Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

PENRHYN-COCH

PENRHYN-COCH

CYFEIRNOD GRID: SN 646840
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 381.3

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai rhan ogleddol yr ardal hon o fewn Maenor y Dywarchen a oedd yn eiddo i Abaty Ystad Fflur. Yn draddodiadol roedd canolfan weinyddol y faenor yn y Cwrt, a leolir y tu mewn i’r ardal hon. Mae Williams (1990, 57) yn cofnodi melin ddwr ac ysgubor hynafol yma a chrocbren ar y bryn uwchben. Ar ôl i’r abaty gael ei ddiddymu, ymddengys i ystad annibynnol fach - Court Farm - gael ei cherfio allan o’i diroedd, cyn cael ei hymgorffori yn ystad Gogerddan. Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes pentref cnewyllol, bach Penrhyn-coch ac felly nid yw’n hysbys. Mae’n debyg ei fod yn ddatblygiad diweddar, ac mae’r forffoleg a’r dystiolaeth o fapiau yn nodi bod anheddiad yma tan ddiwedd y 19eg ganrif. Ni adeiladwyd eglwys tan 1881 (Jones 1998, 499). Hanes tebyg sydd i bentrefan llai o faint Pen-bont Rhydybeddau, er yr ymddengys i’r anheddiad hwn gael ei sefydlu yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif i wasanaethu’r mwyngloddiau metel yn yr ardal hon, a mwyngloddiau metel Cwm Daren a Thwll y Mwyn a leolid mewn ardaloedd cyfagos. Nodweddir patrwm anheddu hynafol yr ardal gan ffermydd gwasgaredig. Mae’n debyg bod y ffermydd hyn yn hen iawn, yn ddiau maent yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, ac yn ôl pob tebyg cawsant eu sefydlu yn y Cyfnod Canoloesol. Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd eiddo yn yr ardal yn rhan o ddaliadau ystadau Gogerddan, Trawscoed neu Court Farm. Dengys mapiau ystad (LlGC Gogerddan 67; Trawscoed 345, 346; R.M. C22; Scott Archer 20; Cyf 38, 6, 8, 10, 12, 14) nifer o’r ffermydd mewn tirwedd o gaeau bach, afreolaidd eu siâp, a chaeau rheolaidd ar ffurf lleiniau - tirwedd debyg i’r un a welir heddiw yn y bôn. Ymddengys fod rhai o’r caeau a ddangosir ar y mapiau ystad yn lleiniau amgaeëdig, sy’n awgrymu bod system o gaeau wedi’u hisrannu yno cyn hynny y mae’r dirwedd bresennol wedi datblygu ohoni. Ehangodd pentref Penrhyn-coch yn gyflym yn ystod yr 20fed ganrif, ac adeiladwyd ystad newydd o dai, maes chwarae a datblygiadau eraill. Roedd gweithgarwch cloddio am fetel yn yr ardal hon wedi’i ganoli ar fwynglawdd Bronfloyd. Buwyd yn gweithio’r mwynglawdd hwn yn yr 17eg ganrif, ac roedd ei gyfnod mwyaf ffyniannus yn y 19eg ganrif. Daeth cynhyrchiant i ben yn y diwedd ym 1892 (Bick 1988, 26-28). Cofnodir yr ardd ar Fferm Pen-y-berth ar Gronfa Ddata Gerddi Hanesyddol Cymru.

