CWM YSTWYTH UCHAFCYFEIRNOD GRID: SN 830749 Cefndir Hanesyddol Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o Faenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur (Williams 1990). Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol o leiaf roedd y faenor wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn fasnachol. Mae dogfen ddyddiedig 1545-50 (Morgan 1991) yn cofnodi ffermydd yn yr ardal hon. Erbyn 1590, roedd y teulu Herbert wedi dod caffael y rhan fwyaf o dir Cwmystwyth. Trosglwyddwyd tir Herbert i’r teulu Johnes ym 1704. Fodd bynnag, rhoddwyd llawer o diroedd yr abaty i Iarll Essex pan y’i diddymwyd ac ar ôl hynny fe’u gwerthodd i ystad Trawscoed ym 1630. Fel hyn y daeth rhywfaint o dir yn yr ardal hon i feddiant Trawscoed. Ychydig a wyddom am hanes tirwedd yr ardal hon, ond dengys mapiau o ystad Trawscoed dyddiedig 1781 (LlGC Trawscoed Cyf 1, 35, 73) ffermydd Tþ llwyd a Thþ mawr wedi’u gosod mewn tirwedd o gaeau bach, afreolaidd eu siâp ar lawr y dyffryn. Ni fu fawr ddim newid ers y dyddiad hwnnw. Adeiladwyd capel yma ym 1856 (Percival 1998, 518). Mae Cwm Ystwyth yn darparu llwybr i dir uchel i’r dwyrain a drosodd i Raeadr Gwy a’r tu hwnt. Ym 1770, adeiladwyd ffordd dyrpeg trwy’r dyffryn (Colyer 1984, 176-182); y ffordd hon oedd y prif lwybr o Geredigion i’r dwyrain am 40 mlynedd nes i ffordd dyrpeg newydd, sef ffordd bresennol yr A44, ei disodli ychydig filltiroedd i’r gogledd. Mae’r ffordd trwy Gwmystwyth bellach yn isffordd a ddefnyddir gan dwristiaid yn ystod misoedd yr haf. Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol Mae’r ardal hon yn cynnwys llawr gwastad rhan uchaf Cwm Ystwyth, ynghyd â llethrau isaf y cwm lle y ceir tir amgaeëdig. O lawr y cwm, a leolir ar uchder o 230m i 300m, mae’r llethrau’n codi’n serth i dros 500m. Cynhwysir y tir amgaeëdig ar y llethrau isaf yn yr ardal hon. Rhennir y caeau gan waliau sych a chloddiau caregog. Dim ond ar ychydig o’r cloddiau y ceir gwrychoedd erbyn hyn, ac mae’r rhain wedi’u hesgeuluso. Erbyn hyn mae ffensys gwifrau yn rhedeg ar hyd y mwyafrif o’r ffiniau hþn. Mae gan rai o’r ffiniau goed nodedig arnynt a cheir clystyrau bach o goetir prysglog. Tir pori wedi’i wella yw’r tir amaeth gan mwyaf, ond ceir llawer o ddarnau o dir brwynog, mwy garw ar lawr y cwm, ac mae rhai o’r caeau ar y llethrau isaf yn dechrau troi’n rhostir unwaith eto. Mae’r ffermydd wedi’u gwasgaru ar hyd llethrau isaf yr ardal hon. Ar wahân i ychydig o dai a byngalos modern, mae’n debyg bod yr adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif, maent wedi’u hadeiladu o gerrig (wedi’u rendro â sment ar dai fel arfer), a chanddynt doeau llechi. Fodd bynnag, un eithriad yw tþ’r fferm fwyaf yn y dirwedd hon, sy’n adeilad sylweddol (ar gyfer y rhanbarth) yn yr arddull Sioraidd yn dyddio o’r 18fed ganrif yn ôl pob tebyg. Mae gan y fferm hon adeiladau allan mawr wedi’u hadeiladu o gerrig. Mae ffermydd eraill yn llai o faint a chanddynt dai yn y traddodiad brodorol Sioraidd rhanbarthol yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae adeiladau allan y ffermydd hyn yn cynnwys un neu ddwy res fach wedi’u hadeiladu o gerrig. Ceir fferm anghyfannedd a chanddi adeiladau allan o gerrig wedi’u gosod yn lled-ffurfiol o amgylch iard. Mae gan ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol modern bach. Nid yw archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn niferus nac yn amrywiol. Mae olion mwynglawdd metel bach o ddiddordeb. Mae hon yn ardal dirwedd hanesyddol nodedig iawn ac iddi
ffiniau pendant. I’r gorllewin ceir olion cloddio helaeth Cwmystwyth,
ac ar bob ochr arall ceir rhostir uchel, agored.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221 |