Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

TANYGRAIG

TANYGRAIG

CYFEIRNOD GRID: SN 699684
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 20.0

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd ei faenorau i Iarll Essex a’u gwerthodd ar ôl hynny i ystad Trawscoed ym 1630. Ymddengys fod y rhan fwyaf o’r tir yn yr ardal hon wedi aros o fewn ystad Trawscoed i mewn i’r 20fed ganrif. Fel maenorau abatai eraill, mae’n debyg erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt, fod Mefenydd wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn fasnachol. Prin yw’r ffynonellau yr ymchwiliwyd iddynt i ymchwilio i ddatblygiad yr ardal hon. Prin yw’r ffynonellau cartograffaidd, a dengys yr unig fap ar raddfa fawr, sef map degwm 1843 (Map Degwm a Dyraniad Spytty Ystrad Meurig, 1843) fod y patrwm anheddu a’r system gaeau bresennol wedi’u sefydlu eisoes.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Lleolir yr ardal fach ond cymharol ar wahân hon mewn cyfrwy o dir, y gwahaniad dyfroedd rhwng Afon Teifi sy’n llifo i’r de ac Afon Ystwyth sy’n llifo i’r gorllewin. Mae tua 220m o uchder. Mae ffiniau wedi’u ffurfio gan waliau sych yn elfen bwysig yn yr ardal hon. Mae’r waliau hyn mewn cyflwr gweddol i dda, mae’r mwyafrif ohonynt yn cadw stoc, ac maent yn rhannu’r tir yn system o gaeau bach, afreolaidd eu siâp. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf yn yr ardal ac nid oes fawr ddim tir garw. Ychydig o goed sydd yno. Lleolir yr ardal o fewn coridor llwybr naturiol, sy’n darparu’r ffordd hawsaf o ran uchaf Ddyffryn Teifi i’r gogledd-orllewin a dyffryn afon Ystwyth. Ar hyn o bryd, mae ffordd y B4340 yn croesi’r ardal, gan gysylltu Pontrhydfendigiad a Thregaron ag Aberystwyth. Mae hen reilffordd yn dilyn llwybr y B4340 fwy neu lai.

Nodweddir y patrwm anheddu gan ychydig o ffermydd gwasgaredig. Mae’r ffermydd hyn wedi’u hadeiladu o gerrig a chanddynt doeau llechi ac maent yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr, ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol, sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Lleolir cwpl o fythynnod gweithwyr unllawr yn dyddio o ddiwedd y 19eg gerllaw un fferm. Mae adeiladau allan y ffermydd yn fach; mae’r rhai hyn wedi’u hadeiladu o gerrig ac mae’r rhai mwy diweddar wedi’u hadeiladu o ddur a choncrid.

Mae terfynau’r ardal dirwedd hon yn eithaf pendant. I’r dwyrain ceir tir creigiog agored Craig Ystradmeurig. Ceir tir amgaeëdig is i’r gogledd ac i’r de, a thir amgaeëdig gwlypach i’r gorllewin.

MAP TANYGRAIG

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221