 

PENRHYN-COCH

PENRHYN-COCH

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon wedi’i chanoli ar ddyffrynnoedd Afon Stewi a Nant Silo, ac mae’n cynnwys lloriau’r dyffrynnoedd a’u llethrau is. Mae’n amrywio o ran uchder o 50m i 110m. Mae’r patrwm caeau o gaeau bach, afreolaidd eu siâp a llein-gaeau rheolaidd wedi goroesi’n gyfan am o leiaf ddwy ganrif. Mae hyn yn cynnwys ffin hir, nodedig rhwng lleiniau amgaeëdig a thir a arferai fod yn agored ar ochr ogleddol dyffryn Afon Stewi. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Ger Penrhyn-coch ac ar loriau’r dyffrynnoedd mae’r gwrychoedd mewn cyflwr gweddol dda, ond ar lethrau uwch a thua phen dwyreiniol yr ardal maent yn dechrau tyfu’n wyllt a chael eu hesgeuluso. Mae ffensys gwifren wedi’u hychwanegu at y mwyafrif o’r gwrychoedd. Yn y pen dwyreiniol, ger Broginin, rhennir rhai o’r caeau gan waliau carreg sych. Tir pori wedi’i wella yw’r tir amaeth i gyd bron erbyn hyn. Ceir clystyrau bach o goed collddail, yn arbennig ar loriau’r dyffrynnoedd, a phlanhigfa fach o goed coniffer.

Pentref Penrhyn-coch, sy’n ymestyn yn wasgarog ar draws llawr y dyffryn, yw elfen amlycaf pen gorllewinol yr ardal hon. Mae dau graidd hyn i’r pentref. Mae’r naill wedi’i ganoli ar eglwys wedi’i hadeiladu o gerrig yn dyddio o’r 19eg ganrif ac mae’n cynnwys ‘filas’ wedi’u hadeiladu o frics yn dyddio o’r 19eg ganrif yn ogystal â thai gweithwyr nodweddiadol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae’r llall ar lefel uwch ac mae’n cynnwys terasau byr o fythynnod gweithwyr unllawr o gerrig wedi’u rendro a chanddynt gapel yn ganolbwynt iddynt. Mae datblygiadau tai ar raddfa fawr (ar gyfer ucheldir Ceredigion) yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif a dechrau’r 21eg ganrif, ysgol a gwasanaethau bellach yn cysylltu’r ddau graidd hyn hyn. Lleolir tai newydd ym Mhen-bont Rhydybeddau hefyd, ond yma mae’r craidd hanesyddol o dai gweithwyr pâr a thai gweithwyr ar wahân sydd wedi’u hadeiladu o gerrig moel yn arddull Sioraidd ranbarthol nodweddiadol diwedd y 19eg ganrif yn dal i fod yn gyfan i raddau helaeth. Mae nifer o’r adeiladau hyn yn rhestredig. Mae tai gweithwyr eraill yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal, ond amaethyddiaeth yw prif swyddogaeth yr adeiladau gwasgaredig. Mae’r ffermdai yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, maent yn gymharol fach, gyda dau lawr, ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan rai resi o adeiladau allan cerrig wedi’u gosod o amgylch iard, ond dim ond dwy neu dair rhes sydd gan y mwyafrif ohonynt. Nid yw rhai ffermydd yn gweithio bellach ac mae eu hadeiladau allan wedi’u haddasu i’w defnyddio at ddibenion eraill, megis diwydiant ysgafn. Mae gan ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol modern, a cheir rhesi helaeth iawn ar ffermydd mwy o faint.

Mae olion mwynglawdd plwm Bronfloyd, gan gynnwys adeiladau, lloriau prosesu a thomenni yn elfen bwysig yn y dirwedd hanesyddol.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn cynnwys adeiladau lleyg ac eglwysig ôl-Ganoloesol sydd wedi goroesi ac olion mwyngloddiau metel gan mwyaf. Fodd bynnag, mae celc o ddarnau arian Rhufeinig, crug grwn yn dyddio o’r Oes Efydd a thwmpath llosg neu aelwyd yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd.

I’r de ac i’r gogledd mae tir a arferai fod yn agored yn nodi ffiniau’r ardal dirwedd hon yn glir. Ni ddiffiniwyd yr ardal dirwedd i’r gorllewin eto, tra bod coetir a chaeau bach rhan uchaf dyffryn Afon Stewi i’r dwyrain yn nodweddu ardal gymeriad dra gwahanol.

PENRHYN-COCH

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221