Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

TREGARON

TREGARON

CYFEIRNOD GRID: SN 679597
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 37.1

Cefndir Hanesyddol

Dengys y ffaith bod yr eglwys wedi’i chysegru i Garon, a bod yno dair heneb Gristnogol gynnar a mynwent gron, i Eglwys Tregaron gael ei sefydlu’n gynnar (Ludlow 1998). Efallai i’r eglwys hyrwyddo datblygu anheddiad bach yn y cyfnod cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd. Ym 1290, rhoddodd Edward I i Geoffrey Clement y breintiau o gynnal marchnad wythnosol a dwy ffair flynyddol yn Nhregaron (Soulsby, 1983, 255). Datblygodd y dref o hynny. Rhoddwyd cryn hwb i’r dref gan fasnach y porthmyn; mae Soulsby (1983, 256) yn cofnodi bod y cyfnod 1820-40 yn un o gryn dwf. Hyrwyddwyd twf pellach trwy agor Rheilffordd Milford a Manceinion ym 1866. Ni ddatblygodd y dref ryw lawer y tu allan i’r craidd hanesyddol tan ddiwedd yr 20fed ganrif pan godwyd tai newydd ac adeiladau diwydiannol/masnachol ysgafn ar gwr y dref.

TREGARON

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Tref fach Tregaron yw’r unig anheddiad sylweddol o fewn tirwedd ucheldirol Ceredigion. Mae’r craidd hanesyddol wedi’i ganoli ar sgwâr farchnad ac Eglwys Sant Caron sy’n dyddio o’r Cyfnod Canoloesol, a cheir datblygiadau eilaidd ar lan orllewinol Afon Brennig tua’r hen orsaf reilffordd. Nid yw’n anheddiad cynlluniedig, ac mae ffryntiad y mwyafrif o’r adeiladau yn cyffinio â strydoedd cul, troellog.

Carreg yw’r prif ddeunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau. Mae amrywiaeth o driniaethau wal wedi’u defnyddio gan gynnwys stwco, carreg wedi’i phaentio a charreg foel. Ar wahân i eglwys y plwyf a dau fwthyn bach (un rhestredig), mae bron pob un o’r adeiladau hþn yn Nhregaron yn dyddio o’r 19eg ganrif. Lleolir adeilad Sioraidd Gwesty’r Talbot ac adeiladau masnachol, llai o faint eraill ar sgwâr y farchnad. Fodd bynnag, mae pob un o’r rhain yn gymharol fach ac yn debyg i’r tai anaml y maent yn codi’n uwch na dau lawr. Mae gan derasau a adeiladwyd yr un pryd a bythynnod cynharach nodweddion brodorol cryf, ond mae gan dai mwy o faint a diweddarach elfennau mwy Sioraidd. Fodd bynnag, prin yw’r rhai sydd ag unrhyw addurniadau pensaernïol ar wahân i nifer fach o filas ar wahân yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae rhai adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig yn dyddio o’r 19eg ganrif yn rhoi naws amaethyddol i ganol y dref. Mae’r defnydd a wnaed o ddeunyddiau eraill ar wahân i garreg megis brics coch a melyn ar gyfer mân addurniadau a brics glas (mewn teras o dai) i’w weld ar rai tai yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Lleolir ysbyty ac ysgol uwchradd yn dyddio o’r 20fed ganrif ar gyrion y dref ynghyd ag ychydig o dai yn dyddio o’r cyfnod rhwng dechrau a chanol yr 20fed ganrif, a llawer o dai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif.

Ar wahân i adeiladau a henebion yr unig archeoleg arall a gofnodwyd yn yr ardal hon yw canfyddiadau yn dyddio o’r Oes Efydd.

Mae i ddatblygiad trefol Tregaron ffiniau pendant iawn – ni cheir fawr ddim gorlifo i’r ardaloedd tirwedd hanesyddol amaethyddol oddi amgylch.


MAP TREGARON

 

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221