Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

WAUN WYDDYL

WAUN WYDDYL

CYFEIRNOD GRID: SN 669874
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 385.4

Cefndir Hanesyddol

Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal fach hon o dir uchel. Ar y map degwm (Llanfihangel Geneu’r glyn, 1847) fe’i dangosir fel tir agored, ac mae’n debyg yr ystyrid mai tir y Goron ydoedd, sefyllfa a fodolai yn ôl pob tebyg am nifer o ganrifoedd cyn 1847. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif rhannwyd yr ardal yn gaeau mawr iawn. Sefydlwyd fferm wynt yma bellach.

WAUN WYDDYL

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys bryn crwn, sy’n codi i dros 340m o uchder mewn mannau. At ei gilydd mae’r llethrau’n disgyn i 250m, ond mae rhai o’r llethrau mwy serth yn disgyn i lai na 150m. Arferai fod wedi’i rhannu’n gaeau mawr gan gloddiau – nid oes unrhyw wrychoedd erbyn hyn, er bod llwyni eithin yn tyfu ar rai cloddiau – ond mae’r gwrychoedd hyn bellach yn afraid i raddau helaeth ac erbyn hyn mae ffensys gwifrau yn darparu ffiniau cadw stoc. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf, ond ceir pantiau brwynog a mawnaidd yn ogystal â thir pori mwy garw a rhedyn ar y llethrau mwy serth. Nid oes unrhyw aneddiadau cyfannedd. Mae rheilffordd/tramffordd fyrhoedlog (a agorwyd ym 1897) yn croesi’r llethrau gogleddol is. Adeiladwyd fferm wynt yn ddiweddar ar gopa’r bryn.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn bennaf yn cynnwys olion mwyngloddiau metel dinod ar lethrau gogleddol a chopa’r ardal. Mae caer drawiadol yn dyddio o’r Oes Haearn, dau grug crwn posibl yn dyddio o’r Oes Efydd a dau faen hir posibl yn dyddio o’r Oes Efydd yn rhoi dyfnder amser i’r dirwedd hon.

WAUN WYDDYL MAP

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]