Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

TYNGRAIG

TYNGRAIG

CYFEIRNOD GRID: SN 697697
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 257.5

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd ei faenorau i Iarll Essex gan eu gwerthu ar ôl hynny i ystad Trawscoed ym 1630. Ymddengys i’r rhan fwyaf o’r tir yn yr ardal hon aros o fewn ystad Trawscoed drwodd i’r 20fed ganrif. Yn debyg i faenorau eraill, mae’n debyg erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt, fod Mefenydd wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn fasnachol. Mae enwau lleoedd yn cynnwys yr elfen hafod - Hafod-y-gofaint - yn awgrymu y gall y ffermydd hyn fod wedi deillio o system drawstrefa. Erbyn canol y 19eg ganrif, adeg yr arolwg degwm (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847) roedd golwg y dirwedd yn debyg iawn i’w golwg heddiw; roedd y system gaeau wedi’i gosod a’r patrwm anheddu wedi’i sefydlu. Dengys mapiau cynharach yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Trawscoed Cyf 1, 55, 58) dirwedd sydd wrthi’n datblygu a dangosir ffermydd Nant-byr isaf a Nant-byr uchaf yn tresmasu ar dir agored i’r gogledd. Mae’n bosibl mai aneddiadau sgwatwyr oedd y ddwy fferm hyn. Ar dir is, roedd patrwm anheddu fferm Trefriw-fawr wedi’i sefydlu erbyn diwedd y 18fed ganrif, er i gaeau mawr gael eu hisrannu ymhellach yn y 19eg ganrif. Datblygodd pentrefan Tyngraig yn y 19eg ganrif, ac nid oes dwywaith na roddodd agor rheilffordd Milford-Manceinion trwy’r ardal hon ym 1866 hwb i’w ddatblygiad. Adeiladwyd capel yma ym 1869.

TYNGRAIG

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon, sydd wedi’i chanoli ar ran uchaf agored dyffryn Afon Sychnant sy’n llifo i’r gogledd, yn codi o 150m yn llawr y dyffryn i 350m ar y llethrau dwyreiniol. Mae llethrau’r dyffryn at ei gilydd yn disgyn yn raddol, ond ceir rhai llethrau mwy serth i’r gogledd. O fewn yr ardal hon ceir pentrefan Tyngraig, ond at ei gilydd nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig wedi’u gosod mewn system gaeau o gaeau bach, afreolaidd eu siâp. Rhennir y caeau gan waliau sych, cloddiau caregog ac arnynt wrychoedd neu gloddiau â wyneb o gerrig â gwrychoedd. Ar y lefelau isaf mae’r gwrychoedd at ei gilydd mewn cyflwr gweddol dda a gallant gadw stoc. Po uchaf i fyny llethrau’r dyffryn y maent, mwyaf y mae’r gwrychoedd wedi’u hesgeuluso. Mae ffensys gwifrau wedi disodli gwrychoedd ar y lefelau uchaf, a hyd yn oed ar lefelau is ceir ffensys gwifrau ar hyd rhai o’r gwrychoedd a’r waliau. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir yn bennaf, er y ceir rhai caeau o dir âr. Ceir rhai clystyrau gweddol fawr o goed llydanddail a rhai planhigfeydd bach o gonifferau. Lleolir mawnog agored yn llawr y dyffryn tua rhannau uchaf Afon Sychnant.

Mae ychydig o dai modern yn ffurfio clwstwr llinellol llac ar hyd y briffordd trwy’r ardal hon. Ar wahân i’r rhain mae’r stoc o adeiladau bron i gyd yn dyddio o’r 19eg ganrif, maent wedi’u hadeiladu o gerrig a chanddynt doeau llechi. Mae’r waliau ar lawer o’r adeiladau wedi’u gadael yn foel, sy’n dangos bod yna gyflenwad parod o garreg o ansawdd da, ond mae rhai tai wedi’u rendro â sment. Mae tai, gan gynnwys ffermdai, yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, a chanddynt ddau lawr, simneiau yn y talcennau, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae traddodiad Sioraidd cryf i’w weld mewn rhai; yn arbennig y ffermdai mwy o faint, ond mae gan lawer o dai a bythynnod llai o faint nodweddion brodorol, megis enghraifft restredig Rhydgaled. Mae adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig at ei gilydd yn gymharol fawr ar gyfer y rhanbarth, ac mae gan rai ffermydd sawl rhes wedi’u gosod yn lled-ffurfiol o amgylch iard. Ni ddefnyddir rhai o’r hen adeiladau hyn bellach. Mae gan ffermydd gweithredol adeiladau allan modern o faint bach i ganolig.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn cynnwys safleoedd ôl-Ganoloesol gan mwyaf. Mae’r rhain yn cynnwys mwynglawdd metel bach, adeiladau sydd wedi goroesi megis capel a bythynnod, bythynnod anghyfannedd ar dir uwch a gefail gof. Mae cloddwaith a all fod yn gae yn dyddio o’r Oes Haearn, a maen hir posibl yn dyddio o’r Oes Efydd yn rhoi elfen dyfnder amser i’r dirwedd.

I’r gogledd diffinnir yr ardal hon gan blanhigfa o goedwigoedd yn dyddio o’r 20fed ganrif ac i’r dwyrain gan dir uwch agored a lled-agored. Ceir ardaloedd bach ond nodweddiadol wahanol o gaeau i’r de. Ni ddiffiniwyd unrhyw ardaloedd cymeriad tirwedd i’r gorllewin eto.

MAP TYNGRAIG

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221