Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

PANT-Y-HAIDD

PANT-Y-HAIDD

CYFEIRNOD GRID: SN 697726
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 205.7

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon, fodd bynnag, oherwydd ei chymeriad ucheldirol a’i llethrau serth mae’n debyg bod yr ardal wedi cynnwys rhostir agored neu dir pori garw am ran helaeth o’r gorffennol. Roedd yn rhan o ystad Trawscoed erbyn y 18fed ganrif, ac mae map o’r ystad dyddiedig 1781 (LlGC Trawscoed Cyf 1, 47) yn ei dangos fel tir agored. Dangosir patrwm tebyg ar y map degwm (map degwm a dyraniad Llanafan, 1845), ond erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd yr ardal wedi’i rhannu’n gaeau mawr iawn. Mae’r ardal gyfan wedi’i phlannu â choedwigoedd erbyn hyn. Dechreuwyd plannu coed ar y llethrau serth ar dir a brynwyd gan ystad Trawscoed yn y 1930au (Edlin 1959, 13), a pharhaodd y gwaith ar ôl yr Ail Ryfel Byd ar dir uwch.

PANT-Y-HAIDD

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys rhan o lethr serth iawn dyffryn Afon Ystwyth sy’n wynebu’r gogledd. Mae llethrau is y dyffryn yn disgyn i 100m, mae’r ardal yn codi i dros 340m lle y mae ar ei huchaf. Ar wahân i gilfach fach sy’n cynnwys anheddiad, mae’r ardal gyfan wedi’i phlannu â choed. Mae ty sydd wedi goroesi yn dyddio o’r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg, ond mae wedi’i foderneiddio gryn dipyn. Cyn cael ei phlannu â choed ymddengys fod yr ardal yn cynnwys tir agored, er ei bod wedi’i rhannu’n gaeau mawr yn ystod ail hanner y 19eg ganrif.

Mae bryngaer Cefn Blewog sy’n dyddio o’r Oes Haearn yn darparu elfen o ddyfnder amser i’r dirwedd hon. Mae cloddwaith y safle pwysig hwn bellach wedi’u lleoli yn ddwfn mewn coedwig. Yr unig olion pwysig eraill yw rhai’r diwydiannau cloddio metel sy’n dyddio o’r 19eg ganrif gan mwyaf.

Mae hon yn ardal o goedwigoedd ac iddi ffiniau pendant.

MAP PANT-Y-HAIDD

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221