Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

RHOS RHYDD

RHOS RHYDD

CYFEIRNOD GRID: SN 697753
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 281.3

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar y llain fach hon o dir pori uchel, ond erbyn y 18fed ganrif roedd wedi’i rhannu rhwng ystadau Trawscoed a Nanteos. Dengys mapiau ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Gweithredoedd Trawscoed Rhif 5, Cyfres IV, Cyf 1, 16; LlGC Cyf 45, 41 a 42; LlGC Nanteos 348 a 349) yr ardal fel ffridd agored a chanddi gaeau bach ar wahân ar ei chyrion. Erbyn arolwg degwm 1847 (plwyf Llanfihangel-y-Creuddyn) roedd yr ardal wedi’i hisrannu’n nifer fach o gaeau mawr iawn, ond mae ffotograffau a dynnwyd o’r awyr yn y 1940au yn cofnodi ei bod wedi troi’n ffridd agored unwaith eto.

RHOS RHYDD

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Lleolir yr ardal dirwedd hon ym mhen gorllewinol esgair gron sy’n codi i 310m lle y mae ar ei huchaf. I’r gorllewin, i’r gogledd ac i’r de mae’r tir yn disgyn yn serth i ryw 100m, i mewn i ddyffrynnoedd Afonydd Newidion a Magwr. Wedi’u cynnwys yn yr ardal hon mae copa a llethrau’r esgair. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd. Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r tir yn dir pori wedi’i wella, er y ceir pocedi o dir pori garw a lleiniau o redyn ar lethrau serth. Ffensys gwifren sy’n rhannu’r ardal erbyn hyn. Mae rhai o’r ffensys hyn yn dilyn llinellau hen gloddiau isel – gellir cymharu’r rhain â’r rhai a gofnodir ar y map degwm – er bod ffensys eraill ar linellau newydd. Sefydlwyd planhigfeydd canolig eu maint o goed coniffer ar lethrau serth sy’n wynebu’r de, ac yn gymysg â’r planhigfeydd hyn ceir clystyrau o hen goed caled sefydledig.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys safle pwysig bryngair Castell Garreg-wen yn dyddio o’r Oes Haearn, a chlostir bach o gloddwaith nad yw ei ddyddiad yn hysbys. Mae safleoedd eraill yn ddinod: corlan a chefnau amaethu; mae’r olaf yn arwydd o ffermio tir âr ar draws yr ardal hon yn y cyfnod Canoloesol neu’r cyfnod ôl-Ganoloesol.

I’r gogledd, i’r gorllewin ac i’r de nodir ffiniau’r ardal hon yn glir gan dir amgaeëdig a chyfannedd. I’r dwyrain mae’r ffin yn llai clir, ac mae’r ardal hon yn tueddu i ymdoddi i’r un sy’n ffinio â hi.

MAP RHOS RHYDD

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221