Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

PONTARFYNACH

PONTARFYNACH

CYFEIRNOD GRID: SN 739767
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 33.25

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal dirwedd fach ond cymhleth hon o fewn Maenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Ysbyty Ystrad Fflur. Roedd y faenor, erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol o leiaf, wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu. Lleolid fferm o’r fath - Rhos-tyddyn - yn yr ardal hon (Morgan 1991). Pan ddiddymwyd yr abaty mae’n debyg i’r fferm hon ynghyd â rhai eraill yn y faenor ddod i feddiant y teulu Herbert, ac yn y diwedd daeth yn rhan o ystad Thomas Johnes, sef yr Hafod. Er bod aneddiadau megis Fferm Rhos-tyddyn yn bodoli, mae’n debyg y byddai’r ardal hon wedi cynnwys tir ymylol ynghyd â choetir ar y llethrau mwy serth yn y Cyfnod Canoloesol, ac am ganrifoedd ar ôl hynny. Fodd bynnag, mae’n gorwedd ar lwybr pwysig o’r gogledd i’r de, ac yn cynnwys y man croesi dros Afon Mynach - sef Pontarfynach. Mae’n bosibl bod rhan gynharach y bont sydd wedi goroesi yn dyddio o’r Cyfnod Canoloesol. Pwysleisiwyd pwysigrwydd y llwybr ym 1770 pan ddaeth Pontarfynach yn gyffordd i ddwy ffordd dyrpeg. O’r gorllewin rhedai ffordd dyrpeg i fyny o Aberystwyth, drosodd i Gwmystwyth ac yn y pen draw i Lundain. O Bontarfynach rhedai ail ffordd dyrpeg tua’r gogledd i’r Amwythig (Lewis 1955, 41-45; Colyer, 1984, 176-182). Roedd ymweliad â rhaeadrau Afon Mynach yn rhan hanfodol o daith unrhyw ymwelydd ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif; sicrhaodd presenoldeb y ffyrdd tyrpeg fod yr atyniadau hyn yn anodd i’w colli. Adeiladodd Thomas Johnes dafarn i wasanaethu’r diwydiant ymwelwyr, ac ailadeiladwyd yr adeilad sydd i’w weld heddiw - sef Gwesty’r Hafod Arms - yn ddiweddarach yn arddull ‘Bwthyn Swistirol’ gan Ddug Newcastle (Walker 1998, 304), un o berchenogion diweddarach ystad yr Hafod. Cofnodir gardd yr Hafod Arms ar Gronfa Ddata Gerddi Hanesyddol Cymru. Mae’r nifer enfawr o baentiadau, lluniau ac engrafiadau, wedi’u cyhoeddi a heb eu cyhoeddi, yn tystio i boblogrwydd y rhaeadrau yn y cyfnod hwn. Datblygodd ychydig o dai a bythynnod gerllaw’r gwesty, rhai ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant cloddio plwm efallai, ond fel y tystia’r map degwm roedd yr anheddiad yn y 1840au yn dal i fod yn fach iawn. Adeiladwyd Rheilffordd Cwm Rheidol, a agorodd ym 1902, â’i therfynfa ddwyreiniol ym Mhontarfynach, i wasanaethu’r diwydiant cloddio plwm, ond datblygodd yn llwybr ymwelwyr yn gyflym. Bu’r rheilffordd a’r twf parhaus yn y diwydiant ymwelwyr yn fodd i Bontarfynach ddatblygu’n bentref bach yn cynnwys siopau, ysgol ac ystadau tai ar raddfa fach. Ar wahân i’r rheilffordd, cynhwysai diwydiannau yn yr ardal waith toddi plwm, a gaeodd ym 1834 (Bick 1983, 30), a chynllun hydrodrydanol bach yn dyddio o hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

PONTARFYNACH

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys teras llethrog ar uchder o 200m - 250m ar ochr ddeheuol Afon Rheidol a’r rhan honno o lethrau Afonydd Rheidol a Mynach sy’n cynnwys rhaeadrau Afon Mynach. Mae pentref Pontarfynach, a leolir ar y teras llethrog, yn anheddiad gwasgarog sydd wedi’i ganoli ar adeilad trawiadol rhestredig Gwesty’r Hafod Arms a phont restredig ‘Devil’s Bridge’ ei hun. Mae’r mwyafrif o’r tai hyn yn y pentref yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac maent wedi’u hadeiladu o garreg wedi’i rendro â sment neu wedi’i gadael yn foel. Mae gan y tai hyn ddau lawr ac maent yn arddull frodorol Sioraidd y rhanbarth– sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan rai ohonynt elfennau Sioraidd cryf yn hytrach na nodweddion brodorol. Mae adeiladau hyn eraill yn cynnwys capeli yn dyddio o’r 19eg ganrif, adeilad unllawr gorsaf rheilffordd Pontarfynach sydd wedi’i adeiladu o haearn rhychog a nifer o adeiladau ‘dros dro’ megis swyddfeydd tocynnau a chaffis a adeiladwyd i wasanaethu diwydiant ymwelwyr canol yr 20fed ganrif. Maent yn elfennau nodedig ac anarferol yn y dirwedd. Adeiladwyd tai a byngalos modern o fewn y pentref ac ar ei gyrion.

Adeiladwyd y pentref dros dir a arferai fod yn amgaeëdig, er ei fod o ansawdd gwael. Mae cloddiau ffin rhai o’r caeau hyn i’w gweld mewn ardaloedd nas datblygwyd. Mae rhai ffiniau min ffordd, yn arbennig gerllaw Gwesty’r Hafod Arms, yn cynnwys waliau wedi’u plastro â morter neu waliau sych. Islaw’r bont restredig ceir cyfres gymhleth o lwybrau a lonydd yn arwain at wahanol wylfannau ar gyfer y rhaeadrau. Er nad ydynt wedi’u harchwilio’n fanwl, mae’n bosibl bod rhai o’r llwybrau hyn yn dyddio o ddiwedd y 18fed neu ddechrau’r 19eg ganrif.

Ar wahân i’r bont enwog, y gall ei strwythur sy’n goroesi ddyddio o’r Cyfnod Canoloesol, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys adeiladau sy’n sefyll neu olion diwydiannol.

I’r de mae’r ardal hon yn cwrdd â thir agored ac i’r dwyrain anheddiad sgwatwyr Rhos-y-gell. I’r gogledd ac i’r dwyrain ceir llethrau coediog serth dyffrynnoedd Rheidol a Mynach.

MAP PONTARFYNACH

 

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221