Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

TAL Y FAN

TAL Y FAN

CYFEIRNOD GRID: SN 689735
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 212.1

Cefndir Hanesyddol

Er bod yr ardal hon yn rhan o ystad Trawsgoed ers canol y 18fed ganrif o leiaf, mae’n debyg iddi gael ei hawlio gan y Goron cyn hynny am nad yw wedi’i hamgáu. Dengys y map cynharaf o’r ardal (LlGC Map 7188), dyddiedig 1756 fod o leiaf ran o’r ardal yn eiddo i ddemên Trawsgoed. Mae map degwm Llanafon o 1845 yn dangos bod coetir ar lethrau serth yr ardal hon yn wynebu tua’r gorllewin a’r de, er nad oedd y tir ar y copa gwastad wedi’i amgáu. Nid oedd dim byd ar ôl o’r coetir erbyn 1906. Mae’r ardal bellach wedi’i rhannu’n gaeau mawr gan ffensys gwifren. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd yn yr ardal.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Dyma ben gorllewinol cefnen grwn sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin. Mae pen y gefnen bron 300m o uchder. Mae’r ochrau gogleddol, deheuol a gorllewinol yn disgyn yn serth hyd at tua 100m. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd yn yr ardal.

Mae’r archeoleg gofnodedig yn yr ardal hon ond yn cynnwys dau safle, ond mae’r rhain yn henebion pwysig ac amlwg, sef bryngaerau Cnwc-y-bugail a Chastell Disgwylfa o’r Oes Haearn.

I’r de, i’r gorllewin ac i’r gogledd mae tir amgaeëdig a chyfannedd is yn ffin bendant i’r ardal hon. Dim ond i’r dwyrain mae’r ffin rhwng yr ardal hon a’r ardal gyfagos yn annelwig.

 

MAP TAL Y FAN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221