Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

PONTERWYD

PONTERWYD

CYFEIRNOD GRID: SN 750810
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 360.4

Cefndir Hanesyddol

Roedd rhan orllewinol yr ardal hon yn rhan o Faenor Nantyrarian a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir. Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar y gweddill o’r ardal. Erbyn y 18fed ganrif, ac yn gynharach yn ôl pob tebyg, roedd ystadau Nanteos a Gogerddan yn meddu ar leiniau helaeth o dir ym Mhonterwyd ac o’i amgylch. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Cyf 45, 35; Cyf 37, 51, 53) fod yr ardal hon wedi newid gryn dipyn yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf. Ddwy ganrif yn ôl, cynhwysai Ponterwyd ei hun bont a dwy annedd, ag un neu ddau badog, o fewn llain fawr o dir agored. Ceid patrwm anheddu tebyg i’r dwyrain o Bonterwyd - dim ond ychydig o anheddau, aneddiadau sgwatwyr o bosibl, a ddangosir ar y mapiau. Fodd bynnag mae’n bosibl bod Bryn Bras a Throed-yr-Henriw yn aneddiadau hirsefydlog, am y dangosir ac yr enwir y ddwy fferm hyn ar y mapiau ystad, pob un â chaeau bach gerllaw’r anheddau a chaeau mwy o faint ymhellach allan. I’r gogledd o’r pentref ac i’r de o Gronfa Ddwr bresennol Dinas gorweddai system gaeau o gaeau bach ar draws llawr dyffryn Afon Rheidol. Er bod yr ardal wedi’i lleoli wrth gyffordd coridor llwybr hynafol yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin a choridor llwybr yn rhedeg o’r gogledd i’r de ac er mai lleoliad ffair ydoedd (Lewis 1955, 45-47), adeiladu ffordd dyrpeg trwy Bonterwyd ym 1812 (Colyer 1984, 176-82) a symbylodd ddatblygiad pentref Ponterwyd. Sefydlwyd gwesty - a elwir yn westy’r George Borrow bellach – ac adeiladwyd capel a thai. Datblygodd gweithgarwch cloddio am blwm yn yr ardal. Roedd gweithfeydd wedi’u sefydlu yn Llywernog erbyn 1756 (Bick 1983, 12-18), ond yn y 19eg ganrif y datblygodd y diwydiant yn llawn, gyda mwyngloddiau Ponterwyd, Clara a Llywernog i gyd yn gweithio. Cyfunwyd y mwyngloddiau i ffurfio Cwmni Cloddio Arian-Plwm Unedig Llywernog ym 1858, ond nid ymddengys fod cynhyrchiant erioed wedi bod yn fawr, a rhoddwyd y gorau i weithio’r mwyngloddiau yn y diwedd ym 1907. Erbyn hyn mae Llywernog yn amgueddfa fwyngloddio. Hyrwyddodd adeiladu’r ffordd dyrpeg a datblygiad y diwydiant cloddio dwf Ponterwyd a’r ardal o’i amgylch. Mae bythynnod, rhai y mae pobl yn dal i fyw ynddynt a rhai sy’n anghyfannedd, yn tystio i’r twf a fu yn y boblogaeth yn y 19eg ganrif. Ynghyd â hynny bu cynnydd yn arwynebedd y tir amaeth, ac amgaewyd llawer o rostir, ac isrannwyd caeau mawr yn unedau llai o faint. Yn y 1950au ac ar ddechrau’r 1960au o ganlyniad i ddatblygu cynllun hydrodrydanol Rheidol, bu twf dramatig yn y boblogaeth, a arweiniodd at lawer o dai newydd ym Mhonterwyd ac o’i amgylch.

