Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

THE HILL

THE HILL

CYFEIRNOD GRID: SN 642831
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 99.5

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal fach hon, ond erbyn y 18fed ganrif roedd y rhan fwyaf ohoni dan reolaeth ystad Gogerddan. Ymddengys i’r patrwm amgáu rheolaidd a welir heddiw ddatblygu mewn sawl ffordd wahanol. Dengys map o’r ystad dyddiedig 1788 (LlGC Scott Archer 20) fod rhan o’r ardal i’r de o Ben-y-berth yn cynnwys caeau rheolaidd eu siâp, yn debyg iawn i heddiw, ond mae tir i’r gogledd o Gellinebwen yn cynnwys cymysgedd o gaeau ar ffurf lleiniau; mae’r olaf yn awgrymu bod system o gaeau isranedig wedi’i hamgáu yn ddiweddar. Dengys map arall o’r ystad dyddiedig 1788 (LlGC R.M. 108) yr ardal i’r de o Gwm-bwa fel tir agored ond ei fod wedi’i amlinellu at ddibenion ei rannu’n gaeau mwy o faint. Dengys map arall, cynharach, dyddiedig 1787 (LlGC R.M. C22), fod rhan o’r bryn i’r de o Benrhyn-coch wedi’i rhannu’n gaeau rheolaidd eu siâp. Dangosir lefelydd mwyngloddiau ar rai o’r mapiau uchod. Erbyn y 1840au edrychai’r ardal gyfan yn union fel y mae’n edrych heddiw, ar wahân i anheddiad llinellol bach yng Nghefn Llwyd, a ddatblygodd yn ystod y 19eg ganrif.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal yn cynnwys pen gorllewinol esgair gron, yn ymestyn o’r dwyrain i’r gorllewin, sy’n amrywio o ran uchder o 100m ar ei llethrau i 180m yn ei phen dwyreiniol. Mae’r esgair yn parhau i godi i’r dwyrain. Gorchuddir yr ardal gyfan â thir pori wedi’i wella, ac mae’n cynnwys system gaeau reolaidd o gaeau o faint bach i ganolig. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae’r gwrychoedd wrth ymyl ffyrdd mewn cyflwr da ac maent yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, mewn mannau eraill maent mewn cyflwr gweddol dda, ond maent yn dechrau tyfu’n wyllt.

Nodweddir y patrwm anheddu gan ddatblygiad llinellol yng Nghefn Llwyd. Mae’r tai hyn yma wedi’u gwasgaru ar hyd un ochr i lôn ac maent yn cynnwys bythynnod bach, wedi’u hadeiladu o gerrig (sydd wedi’u rendro â sment yn bennaf), ac iddynt un llawr ac un llawr a hanner, sy’n dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae gan y mwyafrif nodweddion brodorol cryf, er bod nifer wedi’u moderneiddio ac wedi’u hymestyn. Fel arfer nid oes ganddynt adeiladau allan, sy’n awgrymu iddynt gael eu hadeiladu at ddibenion anamaethyddol. Mae’n bosibl mai aneddiadau sgwatwyr ydynt. Mae tai a byngalos yn dyddio o ddiwedd yr 20fed a dechrau’r 21ain wedi llenwi unrhyw fylchau rhwng tai hyn.

Mae’r unig archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn cynnwys mwynglawdd metel a ffrwd sy’n gysylltiedig ag ef.

Nid oes gan yr ardal hon ffiniau arbennig o bendant. I’r dwyrain mae tir uwch a arferai fod yn agored yn ymdoddi i’r ardal hon. I’r de ac i’r gogledd ceir tir isel sy’n debygol o fod yn dir amgaeëdig hyn nad yw’n ffurfio unrhyw ffin bendant â’r ardal hon.

THE HILL MAP

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221