Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

PONTRHYDFENDIGAID

PONTRHYDFENDIGAID

CYFEIRNOD GRID: SN 730665
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 13.5

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes y pentref hwn. Yn y Cyfnod Canoloesol, gorweddai Pontrhydfendigaid o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Mae Williams (1990, 57) yn cofnodi melin ddwr a melin bannu.. Mae’n bosibl bod y diwydiannau hyn yn ganolbwynt i anheddiad bach. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd y faenor i Iarll Essex, ac ym 1630 fe’i prynwyd gan y teulu Vaughan o Drawscoed. Mae’r map ar raddfa fawr cynharaf o’r ardal yn dod o gasgliad Trawscoed dyddiedig 1781 (LlGC Trawscoed Cyf 2, 1), ac yn dangos datblygiad llinellol ar y ddwy ochr i ffordd, a rhai adeiladau sydd wedi’u hychwanegu gan law ddiweddarach. Yr argraff a geir o’r map yw un o anheddiad sy’n datblygu, argraff a ategir gan ffynonellau dogfennol cyfyngedig - adeiladwyd capel ym 1794 (Percival 1998, 523). Yn y 19eg ganrif darparai’r pentref dai ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant cloddio plwm lleol, ac ar gyfer y rhai a oedd wrthi’n gwneud crefftau lleol: casglu, sychu a pharatoi gwlân, gwneud hetiau, gwneud basgedi a gweithgynhyrchu canhwyllau (Jones 1974, 72-80). Mae datblygiadau yn ystod yr ugeinfed ganrif wedi cynnwys cyfleusterau arddangos a chwaraeon, a thai newydd.

PONTRHYDFENDIGAID

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae pentref Pontrhydfendigaid yn cynnwys datblygiadau llinellol yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif ar hyd y naill ochr a’r llall i’r B4343 ac am ychydig o bellter ar gilffyrdd. Mae’r bont ei hun yn dyddio o’r 18fed ganrif ac mae’n rhestredig. Mae enghraifft dda o gapel yn yr arddull Sioraidd hefyd yn rhestredig. Mae’r mwyafrif o’r tai hyn yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Maent wedi’u hadeiladu o garreg – wedi’i rendro â sment neu wedi’i gadael yn foel – a chanddynt doeau llechi. Ceir o leiaf un bwthyn brodorol deulawr yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif, ond mae’r mwyafrif o’r tai yn ddiweddarach ac mae’n debyg iddynt gael eu hadeiladu ar gyfer gwahanol ddosbarthiadau o weithwyr yn y diwydiant cloddio plwm. Ceir amrywiaeth o dai, gan gynnwys terasau o fythynnod deulawr yn y traddodiad brodorol, tai gweithwyr yn y traddodiad Sioraidd yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, tai teras mwy o faint yn yr arddull Sioraidd (rhai â manylion pensaernïol megis porticos a fframiau drysau), a filas yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae’n debyg i ddwy fila yn y traddodiad Sioraidd yn dyddio o ganol y 19eg ganrif a oedd ar wahân i’r pentref (ond sydd bellach wedi’u cysylltu ag ef gan ddatblygiadau llinellol modern) ar y ffordd i Ystrad Fflur gael eu hadeiladu ar gyfer rheolwyr mwyngloddiau. Lleolir tai modern mewn ystadau bach a thai neu fyngalos unigol o fewn y pentref neu ar ei gyrion. Adeiladwyd cyfleusterau chwaraeon, adeiladau amaethyddol â fframiau dur a neuaddau arddangos ar gyrion gogleddol y pentref.

Ar wahân i arteffactau yn dyddio o’r cyfnod cynhanes, mae’r holl archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys adeiladau, safleoedd crefftau gwledig a safleoedd diwydiannol bach yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant am y ceir tir amaethyddol, amgaeëdig o bob tu iddi.

MAP PONTRHYDFENDIGAID

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221