Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

RHOS BRYNBERLLAN

RHOS BRYNBERLLAN

CYFEIRNOD GRID: SN 745668
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 75.9

Cefndir Hanesyddol

Mae’n debyg bod yr ardal hon yn rhan o ddemên Abaty Ystrad Fflur. Daeth i feddiant John Stedman ym 1567, ac arhosodd yn y teulu Stedman tan 1746, pan fu farw Richard Stedman heb wneud ewyllys. Trosglwyddwyd yr ystad wedyn i’r teulu Powell o Nanteos. Mae’n debyg bod yr ardal hon yn ffridd agored drwy gydol y Cyfnod Canoloesol drwodd i’r cyfnod modern. Dengys y mapiau ar raddfa fawr cynharaf o’r ardal, sef map ystad dyddiedig 1819 a’r map degwm (LlGC Cyf 45, 73; Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847), yr ardal fel ffridd a dangosir coetir yn ffinio â’i llethrau deheuol a de-orllewinol (yn cwmpasu’r un ardal fwy neu lai â’r coetir presennol). Dim ond yn ddiweddar yr ymddengys fod tir wedi’i isrannu.

RHOS BRYNBERLLAN

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys bryn llethrog a chreigiog i’r dwyrain o Bontrhydfendigaid yn amrywio o ran uchder o 250m i 350m. Ceir rhai cloddiau isel ar y llethrau is, er nad ydynt yn gweithredu fel ffiniau cadw stoc bellach, ac eithrio lle y maent wedi’u hatgyfnerthu â ffensys gwifren. Ceir ffensys gwifren ar dir uwch hefyd; mae’r rhain yn isrannu’r ardal yn gyfres o gaeau mawr. Fodd bynnag, nid yw’r un o’r ffiniau hyn yn amharu ar olwg agored yr ardal hon. Tir pori wedi’i wella yw’r prif ddefnydd a wneir o’r tir a cheir tir mwy garw ar lethrau mwy serth. Mae llethrau deheuol y bryn wedi’u gorchuddio â choetiroedd llydanddail hynafol.

Yn ogystal â nifer o gloddweithiau y mae eu hoedran a’u cymeriad yn ansicr, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys bryngaer bwysig Pen y Bannau sy’n dyddio o’r Oes Haearn.

Nodir ffiniau’r ardal hon yn glir gan systemau o gaeau bach i’r de, i’r gorllewin ac i’r gogledd. I’r dwyrain mae’r ffin rhwng yr ardal hon a’r llain o gaeau mawr sy’n ffurfio ardal 35, yn llai pendant.

MAP RHOS BRYNBERLLAN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221