Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

TY’N-Y-CASTELL

TY’N-Y-CASTELL

CYFEIRNOD GRID: SN 725773
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 26.6

Cefndir Hanesyddol

Yn debyg i’r ardaloedd tirwedd oddi amgylch ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon, ond erbyn y 18fed ganrif roedd ym meddiant ystad Nanteos. Mae map o’r ystad dyddiedig 1819 (LlGC Cyf 45, 31), sy’n dangos Ty’n-y-castell a Faen Grach, yn darlunio tirwedd o gaeau bach lle y ceir rhywfaint o gymysgu o ran y tir. Mae’r darn olaf hwn o dystiolaeth yn ddiddorol ac mae’n awgrymu i’r dirwedd ddatblygu o bosibl o system o gaeau isranedig neu agored; system yr oedd y broses o’i chyfuno a’i hamgáu yn tynnu at ei therfyn ar ddechrau’r 19eg ganrif. Ar wahân i gyfuno tiroedd cymysg, nid yw’r dirwedd hon wedi newid rhyw lawer ers yr arolwg ar gyfer y map o’r ystad.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Lleolir yr ardal dirwedd fach hon mewn pant cysgodol ar ymyl llwyfandir ar uchder o tua 250m uwchlaw dyffryn Afon Rheidol. Fe’i nodweddir gan system o gaeau bach, afreolaidd eu siâp o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau a gwrychoedd. Yn wahanol i ardaloedd tirwedd cyfagos mae’r gwrychoedd yn yr ardal hon yn gyfan, ac er eu bod wedi tyfu’n wyllt, gallant gadw stoc o hyd pan ychwanegir ffensys gwifrau atynt. Mae’r gwrychoedd, ynghyd ag ambell goeden wrych a chlystyrau bach o goetir collddail, yn rhoi golwg goediog i’r dirwedd sy’n cyferbynnu ag ardaloedd i’r de.

Nodweddir y patrwm anheddu gan grðp eithaf dwys o ffermydd a thai eraill. Cerrig wedi’u rendro â sment a thoeau llechi yw’r deunyddiau adeiladu traddodiadol. Mae’r mwyafrif o’r tai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae rhai tai wedi’u moderneiddio a’u hymestyn ar raddfa fawr neu maent wedi’u hailadeiladu. Ceir o leiaf un tþ modern hefyd a bwthyn o haearn (tun) rhychog yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif. Mae gan y ffermydd ddwy neu dair rhes o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig ac adeiladau amaethyddol modern bach.

Lleolir chwarel gerrig segur yn yr ardal hon.

Mae hon yn ardal dirwedd hanesyddol nodedig, ac mae’n wahanol iawn i’r ardaloedd i’r de, lle na cheir unrhyw goed nac unrhyw wrychoedd ar y cyfan. I’r gogledd ceir llethr serth a choediog iawn dyffryn Afon Rheidol.

MAP TY’N-Y-CASTELL

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221