Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

PANTYFEDWEN A CHROFFTAU

PANTYFEDWEN A CHROFFTAU

CYFEIRNOD GRID: SN 745648
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 325.6

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o Faenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd ei diroedd i Iarll Essex, a phrynwyd y rhan fwyaf o’r tir hwnnw gan ystad Trawscoed ym 1630. Fodd bynnag, ymddengys fod yr ardal hon wedi gorwedd o fewn demên yr abaty a daeth i feddiant John Stedman ym 1567. Pan fu farw Richard Stedman ym 1746, heb wneud ewyllys, trosglwyddwyd y tir i ystad Nanteos. Mae’n debyg bod y patrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig yn dyddio o’r Cyfnod Canoloesol ac iddo gael ei ddatblygu a’i gynorthwyo gan berchenogion diweddarach yr ystad. Dengys mapiau ystad o ystad Nanteos dyddiedig 1819 (LlGC Cyf 45, 59, 64, 65), fod yr ardal wedi newid gryn dipyn yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf. Mae ardaloedd o goetir wedi aros yn weddol ddigyfnewid, ond mae’r systemau caeau wedi newid ac wedi datblygu tra bod nifer yr aneddiadau wedi gostwng. Dangoswyd Talwrn, Crofftau a dwy fferm anghyfannedd arall gerllaw Crofftau ym 1819 fel ffermydd ag ychydig o gaeau bach o bobtu iddynt wedi’u gosod mewn ffridd agored. Roedd rhai caeau newydd wedi’u creu erbyn yr arolwg degwm (Map Degwm a Dyraniad Caron, 1845), ond cynlluniwyd y mwyafrif o’r caeau yn yr ardal hon ar ôl 1845. Mae rhai o elfennau’r dirwedd wedi dadfeilio; mae cyn-gaeau bach o amgylch y ddwy fferm anghyfannedd wedi troi’n gaeau mawr unwaith eto ac mae rhai ardaloedd a oedd wedi’u hamgáu gynt wedi’u plannu â choed coniffer.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal o goed trwchus sy’n ymestyn ar draws un o lethrau rhan uchaf Afon Teifi, sy’n wynebu’r gogledd, a mân ddyffrynnoedd rhagnentydd sy’n llifo i’r gogledd. Mae’r ardal yn amrywio o ran uchder o 190m tua llawr dyffryn Afon Teifi i 350m yn ei therfynau deheuol. Mae rhai o’r llethrau yn serth ac yn greigiog. Mae’n cwmpasu amrywiaeth o fathau o dirwedd gan gynnwys systemau caeau o gaeau bach i fawr, tir agored, coetir collddail a phlanhigfeydd o goed coniffer. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig y ceir systemau o gaeau bach a chaeau mwy o faint o bobtu iddynt a lleiniau bach o dir agored ymhellach allan. Mae’r math o ffin cae yn amrywio’n fawr; ceir waliau sych fel arfer ar lefelau uwch a chloddiau a chloddiau ag wyneb o gerrig ar y llethrau is, er bod y mathau wedi’u cymysgu gryn dipyn. Ceir gwrychoedd mewn cyflwr gwael ar rai o’r cloddiau, yn arbennig ar y llethrau is. Mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at y ffiniau hanesyddol hyn. Ceir tir pori wedi’i wella o fewn y caeau. Yn brithio’r coetir ar y llethrau mwy serth ceir tir mwy garw, ac ambell lain o redyn. Ceir lleiniau mawr o goetir collddail a chonifferaidd cymysg ar y llethrau sy’n wynebu’r gogledd uwchlaw Abaty Ystrad Fflur.

Prin yw’r adeiladau yn yr ardal hon. Mae’r strwythurau hyn wedi’u hadeiladu o gerrig lleol. Mae un ffermdy yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Mae’n gymharol fach a chanddo ddau lawr, simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan dy arall nodweddion hyn, mwy brodorol. Adeiladwyd byngalo yn ddiweddar yn yr ardal. Nodwyd rhes sylweddol o adeiladau allan deulawr wedi’u hadeiladu o gerrig ar un fferm. Prin yw’r adeiladau amaethyddol modern.

Ar wahân i’r bythynnod y cyfeiriwyd atynt uchod, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys olion mwynglawdd metel ôl-Ganoloesol, crug grwn yn dyddio o’r Oes Efydd a maen hir posibl yn dyddio o’r Oes Efydd.

I’r de mae llain fawr o goedwigoedd a blannwyd yn cyffinio â’r ardal hon. I’r gogledd ac i’r gorllewin mae ffiniau’r ardal yn llai pendant lle y mae’r ardal hon yn ymdoddi i dir amgaeëdig.

MAP PANTYFEDWEN A CHROFFTAU

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]