PONTERWYD

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal gymhleth hon wedi’i chanoli ar bentref Ponterwyd yng Nghwm Rheidol. Mae’r afon yma yn llifo mewn dyffryn cul ar ryw 200m o uchder, gyda’r pentref ac aneddiadau eraill wedi’u lleoli ar deras ar uchder o 230m. Ar lethrau i fyny at 310m o uchder lleolir ffermydd a bythynnod uwch. Wedi’u gwasgaru o amgylch y pentref cnewyllol llac ceir ffermydd a bythynnod wedi’u gosod mewn system gaeau o gaeau o faint canolig. Rhennir y caeau hyn gan gloddiau, ac mewn rhai achosion, waliau sych sydd wedi dymchwel. Mae’r ychydig o wrychoedd sydd i’w gweld wedi tyfu’n wyllt, ac maent bron mor fawr â choed. Ar wahân i’r gwrychoedd hyn a phlanhigfeydd bach o goed conifer yn dyddio o’r 20fed ganrif, tirwedd ddi-goed ydyw ar y cyfan. Nid oes gan y mwyafrif o gloddiau wrychoedd, ac mae ffensys gwifren yn darparu ffiniau cadw stoc. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf yn yr ardal, ond ceir cyfran fawr o dir pori garw, tir brwynog a phantiau mawnaidd.

Saif capel Sioraidd hwyr a’r Hen Bont, sy’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (y mae’r ddau’n rhestredig) ynghanol pentref Ponterwyd. Mae tai hyn yn y pentref yn cynnwys strwythurau ar wahân, strwythurau pâr a therasau o strwythurau yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae’r mwyafrif o’r tai yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac maent wedi’u hadeiladau o garreg sydd fel arfer wedi’i rendro â sment neu wedi’i phaentio ar dai, ac wedi’i gadael yn foel ar adeiladau eraill. Llechi yw’r deunydd toi cyffredinol, er y dengys ffotograff cynnar o fwthyn anhysbys (Smith 1986, 286) ger Ponterwyd fod gwellt yn cael ei ddefnyddio fel deunydd toi hyd at ddiwedd y 19eg ganrif. Mae gan dai ddau lawr ac maent yn arddull frodorol Sioraidd y rhanbarth – sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Ceir dau neu dri thy a adeiladwyd yn gynharach yn ystod y 19eg ganrif ac mae ganddynt nodweddion brodorol cryf megis bondo isel, cynllun llawr anghymesur, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall. Mae’n debyg i dai ar wahân mwy o faint, diweddarach, sy’n dyddio yn ôl pob tebyg o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, gael eu hadeiladu ar gyfer goruchwylwyr neu reolwyr mwyngloddiau. Ceir dyrnaid o dai ac adeiladau eraill yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif ym Mhonterwyd, yn ogystal ag ystad fach o dai yn dyddio o’r 20fed ganrif.

Mae adeiladau gwledig yn cynnwys ffermydd gwasgaredig, a chanddynt ffermdai yn arddull Sioraidd nodweddiadol y rhanbarth yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Mae gan y mwyafrif o ffermydd ddwy neu dair rhes o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig; ac mae gan ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol modern o faint bach i ganolig. Mae adeiladau gwledig gwasgaredig eraill yn cynnwys Gwesty’r George Borrow sydd yn yr arddull Sioraidd, tai gweithwyr yn dyddio o’r 19eg ganrif a chapel bach. Mae llawer o fythynnod a ffermydd anghyfannedd wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd.

Mae olion y diwydiant cloddio plwm yn elfennau amlwg a phwysig yn y dirwedd hanesyddol. Mae tomenni ysbwriel, cronfeydd dwr, ffrydiau a chasgliad o adeiladau a adferwyd ac a ailadeiladwyd yn amgueddfa fwyngloddio Llywernog ymhlith rhai o’r olion pwysicaf. Mae rhai o’r adeiladau hyn – stordy powdwr gwn, swyddfeydd, sied trin mwyn a pheiriant mathru cerrig – yn rhestredig.

Olion y diwydiant cloddio metel ac adeiladau sydd wedi goroesi megis capeli, ysgol ac anheddau yw elfennau amlycaf yr archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon. Darganfyddiadau yn dyddio o’r Oes Efydd a thwmpath llosg posibl yn dyddio o’r un cyfnod sy’n darparu’r unig ddyfnder amser i’r dirwedd.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant a cheir rhostir uchel yn ffinio â hi ar bob ochr bron, ac i’r gogledd cronfeydd dwr a ffermydd gwasgaredig rhan uchaf Cwm Rheidol. Dim ond i’r de y mae ansicrwydd ynghylch lle y dylid tynnu’r ffin.

 MAP PONTERWYD

 

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]