Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

PENGROGWYNION A BRYNAFAN

PENGROGWYNION A BRYNAFAN

CYFEIRNOD GRID: SN 718729
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 122.4

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Erbyn canol y 18fed ganrif roedd fferm Pengrogwynion, sy’n cynnwys y rhan fwyaf o’r ardal hon, ym meddiant ystad Gogerddan, er bod ystad Trawscoed yn dal tir o’i hamgylch. Nid yw’n sicr sut y daeth yr ystadau hyn i feddiant y tir. Mae chwedl a adroddwyd gan Morgan (1977, 35) yn dweud sut y collodd y teulu Vaughan o Drawscoed Bengrogwynion i ystad Gogerddan pan oeddynt yn gamblo mewn tafarn ar ras rhwng dwy gleren. Dengys mapiau ystad o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Trawscoed Cyf 1, 22; LlGC Gogerddan 54 a 55) gaeau bach, afreolaidd eu siâp gerllaw fferm Pengrogwynion a chaeau mwy o faint a lleiniau o dir agored ymhellach allan - roedd y rhan fwyaf o’r tir yn agored. Dangosir bythynnod, weithiau o fewn caeau neu badogau, wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal o gaeau mawr a thir agored. Mae’r patrwm anheddu hwn o fythynnod gwasgaredig yn ddiddorol. Mae bron yn sicr ei fod yn deillio o weithgarwch tresmasu ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif. Byddai prif graidd yr anheddiad ar uchder o dros 300m wedi’i leoli ar dir ymylol, ac oherwydd hynny, ynghyd â’r cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a gynigid gan fwyngloddiau plwm Grogwynion a Gwaithgoch gerllaw, roedd y lleoliad hwn yn un delfrydol ar gyfer sgwatwyr. Dengys mapiau ystad cyfoes fod y tir yr ymsefydlodd y sgwatwyr arno yn dir agored, ond ei fod yn eiddo i ystad Trawscoed, neu ei fod yn cael ei hawlio ganddi o leiaf, ac nad oedd yn dir comin o eiddo’r Goron. Erbyn arolwg degwm 1845 (map degwm a dyraniad Llanafan) roedd statws y sgwatwyr wedi’i ffurfioli a thenantiaid ystad Trawscoed oeddynt bellach. Erbyn 1845 roedd nifer y bythynnod wedi cynyddu, er nad oeddynt yn ymestyn dros gymaint o dir â chynt, er enghraifft nodir cyn-fwthyn fel ‘Safle Ty’ ar y map. Dengys mapiau modern bod y caeau mwy o faint wedi’u hisrannu gryn dipyn ers yr arolwg degwm. Ni chafodd mwynglawdd plwm Grogwynion, a leolid yn yr ardal dirwedd hanesyddol i’r gogledd unrhyw effaith uniongyrchol ar yr ardal hon.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Ardal o dir tonnog a brigiadau creigiog uwchlaw ochr ogleddol dyffryn Afon Ystwyth, sy’n amrywio o ran uchder o 240m i 350m. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r rhan fwyaf o’r tir, ond ceir lleiniau o dir pori garw, brwyn a phantiau mawnaidd. Tirwedd ddi-goed ydyw. Un o elfennau nodedig y dirwedd yw’r patrwm anheddu gwasgaredig yn cynnwys bythynnod a thai a thyddynnod. Mae’r adeiladau hyn wedi’u hadeiladu o gerrig lleol (cerrig wedi’u rendro â sment ac wedi’u paentio) a chanddynt doeau llechi. Ym Mrynafan ceir clwstwr llac o fythynnod brodorol unllawr bach yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, ond mae’r mwyafrif wedi cael eu moderneiddio a’u hymestyn ac nid yw eu ffurf wreiddiol yn amlwg. Mae’n debyg bod anheddau tyddynnod yn dyddio o’r un cyfnod, mae ganddynt ddau lawr a nodweddion brodorol cryf, yn hytrach nag elfennau Sioraidd, sy’n fwy cyffredin yn y rhanbarth hwn ar gyfer y cyfnod. Mae un o’r tai hyn yn rhestredig. Mae adeiladau fferm wedi’u hadeiladu o gerrig yn fach, mae’n debyg eu bod yn ddigon mawr ar gyfer cwpl o wartheg a storfa. Mae adeiladau amaethyddol modern, lle y maent i’w cael, yn fach hefyd.

Mae’r patrwm caeau yn gymysg ac mae’n cynnwys caeau bach, afreolaidd eu siâp a chaeau mwy o faint, mwy rheolaidd. Rhennir y caeau gan gloddiau, a dim ond ar y llethrau is ym mhen dwyreiniol yr ardal y ceir gwrychoedd. Mae’r gwrychoedd hyn mewn cyflwr gwael ac mae ffensys gwifren wedi’u hychwanegu atynt. Mewn mannau eraill ceir ffensys gwifren ar ben y cloddiau.

Lleolir Castell Grogwynion, sy’n enghraifft ardderchog o fryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn ym mhen dwyreiniol yr ardal gymeriad hon. Mae’r unig archeoleg arall a gofnodwyd yn cynnwys capel/ysgol Sul, a adeiladwyd ym 1905.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant ar dair ochr a cheir llethr serth ac ardal lle y buwyd yn cloddio am blwm i’r de, a choedwigoedd i’r gorllewin ac i’r dwyrain. I’r gogledd mae’r ffin yn llai clir.

MAP PENGROGWYNION A BRYNAFAN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221