Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

TAI-UNNOS

TAI-UNNOS

CYFEIRNOD GRID: SN 735634
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 36.1

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon yn Fferm Pennardd Abaty Ystrad Fflur. Fel gyda ffermydd eraill yr abaty, mae’n debygol i Bennardd gael ei rhannu’n ffermydd a oedd yn cael eu prydlesu’n fasnachol erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol os nad cynt. Ar adeg diddymu’r abaty, rhoddwyd ei diroedd i Iarll Essex, a’u gwerthodd wedyn i ystad Trawsgoed yn 1630. Fodd bynnag, mae’n debyg nad oedd yr ardal hon wedi’i hamgáu ac felly fe’i hawliwyd gan y Goron. Ymddengys mai tai-unnos ar dir comin Rhos Gellig-gron oedd yr aneddiadau cyntaf, wedi’u codi o bosibl yn niwedd y 18fed ganrif. Nid oes unrhyw ddogfennaeth am hyn, er bod map degwm 1845 (plwyf Caron) yn dangos anheddiad datblygedig o fythynnod wedi’u lleoli mewn system o gaeau bach o siâp afreolaidd. Adeiladwyd ysgol Sul/capel yn 1886 i wasanaethu’r gymuned, ac un arall yn 1906 (Percival 1998, 520). Noda tystiolaeth lafar i’r trigolion weithio yn y mwyngloddiau i’r gogledd o Ystrad Fflur. Pan grebachodd y diwydiant cloddio crebachodd yr anheddiad hwn hefyd. O flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif ymlaen parhaodd y boblogaeth i leihau’n raddol, er mai dim ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd y gadawodd deiliaid yr annedd olaf.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r dirwedd hon o aneddiadau adfeiliedig o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif ar ymyl tir comin Rhos Gelli-gron ar uchder o rhwng 250m a 320m. Yma a thraw yn y dirwedd mae bythynnod a thai wedi’u gadael. Mae’r rhain yn amrywio o anheddau bach mewn cyflwr adfeiliedig i anheddau a adawyd yn fwy diweddar a thai cerrig sylweddol mewn cyflwr gwell. Mae yna gapel segur a chapel wedi’i ddymchwel. O ran patrwm y caeau mae caeau a choetgaeau bach afreolaidd eu siâp, wedi’u rhannu gan wrthgloddiau a gwrychoedd yn tyfu arnynt yn wreiddiol. Fodd bynnag, nid yw’r gwrychoedd yn tyfu mwyach neu maent mewn cyflwr gwael ac, yn y bôn, uned fawr o dir pori garw wedi’i wahanu oddi wrth y tir cyfagos â ffensys yw’r dirwedd hon.

Mae’r archeoleg gofnodedig yn cynnwys aneddiadau gwag fel y disgrifir uchod yn unig.

Mae hon yn ardal benodol ac iddi ffiniau pendant. I’r de ac i’r gorllewin mae rhostir agored. I’r dwyrain mae coedwigaeth ac i’r gogledd mae tir cyfannedd wedi’i amgáu.

MAP TAI-UNNOS

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]