Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

RHOSGOCH

RHOSGOCH

CYFEIRNOD GRID: SN 654824
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 233.8

Cefndir Hanesyddol

Lleolir yr ardal dirwedd hanesyddol hon ar gyrion yr ardal astudiaeth bresennol ac nis diffiniwyd yn llawn. Ni wnaed unrhyw ymchwil i’w hanes. Mae’r unig fap ystad o’r ardal (LlGC Scott Archer 20) yn dyddio o 1788, a dengys dirwedd o ffermydd gwasgaredig a system gaeau o gaeau bach afreolaidd eu siâp. Nid oedd y patrwm hwn wedi newid erbyn yr arolwg degwm. Yn wir, dim ond yn ystod y degawdau diwethaf y cafwyd newidiadau mawr yn y dirwedd, a chafwyd datblygiad llinellol modern gerllaw Cefn Llwyd. Er nad oes unrhyw dystiolaeth i ategu’r awgrym, mae’n bosibl bod y patrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig, a’r system gaeau o gaeau bach afreolaidd eu siâp yn dyddio o ddiwedd y Cyfnod Canoloesol o leiaf.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys rhan uchaf dyffryn Afon Peithyll; nant sy’n llifo o’r dwyrain i’r gorllewin. Mae llawr y dyffryn tua 90m o uchder; mae llethrau’r dyffryn crwn yn codi i dros 200m. Mae clystyrau o goetir collddail, yn arbennig ar lethrau is a llawr y dyffryn, ynghyd ag ambell goeden wrych nodedig, yn rhoi golwg goediog i’r dirwedd. Mae’r ardal yn cynnwys tir pori wedi’i wella gan mwyaf ac nid oes fawr ddim tir garw. Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau bach afreolaidd eu siâp a rennir gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr gweddol dda ar lefelau is, mewn cyflwr gwaeth ar y llethrau uwch lle y mae rhai yn dechrau cael eu hesgeuluso, ac mae ffensys gwifren wedi’u hychwanegu at bob gwrych.

Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig. Carreg a llechi ar gyfer y toeau yw’r deunyddiau adeiladu traddodiadol. Mae’r garreg wedi’i gadael yn foel neu wedi’i rendro â sment ar dai ac wedi’i gadael yn foel ar adeiladau allan traddodiadol. Mae’r ffermdai yn fach ac yn y traddodiad brodorol rhanbarthol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif - sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae o leiaf un tþ wedi’i foderneiddio’n sylweddol. Mae adeiladau allan wedi’u hadeiladu o garreg wedi’u cyfyngu i ddwy neu dair rhes o faint bach i ganolig. Ceir o leiaf un adeilad allan o frics melyn. Mae gan ffermydd gweithredol resi sylweddol o adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern. Lleolir capel a thy capel yn dyddio o’r 19eg ganrif yn yr ardal hon. Mae datblygiadau llinellol modern yn cynnwys anheddau wedi’u hadeiladu o goncrid a brics wrthi’n cael eu hadeiladu gerllaw Cefn Llwyd.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys safleoedd ôl-Ganoloesol yn bennaf. Mae’r rhain yn cynnwys tair melin, neu safleoedd tair melin, bythynnod a ffermdai sydd wedi goroesi a mwyngloddiau metel. Mwnt Canoloesol bach - sef Ystrad Peithyll - sy’n darparu’r unig ddyfnder amser i’w dirwedd. Dinistriwyd y castell Seisnig bach hwn ym 1113.

Ceir ffin bendant rhwng yr ardal hon a’r ardaloedd sy’n ffinio â hi i’r gogledd, i’r dwyrain ac i’r de, lle y ceir cefnau caeau yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a rhai aneddiadau. Ni ddiffiniwyd ardaloedd tirwedd hanesyddol i’r gorllewin eto.

RHOSGOCH MAP

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221