Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

PEN-Y-GRAIG

PEN-Y-GRAIG

CYFEIRNOD GRID: SN 708679
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 39.4

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon. Rhoddwyd eglwys Ioan Fedyddiwr yn Ystrad Meurig i Farchogion yr Ysbyty ym 1158 (Ludlow 1998). Mae safle ysbyty posibl ym Mynachdy hefyd, sy’n awgrymu o bosibl fod tir wedi’i gynnwys yn y rhodd hefyd. Fodd bynnag, gall yr enw lle hwn gyfeirio at y ffaith y defnyddid y safle gan fynachod Abaty Ystrad Fflur – efallai bod y rhan hon o’r ardal wedi gorwedd o fewn maenor Mefenydd. Ni cheir unrhyw sôn am systemau deiliadol diweddarach a datblygiadau yn y dirwedd tan y 19eg ganrif. Dengys y map degwm (Map Degwm a Dyraniad Spytty Ystrad Meurig, 1843) fod y patrwm anheddu a’r system gaeau fodern wedi’u sefydlu erbyn 1843. Gwnaed rhywfaint o waith i isrannu caeau mwy o faint ers hynny, ond dim byd ar raddfa i newid y patrwm sefydledig.

PEN-Y-GRAIG

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal dirwedd fach hon yn gorwedd ar dir uwchben pentref Ystadmeurig ac i’r dwyrain ohono sy’n wynebu’r de-orllewin ac yn graddol ddisgyn. Mae’n amrywio o ran uchder o 190m yn y de i 230m yn y gogledd-ddwyrain. Er ei bod yn ardal fach mae’n wahanol i’r ardaloedd o’i hamgylch ac fe’i nodweddir gan gaeau bach a rennir gan waliau sych a mathau eraill o ffiniau. Ffurfir y mwyafrif o’r ffiniau gan waliau sych, sydd mewn cyflwr da fel arfer, ond yn rhan ogleddol yr ardal nid ydynt yn cael eu defnyddio ac mae eu cyflwr yn dirywio. Mae cloddiau ac arnynt wrychoedd a ffensys gwifrau yn fathau eraill o ffiniau. Tir pori wedi’i wella a geir gan mwyaf yn yr ardal hon.

Mae aneddiadau’r ardal yn cynnwys ychydig o ffermydd gwasgaredig. Mae’n debyg bod yr adeiladau hyn yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif, ac maent wedi’u hadeiladu o gerrig sydd fel arfer wedi’u rendro â sment neu wedi’u gadael yn foel ar dai ac wedi’u gadael yn foel ar adeiladau allan. Mae gan y tai ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd ranbarthol - sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Lleolir ty modern yma, ac mae un o’r ffermdai wedi’i foderneiddio gryn dipyn. Fel arfer mae adeiladau allan fferm yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn fach ac yn cynnwys un neu ddwy res. Mae gan ffermydd adeiladau amaethyddol dur a choncrid o faint bach i ganolig.

Mae i’r ardal hon ffin bendant i’r gogledd lle y mae’n ffinio â thir agored, uchel neu gaeau mawr. Ar ei hochr ddeheuol mae’n ymdoddi i’r ardal sy’n ffinio â hi – ardal o gaeau bach a rennir gan gloddiau a gwrychoedd.

MAP PEN-Y-GRAIG

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221