëdig is o amgylch Capel Bangor yn ymdoddi iddi. Ar bob ochr arall yn ffinio â’r ardal hon ceir llethrau coediog iawn neu rostir uchel.

MAP NANTYRARIAN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221